Nod y cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru yw helpu trigolion gyda chost gynyddol biliau cyfleustodau. Taliad untro o £150 yw hwn fesul cartref, nid ad-daliad treth gyngor.
Cymhwysedd
Byddwch yn ei dderbyn os oeddech, ar 15 Chwefror 2022, yn atebol am y dreth gyngor ac:
- yn derbyn gostyngiad yn y dreth gyngor, neu
- yn byw mewn eiddo ym mand A, B, C neu D, neu
- yn byw eiddo ym mand E gyda gostyngiad band addasu anabledd.
Byddwn yn defnyddio gwybodaeth sydd gennym i gadarnhau cymhwysedd ac i wneud taliadau, gan gynnwys gwybodaeth o’ch cyfrif treth gyngor a thaliadau tannwydd gaeaf a gawsoch.
Mae erthygl 6(1)(e) GDPR y DU Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd yn rhoi’r hawl i ni ddefnyddio data er budd y cyhoedd.
Sut i wneud cais
Byddwch yn wyliadwrus o dwyllwyr. Ni fyddwn byth yn eich ffonio i ofyn am fanylion banc.
Os ydych yn talu'ch treth gyngor drwy ddebyd uniongyrchol, nid oes angen i chi wneud cais.
Dylech dderbyn y taliad yn uniongyrchol yn eich cyfrif banc yn ystod yr wythnosau nesaf.
Os na fyddwch yn talu drwy ddebyd uniongyrchol, byddwch yn derbyn llythyr ym mis Mai gyda manylion am y broses ymgeisio.