Efallai bod angen i chi darparu tystiolaeth i gefnogi eich cais am Fudd-dal Tai, Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, Daliad Tai yn ôl Disgresiwn, neu cyn gallwn weithredu newid yn eich amgylchiadau. Byddwn yn cynghori unrhyw beth fydd angen i chi ei ddarparu.
Os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol ni fydd angen unrhyw dystiolaeth bellach arnom o'ch incwm, cyfalaf na threuliau, ond bydd angen i ni weld copi o'ch datganiad Credyd Cynhwysol sy'n cynnwys:
- dadansoddiad llawn o'ch lwfans personol a thai
- manylion unrhyw enillion a didyniadau, a
- manylion talu
I lawrlwytho eich dyfarniad Credyd Cynhwysol fel ffeil PDF:
- Mewngofnodwch i'ch Cyfrif Credyd Cynhwysol Ar-lein
- Cliciwch ar y tab cartref
- Agorwch yr adran daliadau
- Cliciwch ar y dyddiad ar gyfer y datganiad Credyd Cynhwysol gofynnol
- Yna cliciwch argraffu
- Cliciwch y gwymplen a dewis 'cadw fel PDF' a bydd hynny'n creu ffeil
- Uwch-lwythwch ffeil gan ddefnyddio'r ddolen uchod neu anfonwch e-bost atom
budddaliadau@caerdydd.gov.ukDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Os ydyn wedi gofyn i chi am dystiolaeth o’ch atebolrwydd rhent mae ffurflen ‘Tystiolaeth O Rent’ ar gael yma i’ch landlord i gwblhau.
Os ydych chi’n defnyddio Ffôn Clyfar, efallau bydd angen i chi gadw'r ffurflen ar eich dyfais a'i llenwi.
Os ydyn wedi gofyn i chi am dystiolaeth o’ch incwm mae ffurflen ‘Tystiolaeth O Incwm’ ar gael yma i’ch cyflogwr i gwblhau.
Os ydych chi’n defnyddio Ffôn Clyfar, efallau bydd angen i chi gadw'r ffurflen ar eich dyfais a'i llenwi.
Os ydyn wedi gofyn i chi am dystiolaeth o’ch incwm hunangyflogedig a rydych wedi bod yn masnachu am o leiaf mis mae ffurflen ‘Datganiad o Enillion Hunangyflogedig’ ar gael yma i chi ei gwblhau
Os ydych chi’n defnyddio Ffôn Clyfar, efallau bydd angen i chi gadw'r ffurflen ar eich dyfais a'i llenwi.
Os nad ydych chi, eich partner neu'ch plant yn gallu rhannu ystafell wely oherwydd anabledd, cwblhewch y ffurflen berthnasol.
Os ydych yn cyrchu'r ffurflenni hyn gan ddefnyddio ffôn clyfar efallai y bydd angen i chi gadw'r ffurflen i'ch dyfais cyn ei chwblhau.
Uwchlwythwch eich tystiolaeth
Os gofynnwyd i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi eich hawliad newydd neu newid mewn amgylchiadau, gallwch ei huwchlwytho neu eich cais ar gyfer taliadau tai yn ôl disgresiwn ar-lein gan ddefnyddio'r ddolen isod.
Gallwch hefyd ddefnyddio’r ddolen hon i uwchlwytho eich cais wedi’i gwblhau ar gyfer taliadau tai yn ôl disgresiwn.
I lanlwytho eich tystiolaeth neu'ch cais am Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn bydd angen y canlynol arnoch:
- Eich enw
- Cyfeiriad
- Rhif yswiriant gwladol
- Dyddiad geni
Gallwch hefyd gyflwyno tystiolaeth yn eich Hyb lleol neu drwy ei phostio drwy Rhadbost i: Rhadbost budd-dal tai Cyngor Caerdydd.