Mae ceisiadau cynllunio yn gyhoeddus.
Gallwch weld y newyddion diweddaraf, gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio cyfredol a gweld achosion hanesyddolDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd yng Nghaerdydd hefyd.
Gallwch weld a dilyn cais cynllunio hyd yn oed os na wnaethoch gais neu os nad yw’r gwaith a gynlluniwyd yn effeithio’n uniongyrchol arnoch chi neu’ch eiddo.
Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf ar-lein, drwy alw i'n gweld ni neu drwy’r post:
Ar-lein
Cofrestru ar-lein
- Nid oes cost am gofrestru ar-lein
- Bydd angen cyfeiriad e-bost arnoch a gofynnir i chi roi eich enw cyntaf ac olaf.
- Ewch i’r adran gwneud cais ar-lein
- Cliciwch y botwm ‘cofrestru’
- Llenwch yr adrannau ar y ffurflen. Rhaid i adrannau â seren (*) wrthynt gael eu llenwi i gwblhau’r broses gofrestru.
- Gofynnir i chi greu cyfrinair.
- Unwaith i chi glicio ‘cyflwyno’ cewch gadarnhad dros e-bost i’r cyfeiriad a roddwch. Rhaid i chi glicio’r ddolen yn yr e-bost i orffen eich cofrestriad.
Mewngofnodi
- Os ydych eisoes wedi cofrestru, cliciwch y tab ‘mewngofnodi’ pan ewch i’r adran gwneud cais ar-lein.
- Bydd angen i chi nodi’ch cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair i fewngofnodi.
Chwilio am gais cynllunio
Mae pedair ffordd wahanol o chwilio am gais cynllunio cyfredol yn dibynnu ar faint o wybodaeth sydd gennych am y cais rydych am ddod o hyd iddo. Gallwch:
- chwilio am geisiadau penodol
- pori drwy restrau mewn cod post penodol neu fesul stryd. chwilio am wahanol fathau o geisiadau drwy glicio’r ‘tabiau’ uwch y blwch chwilio ar y dudalen.
(Nid oes angen i chi gofrestru ar-lein na mewngofnodi i chwilio, er os nad ydych wedi mewngofnodi ni fyddwch yn gallu cadw chwiliadau na rhoi sylwadau).
Syml: Chwilio drwy ddefnyddio cod post llawn neu ran o god post, neu un llinell o gyfeiriad, e.e. enw stryd, allweddair, cyfeirnod llawn neu ran o gyfeirnod. Mae’r cyfeirnod yn ddeg digid a bydd bob amser yn dilyn y fformat 12/12345/ABC. Os nad ydych yn gwybod y cyfeirnod llawn, gallwch osod y symbol canran ‘%’ yn lle un o’r digidau, e.e. 01/1234%. Dylai’r cyfeirnod gael ei nodi’n glir ar bob hysbysiad cyhoeddus a phob darn o waith papur sy’n ymwneud â’r cais.
Manwl: Mae hyn yn eich galluogi i roi gwybodaeth fanylach am y cais rydych yn chwilio amdano, ac mae’n ddefnyddiol os oes angen i chi ddod o hyd i gais penodol. Gallwch chwilio gan ddefnyddio dyddiadau perthnasol, enw’r person a gyflwynodd y cais, neu amrywiaeth o ffactorau eraill.
Rhestrau wythnosol/misol: Bob dydd Gwener byddwn yn cyhoeddi rhestr o wybodaeth am yr holl geisiadau cynllunio sy’n gyfredol a cheisiadau y penderfynwyd arnynt yn ddiweddar. Gallwch, fodd bynnag, chwilio am gais drwy ddefnyddio'r dyddiad a gwybodaeth ychwanegol ddewisol fel Statws neu ym mha un o wardiau Caerdydd y mae, er mwyn cael gwybodaeth fyw amdano.
