Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau)

​​​Gall systemau draenio traddodiadol gynyddu’r perygl o lifogydd a’r perygl o lygru yn ddifrifol. Lluniwyd Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau) i ddynwared y broses ddraenio naturiol a dileu’r peryglon hyn.

 
Mae hyn er mwyn cynnal ansawdd y dŵr a chyfyngu ar faint ohono sy'n gadael safle. 

 
Nod SDCau yw sicrhau mannau gwyrddion sy’n annog amrywiaeth o fywyd gwyllt a llesiant.  Gwyliwch y fideo i gael rhagor o wybodaeth am fuddion SDCau.   
   

Video id: LMq6FYiF1mo
 
O 7 Ionawr 2019, bydd rhaid i bob datblygiad newydd o 1 dŷ neu fwy, neu safle adeiladu sy’n 100m2 neu fwy, gael draeniau cynaliadwy i reoli’r dŵr wyneb ar y safle. Rhaid cynllunio a chreu’r systemau draenio dŵr wyneb yn unol â safonau gofynnol ar gyfer draenio cynaliadwy a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.

Rhaid i’r systemau hyn gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol sy’n gweithredu yn rhinwedd ei rôl fel Corff Cymeradwyo SDCau (CCS), a hynny cyn cychwyn ar y gwaith adeiladu. Bydd dyletswydd ar y Corff hwn i fabwysiadu systemau sy’n cydymffurfio cyhyd â’u bod yn cael eu hadeiladu ac yn gweithredu’n unol â’r cynigion cymeradwy, gan gynnwys unrhyw amodau’r CCS.

Yn ôl Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr (FWMA) 2010, rhaid i ddraeniau dŵr wyneb ar ddatblygiadau newydd gydymffurfio â Safonau Cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy (SDCau). Bydd y safonau statudol yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn yr hydref, ond yn y cyfamser, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Safonau Cenedlaethol Gweinidogol Statudol​​​​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd a’r CIRIA 753: Y Llawlyfr SDCau.​​​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

Mae Atodlen 3 FWMA 2010 hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol fel Corff Cymeradwyo SDCau i gymeradwyo, mabwysiadu a chynnal systemau sy’n cydymffurfio ag adran 17 yr Atodlen. I gael rhagor o wybodaeth am y ddeddfwriaeth, ewch i Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.​​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Mae’r CCS yn swyddogaeth statudol sy’n cael ei chynnal gan yr awdurdod lleol i sicrhau bod cynigion draenio ar gyfer pob datblygiad newydd o 1 tŷ neu fwy, neu ar safle adeiladu sy’n fwy na 100m2, wedi’u cynllunio a’u hadeiladu yn unol â’r safonau cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.

Sefydlwyd y CCS i:​​

  • Werthuso a chymeradwyo ceisiadau draenio ar gyfer datblygiadau newydd lle mae goblygiadau draenio i’r gwaith adeiladu, a 
  • Mabwysiadu a chynnal systemau draenio dŵr wyneb cynaliadwy yn unol ag Adran 17 Atodlen 3 (FWMA),
  • Mae gan y CCS y rym i archwilio a gorfodi hefyd,
  •  Ac mae’n defnyddio ei bwerau disgresiynol i gynnig cyngor cyn-ymgeisio anstatudol.

Boed yn ddatblygwr, yn asiant neu’n unigolyn sy’n ceisio caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad, os yw eich datblygiad yn fwy nag 1 tŷ neu ar safle adeiladu 100m2 neu fwy, rhaid i chi geisio cymeradwyaeth gan CCS ynghyd â chael caniatâd cynllunio. Ni fydd hawl gennych ddechrau’r gwaith adeiladu tan i chi gael y ddau ganiatâd.

Ni fydd yn rhaid i safleoedd a datblygiadau sy’n bodoli eisoes ac sydd â chaniatâd cynllunio, neu yr ystyrir iddynt gael caniatâd cynllunio (boed yn destun unrhyw amodau fel mater a gadwyd yn ôl ai peidio), neu os yw’r caniatâd cynllunio wedi dod i law ond heb ei bennu erbyn 7 Ionawr 2017, wneud cais am gymeradwyaeth gan y CCS.

Fodd bynnag, bydd angen cymeradwyaeth gan y CCS os cafodd y caniatâd cynllunio ei roi yn ddibynnol ar amod fel mater a gadwyd yn ôl ac nid yw’r mater a gadwyd yn ôl yn cael ei gymeradwyo cyn 7 Ionawr 2020. 

Bydd rhai eithriadau:
  • Nid oes angen caniatâd y CCDC ar waith adeiladu nad oes angen caniatâd cynllunio. Ond bydd angen caniatâd y CCDC ar waith adeiladu dros arwynebedd o 100m2 neu fwy.
  • Nid oes angen caniatâd y CCDC ar waith adeiladu ar arwynebedd o lai na 100m2, ni waeth a oes angen caniatâd cynllunio ai peidio.
Bydd y CCS yn cynnig gwasanaeth cyn-ymgeisio â thâl i drafod manylion gofynion draenio eich safle a’r hyn sydd angen ei gyflwyno gyda’ch cais. Bydd y gwasanaeth ar wahân o’r gwasanaeth cyn-ymgeisio am ganiatâd cynllunio, felly bydd angen i chi gysylltu â’r gwasanaethau perthnasol yn gynnar. Bydd hyn yn sicrhau bod y cynllun SDCau a gynigir yn addas ac yn cydymffurfio â safonau cenedlaethol a bod cynllun y safle’n addas. Bydd y gwasanaeth yn werthfawr i ddatblygwyr i’w helpu i osgoi oedi a lleihau’r costau yn yr hirdymor.  

Rhaid cyflwyno ceisiadau’n llawn i’r CCS i’w dilysu, ynghyd â:
  • ​chynllun yn nodi’r safle adeiladu a graddau’r system ddraenio, 
  • gwybodaeth am sut fydd y gwaith adeiladu’n cydymffurfio â Safonau SDCau,
  • y wybodaeth y gofynnwyd amdani ar restr wirio’r ffurflen gais, a
  • y ffi briodol ar gyfer y cais. 

Bydd gan y CCS 7 wythnos i benderfynu ar geisiadau ac eithrio’r rhai sydd angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol. Bydd ganddo 12 wythnos i benderfynu ar y rheiny. 

Dyswch sut i wneud cais am SDCau.​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Bydd y gofynion cymeradwyo hyn yn weithredol o 7 Ionawr 2019 ac rydym ar hyn o bryd yn trefnu ein gwasanaeth newydd i ddelio â’ch ceisiadau yn ogystal â thudalen we bwrpasol i roi unrhyw wybodaeth ychwanegol i chi wrth iddi ddod ar gael.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y broses newydd hon, cysylltwch â ni ​​CCDC@caerdydd.gov.uk​​​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

Mae llawer o wybodaeth ar gael ac mae’r tudalennau gwe canlynol yn adnodd ddefnyddiol ac am ddim i’ch helpu i ddeall mwy am Ddraenio Cynaliadwy a’r hyn fydd angen i chi ei ystyried.


​​​
​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​

​​
​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd