Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Y ddiweddaraf gan Y Gynghorydd Caro Wild

Ers dechrau ar y rôl hon ychydig flynyddoedd yn ôl, rw​yf wedi darganfod mai ychydig iawn o bethau yng Nghaerdydd sy’n fwy o destun trafod ymysg preswylwyr nag adeiladu tai a thrafnidiaeth.

Yn bennaf, bydd pobl yn gofyn (neu’n dweud) wrthyf fi, “Sut ar y ddaear allet ti ganiatáu mwy o dai i gael eu hadeiladu pan fo’r ffyrdd eisoes mor brysur? Pam nad yw’r seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei wella cyn adeiladu’r tai newydd?” Yn aml iawn bydd pobl yna ategu hyn gyda, “Wyt ti’n gall?”

Wrth gwrs, mae’r rhain yn gwestiynau rhesymol iawn a gobeithiaf y byddwch yn rhoi’r cyfle i mi geisio eu hateb.

Beth am ddechrau gyda’r un cyntaf. Mae’n siŵr ei bod hi’n deg i ddweud, os ydych yn ei ystyried o safbwynt dinesydd nodweddiadol Caerdydd sy’n gyrru i’w waith yn y ddinas bob dydd, yn brwydro am le ar y ffordd ymysg yr 80,000 o geir eraill sy’n cymudo o du allan i ffiniau’r ddinas, yna ydy – mae adeiladu mwy o dai a chreu rhagor o draffig yn swnio fel y syniad mwyaf ‘gwallgof’ erioed.

Felly sut allwn ni gyfiawnhau caniatáu i ddegau o filoedd yn fwy o dai gael eu hadeiladu yn ffiniau Caerdydd, gyda’r holl draffig ychwanegol cysylltiedig?

Wel, yn gyntaf, mae Caerdydd yn tyfu ac mae pobl angen tai. Mae ein dinas yn llwyddiant. Ni yw’r ddinas sy’n tyfu gyflymaf yn y DU y tu allan i Lundain gyda rhagamcan o dwf dros 20% rhwng 2015 a 2035 (72,000 o bobl ychwanegol). Mae pobl eisiau byw yma a gweithio yma. Pam? Yn syml, does dim llawer o ddinasoedd eraill yn y DU all warantu ansawdd bywyd a fforddiadwyedd Caerdydd. Dydyn ni ddim yn unigryw o ran y twf hwn – mae’r CU yn tybio y bydd 68% o boblogaeth y byd yn byw mewn ardaloedd dinesig erbyn 2050.

Hyd yn oed pe byddai modd dewis peidio ag adeiladu rhagor o dai, i leddfu’r twf hwnnw mae’n debygol y byddai’r argyfwng tai yr ydym yn ei wynebu’n llawer mwy na’r un yr ydym yn ei wynebu nawr. Argyfwng sy’n golygu bod 8,000 o bobl ar restr aros y Cyngor yn chwilio am dŷ fforddiadwy. Byddai prisiau tai yn hedfan i fyny wrth i’r cyflenwad fynd yn llai, a byddai’r rheiny â llai o arian yn methu’r cyfle i fynd ar yr ysgol dai o gwbl. Yn y cyfamser, byddai’r ddinas yn sefyll yn ei hunfan, a swyddi’n mynd i rywle arall.

Felly, i mi, nid yw rhoi stop ar dwf yn opsiwn, ddim pan fod ar bobl angen to uwch eu pennau a swyddi, ddim pan fo gennym ddinas yn barod i fanteisio ar dwf a’r hwb economaidd enfawr all greu i’r rhanbarth ac i Gymru.

Felly os ydym yn derbyn bod gennym ddinas sy’n tyfu a bod hynny’n beth da, sut ydym yn rheoli’r cynaliadwyedd twf?


Dyma lle mae cynllunio’n bwysig, a dyma beth sy’n arwain at y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a ‘thwf a reolir’ sef yr hyn y mae’r CDLl yn ein galluogi i wneud.

Yn gyntaf, un peth i fod yn glir amdano, nid yw cael CDLl yn ddewis. Mae rhoi cynllun ar waith yn rhan o ddyletswydd yr Awdurdod Lleol. A byddai bod heb gynllun yn cyfyngu ar ein gallu i reoli neu wrthod cynigion datblygu amhriodol.

Rwyf wedi clywed cymaint o anwiredd ac wedi darllen cymaint o ddatganiadau camarweiniol ynghylch CDLl Caerdydd, felly roeddwn am roi ychydig o amser i egluro pethau (gobeithio!). Felly beth am geisio egluro rhai ohonynt wrth edrych yn fanylach ar beth yn union yw CDLl.


Mater 1: Mae tai ac ystadau anferth yn cael eu hadeiladu yn y ddinas heb ystyried sut byddant yn effeithio ar y bobl sy’n byw yng Nghaerdydd nawr.



Nid yw hynny’n wir: Mewn gwirionedd, heb CDLl a reolir, byddai gan ddatblygwyr gyfle gwell i adeiladu’n union beth y mynnent, lle y mynnent, a byddai’n anodd iawn i’r Cyngor eu rhwystro nhw. Mae’r CDLl yn rhoi cyfle i’r Cyngor roi galwadau ar ddatblygwyr, mae’n ein galluogi ni i uwchgynllunio’r ddinas fel ei bod yn addas ar gyfer y dyfodol.

Yn y gorffennol, mae cymunedau adeiledig yn aml wedi bod yn gyfres o ddatblygiadau eithaf rhanedig nad ydynt yn gweddu i’w gilydd, gyda diffyg seilwaith amlwg megis llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus neu ysgolion hyd yn oed.
Mae’r CDLl yn ein galluogi i uwchgynllunio ardal ymlaen llaw, ac yna mae’n golygu bod rhaid i ddatblygwyr adeiladu o fewn y fframwaith hwnnw.

Golyga hyn y gall safleoedd gwahanol gael eu hadeiladu ar adegau gwahanol, gan ddatblygwyr gwahanol, ond mae’n rhaid iddynt oll weithio o fewn fframwaith. Yna, mae disgwyl i ddatblygwyr gyfrannu at seilwaith mwy sylweddol yn rhan o’r cynllun hwn, ac mae modd gwneud hyn mewn camau. Mae hyn yn gweithio’n benodol o dda os yw’n ardal fwy, gan alluogi cynlluniau i gynnwys ysgolion, parciau, siopau, cysylltiadau trafnidiaeth a chanolfannau iechyd, sy’n adeiladu cymunedau newydd sy’n gweithio fel lleoedd i fyw ac ystyried cymunedau cyfagos.


Mater 2: Does dim disgwyl i ddatblygwyr gynnig neu dalu am seilwaith allweddol. Maent yn cael eu gyrru gan adeiladu cymaint o dai â phosibl i wneud cymaint o arian â phosibl.



Er na allaf wneud sylw ar gymhelliant datblygwyr eiddo, na rheoli eu helw, yn sicr mae disgwyl iddynt gyflawni’r seilwaith cymdeithasol cytunedig, tai fforddiadwy a darpariaeth drafnidiaeth.
  
Mae’r seilwaith sy’n cael ei adeiladu yn rhan o’r CDLl yng Nghaerdydd yn drawiadol. Wyddoch chi y bydd y safleoedd yng ngogledd-orllewin Caerdydd yn cynnig:

  • Pum ysgol gynradd;
  • Un ysgol uwchradd newydd;
  • Pedair canolfan siopa leol;
  • Un ganolfan ranbarthol newydd ;
  • Hyb Cymunedol a chyfleuster iechyd;
  • Cyfleuster parcio a theithio newydd â chapasiti ar gyfer 1,500 o geir;
  • Parciau, lleiniau, rhandiroedd ac ardaloedd chwarae plant;
  • Buddsoddiad gwyrdd a lliniariadau ecolegol;
  • Oddeutu 2,000 o dai fforddiadwy newydd.


Mater 3: Ond pam nad yw ffyrdd ac ysgolion yn cael eu hadeiladu cyn i ddatblygwyr gael cymeradwyaeth?



Mae hwn yn gwestiwn da arall yr ydw i’n ei glywed yn aml. Pan mae’n dod i adeiladu seilwaith, a chysylltiadau trafnidiaeth yn benodol, yn anffodus, nid oes gan y DU y fframwaith economaidd na pholisi i sicrhau bod y pethau hyn oll ar waith ymlaen llaw, a does gan Awdurdodau Lleol ddim arian i adeiladu pethau. Yn hytrach, mae llawer o’r seilwaith yn cael ei adeiladu gan y datblygwyr yn ystod camau twf allweddol, yn aml yn defnyddio sbardunwyr a throthwyon (yn seiliedig ar nifer y bobl sy’n symud i mewn) felly mae’n rhaid i’r datblygwyr gyflawni.

O ran ysgolion, er enghraifft, mae hyn yn gwneud synnwyr da, gan na fyddech yn gallu cynnal ysgol gyda llond llaw yn unig o ddisgyblion. Mae seilwaith trafnidiaeth addas hefyd yn rhan o’r cynllun, ac mae trafnidiaeth gyhoeddus yn golygu bod rhaid i deithwyr fod yn hyfyw, ond rwy’n cytuno nad yw hyn yn digwydd mor gynnar ag sy’n ddelfrydol bob tro, a hoffwn weld lefelau gwahanol o’r llywodraeth yn cydweithio ar hyn i ddod o hyd i ffyrdd o ryddhau cyllid yn gynt.


Mater 4: Mae mwy o dai’n golygu mwy o geir sy’n golygu mwy o dagfeydd. Rydym yn gwybod y gall traffig ddod i stop nawr os yw un briffordd yn arafu - pa mor ddrwg fydd pethau yn y dyfodol?



Mae gan y ddinas hon rwydwaith ffyrdd sydd wedi’i ddylunio ar gyfer poblogaeth o 200,000, ond heddiw mae’r boblogaeth oddeutu 400,000 ac mae gennym 100,000 o gymudwyr eraill yn teithio o du allan i ffiniau’r ddinas i weithio yng Nghaerdydd bob dydd – a’r rhan fwyaf ohonynt mewn ceir.

Mae’r safleoedd datblygu yng ngogledd-orllewin Caerdydd wedi’u dylunio i fod ymhlith y cymunedau mwyaf cynaliadwy yn y DU, gyda beicio a cherdded drwyddynt draw. Mae disgwyl hefyd i dros £20 miliwn gael ei fuddsoddi mewn llwybrau bysus a gwasanaethau, ynghyd â gwelliannau i gyffyrdd. Mae llawer o’r gwaith hwn yn mynd rhagddo yn lleol ar hyn o bryd, ac mae modd ei weld yn bellach i lawr y coridor trafnidiaeth gyda lonydd bysus newydd o amgylch Heol y Gadeirlan.

Ond gadewch i mi fod yn glir, ni fydd problemau tagfeydd traffig yn cael eu hachosi gan breswylwyr newydd ym Mhlasdŵr yn unig. Mae angen i ni gael pobl allan o’u ceir ledled y rhanbarth cyfan. Nid yw traffig yn creu tagfeydd yn unig, mae hefyd yn creu llygredd aer sy’n niweidio ein hiechyd ac yn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Dyma pam y gwnaethom gyhoeddi ein gweledigaeth drafnidiaeth yr ydym yn credu y gall helpu Caerdydd i ddod yn un o’r dinasoedd mwyaf gwyrdd a chynaliadwy yn y DU.

Gallwch ddarllen mwy am y weledigaeth drafnidiaeth​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​​. Yn rhan o’r weledigaeth hon mae llinell fetro Crossrail Caerdydd, fyddai’n cysylltu’r datblygiadau newydd yng ngogledd orllewin y ddinas â chanol y ddinas. Yr hyn sydd wedi galluogi hyn i ddigwydd yn rhannol oedd y CDLl wnaeth ddatgan yn glir yr oedd angen amddiffyn mynediad Metro drwy safleoedd Plasdŵr, Cyffordd 33 a De Creigiau.


Mater 5: Does dim angen adeiladu ar safleoedd maes glas, mae digonedd o safleoedd tir llwyd ar gael.



Os ydych yn byw yng Nghaerdydd, mae bron yn sicr bod eich tŷ chi wedi bod mewn cae ar un adeg. Er hynny, mae’r rhan fwyaf o dai a adeiladwyd yn ddiweddar WEDI cael eu hadeiladu ar safleoedd tir llwyd. Dros y ddeng mlynedd diwethaf, mae bron 90% o’r tai sydd newydd eu hadeiladu wedi bod ar safleoedd tir llwyd. 

Mae hyn yn cynnwys rhannau helaeth o Butetown a Grangetown, Sblot, ac yn fwy diweddar y datblygiadau newydd ym Melin Trelái yn Nhreganna. Ac er bod ‘dwysedd’ canol y ddinas yn cael ei ystyried yn fwy cynaliadwy na thwf tir llwyd, dylem gadw mewn cof bod y datblygiad hwn yn aml yn effeithio ar gymunedau presennol.

Ond hyd yn oed gyda ffocws parhaus ar safleoedd tir llwyd, megis cynlluniau Dumballs Road a’r cannoedd o dai cyngor newydd sy’n cael eu hadeiladu ar draws y ddinas, ni fydd hyn yn ateb y galw. Yn ddiddorol iawn, yn 2010 cynigiodd Cyngor Caerdydd CDLl yn cynnwys safleoedd tir llwyd yn unig, ac roedd yn rhaid ei dynnu yn ôl gan fod yr arolygiaeth gynllunio yn credu nad oedd y dull yn gadarn ac nad oedd lle ar gael. Ac rwy’n mynd yn ôl i gychwyn y darn hwn – mae’n rhaid i ni gynnig tai i bobl.

Er hynny, mae ein CDLl yn sicrhau bod gofod gwyrdd yn cael i gadw y tu mewn i’r datblygiadau ac o’u hamgylch.

Mae coridorau gwyrdd y ddinas yn rhai parhaus ac mae parciau a gofodau gwyrdd hygyrch yn rhan fawr o’r twf hwn. Mae safonau uchel hefyd ar waith ar gyfer natur a bioamrywiaeth, gyda chanllawiau manwl ar ardaloedd megis coed, llwyni, draenio cynaliadwy, ecoleg a bioamrywiaeth. Mae’r canllawiau’n cynnwys gofynion ar gyfer pethau megis bocsys ystlumod ac adar, a hyd yn oed bylchau o dan ffensys i alluogi draenogod i grwydro.

Mae rheoli twf mewn modd cynaliadwy yn sicr yn her i ddinasoedd, yn enwedig ynghylch trafnidiaeth. Ond rwy’n credu bod CDLl presennol Caerdydd yn gadarn ac yn bolisi synhwyrol i’n helpu ni i reoli’r twf yr ydym yn ei wynebu. Rwy’n gobeithio eich bod chi wedi mwynhau darllen fy syniadau. Rydym yn wynebu her fawr i adeiladu dinas ar gyfer y dyfodol, dinas gynaliadwy a dinas iachus. Dinas yn llawn cyfleoedd ac sydd â chydraddoldeb wrth ei gwraidd, dinas lle gall pawb elwa ar y twf yr ydym yn ei brofi. Gobeithio nad yw hynny’n swnio’n rhy wallgof, yw e?

Oes gennych ddiddordeb mewn gweld faint o ysgolion a phrojectau seilwaith y bydd 8 o safleoedd datblygu strategol y CDLl yn dod i’r ddinas? Gallwch gael gwybodaeth ar gynlluniau a chynnydd y CDLl​.




​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​