Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi derbyn cymeradwyaeth Gweinidog Cynllunio Cymru i gyflwyno rheolaethau lleol dros godi arwyddion gosod tai yn wardiau Cathays a Phlasnewydd. Bydd y rheolaethau hyn yn dod i rym o 1 Hydref 2015.
Cyflwynwyd y cais ar 21 Hydref 2014 ac fe’i cymeradwywyd ar 23 Ebrill 2015.
Y rheswm am y Cyfarwyddyd yw bod cynifer o arwyddion wedi’u gosod fel eu bod yn effeithio’n andwyol ar gymeriad ac ymddangosiad yr ardal a lles cymunedau preswyl.
Gelwir hyn yn ‘Cyfarwydd Rheoliad 7’ sy’n dileu hawliau arferol (a elwir yn ‘Caniatâd Tybiedig’) i arddangos arwyddion o’r fath heb ganiatâd oni bai eu bod yn bodloni
meini prawf llym (PDF 1.82 MB)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Cyhoeddwyd
hysbysiad cyhoeddusDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd ar ddechrau mis Medi 2015 yn cadarnhau dyddiad gweithredu o 1 Hydref 2015 .
O’r dyddiad hwn bydd yn anghyfreithlon i godi arwyddion gosod tai os nad ydynt yn bodloni’r meini prawf o fewn yr ardal reoli oni bai bod ganddynt ganiatâd i hysbysebu, cymerir camau gorfodi yn erbyn y partïon sy’n gyfrifol am arddangos yr hysyseb.
Dogfennau Cyfarwyddyd Rheoliad 7
Cysylltwch â ni ar-lein
Cysylltu â ni