Eiddo: Gallwch chwilio am geisiadau cynllunio drwy nodi’r cyfeiriad (llawn neu rannol) lle y bwriedir i’r gwaith fynd rhagddo. Gallwch chwilio am gyfeiriad os ydych yn gwybod y manylion, neu glicio ar y botwm ‘Chwilio Strydoedd A-Y’ am unrhyw geisiadau yng Nghaerdydd, a gaiff eu rhestru fesul stryd.
Pan gliciwch ar y cais perthnasol, bydd yn dangos yr holl ddogfennau, amlinelliadau, lluniau a chynlluniau perthnasol.
Cadw chwiliad
Rhaid i chi gofrestru ar-lein (gweler yr adran uchod) a mewngofnodi i wneud hyn.
Pan gaiff canlyniadau’r chwiliad eu rhestru ceir tri opsiwn ychwanegol os ydych wedi mewngofnodi ar y system. Rhestrir y rhain ochr yn ochr ar ochr dde uchaf y canlyniadau chwilio. Y rhain yw:
Newid Chwiliad – yn gadael i chi newid manylion y chwiliad.
Cadw Chwiliad – bydd hyn yn cadw’r chwiliad ar eich proffil, ac yn dangos y chwiliad bob tro y byddwch yn mewngofnodi i’r system, onid ydych yn ei ddileu. Mae opsiwn ychwanegol ar y cam hwn i chi gael negeseuon am unrhyw newidiadau (e.e. ychwanegu ceisiadau cynllunio newydd) i’ch chwiliad dros e-bost. Er enghraifft, gallech wneud chwiliad am geisiadau cynllunio ar eich stryd, a byddech yn cael gwybod am unrhyw geisiadau newydd drwy e-bost.
Fersiwn i'w argraffu – bydd y fersiwn hwn yn agor ffenestr newydd yn eich porwr, gan ddangos eich canlyniadau chwilio mewn fformat y gellir ei argraffu.
Cyflwyno sylwadau
- Rhaid i chi gofrestru ar-lein (gweler yr adran uchod) a mewngofnodi i wneud hyn.
- Chwiliwch am y cais cynllunio penodol rydych am ei weld a chliciwch y tab ‘Sylwadau’.
- Os ydych wedi mewngofnodi, bydd eich holl fanylion personol yn ymddangos yn awtomatig. Darllenwch y rhain yn ofalus cyn cyflwyno’ch sylw.
- Ni chaiff eich cyfeiriad, rhif ffôn na chyfeiriad e-bost eu cyhoeddi gyda’ch sylw.
Dilyn cais cynllunio / Stopio dilyn
- Rhaid i chi gofrestru ar-lein (gweler yr adran uchod) mewngofnodi i wneud hyn.
- Mae’r gwasanaeth hwn am ddim.
- Rhaid i chi ddangos y cais penodol rydych am ei ddilyn ar y sgrîn, yn hytrach na’ch canlyniadau chwilio cyffredinol neu restr o geisiadau.
- Cliciwch y tab ‘dilyn’.
- Caiff y cais hwn ei gadw dan ‘Ceisiadau rydych yn eu dilyn’ a gallwch ei weld bob tro y byddwch yn mewngofnodi drwy glicio ar y tab ‘Fy Mhroffil’.
- Pan fyddwch yn dilyn cais, cewch wybod bob tro y mae newid yn cael ei wneud i’r cais dros e-bost.
- Gallwch ddilyn mwy nag un cais ar yr un pryd.
- Gallwch stopio dilyn cais drwy fewngofnodi, clicio ‘Fy Mhroffil’ ac yna ‘Ceisiadau rydych yn eu dilyn’, a chlicio’r groes goch wrth y cais/ceisiadau nad ydych am eu dilyn mwyach.
Mewn person a thrwy’r post
I drefnu apwyntiad i weld cais cynllunio hanesyddol (cyn 2007), neu i gael rhagor o fanylion, cysylltwch â ni.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os na allwch ddod o hyd i’r cais cynllunio rydych am ei weld, cysylltwch â ni i gael cyngor ar sut i ddefnyddio ein system ar-lein neu sut i gysylltu â chynghorau cyfagos.
Gwrthwynebu cais cynllunio.
Cysylltwch â ni Ar-lein