Os anghytunwch â phenderfyniad ar Ostyngiad y Dreth Gyngor, gallwch:
- ofyn am ragor o wybodaeth am y penderfyniad
- apelio yn erbyn y penderfyniad
Mae rheolau gwahanol o ran penderfyniadau ar Fudd-dal Tai a Gostyngiadau’r Dreth Gyngor Os ydych yn apelio yn erbyn y ddau benderfyniad, darllenwch sut i apelio yn erbyn penderfyniad ar Fudd-dal Tai.
Gofyn am ragor o wybodaeth am y penderfyniad
Pan fyddwn ni’n gwneud penderfyniad am eich Gostyngiad Treth Gyngor, byddwn yn anfon llythyr atoch. Os ydych am gael rhagor o wybodaeth ynghylch y penderfyniad, dylech ofyn am ddatganiad rhesymau. Gwnewch gais ysgrifenedig cyn gynted â phosibl a rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl i ni.
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad
Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad, gallwch apelio i’r Adran Budd-daliadau.
A wnewch chi gyflwyno eich cais yn ysgrifenedig cyn pen un mis o’r dyddiad y gwnaed y penderfyniad, gan esbonio pa benderfyniad rydych yn anhapus yn ei gylch a pham eich bod yn anghytuno.
Pwy all apelio?
Gall y bobl ganlynol apelio:
Sut i apelio
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad bydd angen i chi apelio’n ysgrifenedig drwy:
- gwblhau ffurflen cais am adolygiad (33kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
- ysgrifennu llythyr sy’n nodi’r rhesymaudros eich apêl
- anfon e-bost i apeliadau@caerdydd.gov.uk sy’n nodi’r rhesymau dros eich apêl
- ffonio’r Tîm Apeliadau ar 029 2038 5888. Byddwn yn nodi manylion eich cais ac yn eu hanfon atoch i chi gael cadarnhau eu bod yn gywir, a'u llofnodi i ddweud eich bod yn cytuno â nhw.
Gallwch alw heibio yn un o’n Hybiau neu Swyddfeydd Tai i gael help gydag apelio.
Pan gawn fanylion eich apêl byddwn yn ailystyried y penderfyniad a’r holl wybodaeth rydych wedi’i rhoi i ni. Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi ganlyniad yr apêl.
Apelio i dribiwnlys annibynnol
Os byddwch yn dal yn anfodlon ar y penderfyniad, gallwch apelio i Dribiwnlys Annibynnol. Gallwch hefyd apelio i’r Tribiwnlys Prisio os nad ydych wedi cael ateb gennym o fewn deufis i anfon eich llythyr apelio. Mae’r Tribiwnlys Prisio yn annibynnol ar y cyngor.
Rhaid i chi gyflwyno apêl ysgrifenedig. Ni allwch apelio i’r tribiwnlys dros y ffôn neu drwy e-bost.
Mae tribiwnlysoedd gwahanol yn gwrando ar apeliadau Budd-dal Tai ac apeliadau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Os byddwch yn apelio yn erbyn y ddau, bydd dau wrandawiad yn cael eu cynnal ar wahân.
Os ydych am wneud apêl uniongyrchol i’r Tribiwnlys Prisio, rhaid bod eich apêl:
- fod yn ysgrifenedig – ni dderbynnir galwadau ffôn na negeseuon e-bost,
- yn cael ei gyflwyno o fewn deufis i ddyddiad llythyr penderfyniad y cyngor,
- esbonio pa benderfyniad rydych chi am apelio yn ei erbyn,
- nodi pam eich bod yn anghytuno,
- nodi dyddiad yr apêl gyntaf i’r Cyngor,
- cynnwys copi o lythyr ymateb y cyngor,
- cynnwys copi o’ch apêl Budd-dal Tai (os ydych yn apelio ar yr un sail yn erbyn penderfyniad ar Fudd-dal Tai).
Rhaid i chi anfon eich llythyr apêl i:
Tribiwnlys Prisio
22 Gold Tops
Casnewydd
NP20 4PG
Gwybodaeth am y Gwasanaeth PrisioDolen yn agor mewn ffenestr newydd