Mae gan Gaerdydd wyth Safle Strategol (sy'n cynnwys 500 neu fwy o anheddau a / neu ddefnyddiau cyflogaeth sylweddol), sydd wedi'u dyrannu drwy'r
Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) er mwyn helpu i ddiwallu'r angen am gartrefi a swyddi newydd ledled y ddinas.
Er mwyn helpu i sicrhau bod y cartrefi a'r swyddi newydd hyn yn ffurfio rhan o gymunedau sydd wedi'u cynllunio'n dda, mae'r cynllun datblygu lleol yn nodi dull 'uwchgynllunio' ar gyfer cyflawni'r safleoedd strategol, lle mae seilwaith ategol fel coridorau trafnidiaeth gynaliadwy, ysgolion, cyfleusterau cymunedol a mannau gwyrdd yn cael eu darparu fel rhan o'r datblygiadau.
Cynhyrchwyd cyfres o ddogfennau monitro i roi crynodeb wedi'i ddiweddaru'n rheolaidd o weithgarwch datblygu ym mhob lleoliad, gan gynnwys manylion am:
-
Hanesion Cynllunio: Pan fydd ceisiadau newydd wedi'u derbyn a pha geisiadau sydd wedi'u penderfynu (wedi cymeradwyo),
-
Gweithgaredd Datblygu: Pa safleoedd sy'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd ac yn ddangosydd o sawl cartref/safle sydd wedi'u cwblhau,
-
Seilwaith: Y seilwaith ategol y cytunwyd arno drwy gytundebau S106 (cyfreithiol) a manylion am y gwaith hwnnw a phrosiectau cysylltiedig eraill sydd ar y gweill, neu sy'n cael eu rhoi ar waith ar hyn o bryd.
Gweld
Safleoedd Strategol CDLl Caerdydd ar fapDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd.
Mae’r wybodaeth yn y ddogfennau hon wedi’i dylunio i’w hargraffu ac efallai na fydd modd gweld popeth ar-lein.
Trafnidiaeth
Er mwyn helpu i sicrhau bod gan ymwelwyr, trigolion a gweithwyr Caerdydd presennol ac yn y dyfodol ddewisiadau eraill i geir preifat a'u bod yn gallu dewis cerdded, seiclo a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i wneud eu teithiau dyddiol, mae cyfres o welliannau priffyrdd a thrafnidiaeth yn cael eu darparu ynghyd â datblygiadau newydd.
Polisiau, Cynlluniau a Phrojectau Trafnidiaeth
Cysylltu â ni
Creu lleoedd
Ystafell 223
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW
Cysylltu â ni