Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Effeithlonrwydd ynni a thlodi tanwydd

​​​​​​​​​​​​​​​​​Ystyrir bod aelwydydd sy'n gwario mwy na 10% o'u hincwm ar filiau tanwydd i gynnal trefn wresogi mewn tlodi tanwydd. P'un a ydych yn rhentu neu'n berchen eich cartref, gallai'r wybodaeth hon eich helpu i arbed arian. ​

Os ydych yn cael trafferth talu am eich biliau nwy a thrydan neu os ydych yn mynd i ddyled, cysylltwch â'ch cyflenwr ynni cyn gynted ag y gallwch. Bydd yn gweithio gyda chi i gytuno ar gynllun talu y gallwch ei fforddio.
 
Mae yna hefyd amrywiaeth eang o sefydliadau lleol a chenedlaethol sy'n cynnig cymorth a chefnogaeth:
 

Cyngor Ariannol Cyngor Caerdydd

Gall ein Tîm Cyngor Ariannol​​​​ gynnig cymorth a chyngor. Gallwch gysylltu ag ef ar 029 2087 1071, hybcynghori@caerdydd.gov.uk, neu drwy fynd i hyb​​. Sylwch y ceir mynd i mewn i hyb trwy apwyntiad yn unig.
 

Gwasanaeth Cynghori Caerdydd

Mae Gwasanaeth Cynghori Caerdydd​​​​​ (GCC) yn cynnwys Cyngor ar Bopeth ​​​Chyngor Speakeasy.​​​​​ Gall y gwasanaeth roi cyngor yn ymwneud â Thai, Dyled Tanwydd a Budd-daliadau Lles. Mae canolfannau galw heibio mewn 20 o leoliadau ledled Caerdydd, a gellir cynnal ymweliadau cartref lle bo'n briodol. Gallwch ddod o hyd i fanylion am y gwahanol leoliadau galw heibio ac amseroedd agor ar-lein, neu drwy ffonio 029 2087 1016.
 

Y Gwasanaeth Cynghori ar Arian Cenedlaethol

Mae help i ddod o hyd i gynghorydd dyled yng Nghaerdydd​​​​​ ar gael ar-lein, neu drwy ffonio 0800 138 7777. 

Riverside Advice Cardiff

Mae Riverside Advice​​​ yn sefydliad lleol sy’n gallu helpu trigolion ledled Cymru. Gallwch gysylltu â nhw ar 029 2034 1577. 

Gofal a Thrwsio Caerdydd a’r Fro

Os ydych yn 60 oed neu’n hŷn, gallai fod gan Gofal a Thrwsio​​​​​ gyngor a help mwy penodol i chi. Gallwch gysylltu â nhw ar 029 2047 3337.
 

Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE)

Mae ACE​​​​ yn elusen a ddatblygwyd gan y gymuned y mae trigolion Caerau a Threlái, a all gynnig cymorth tlodi tanwydd, yn ei pherchen a’i rhedeg. Gallwch gysylltu â nhw ar 029 2000 3132.
Gall y tîm CIPI eich helpu i gael gafael ar lawer o wasanaethau a'ch cefnogi drwy'r broses atgyfeirio i gael y cymorth sydd ei angen arnoch. 

Gallwch gysylltu â nhw ar 0165 674 76 22, neu e-bostiwch information@warmwales.org.uk​​​​​​​ a gofyn am y tîm Cartrefi Iach neu cwblhewch y ffurflen hunan-atgyfeirio ar-lein. ​​​​

Gwasanaeth Cynghori Cartrefi Cynnes a Diogel (WASH) Gweithredu Ynni Cenedlaethol


Mae Gwasanaeth Cynghori WASH Gweithredu Ynni Cenedlaethol Cymru​​​​​​ yn cynnig cyngor cyfrinachol, am ddim ar filiau ynni a chadw’n gynnes a diogel yn eich cartref.  Gall y gwasanaeth hefyd gynnig cymorth gyda dyledion tanwydd, newid cyflenwyr a chael help gan y llywodraeth ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â nhw yn WASH@nea.org.uk​​​​​​, neu ffoniwch 0800 304 7159.


Mae newid cyflenwyr neu dariff ynni un o'r ffyrdd gorau o leihau eich biliau ynni. Nid oes angen i chi fod yn berchen ar eich cartref i newid, a gallai gwneud hynny arbed cannoedd o bunnoedd y flwyddyn i chi os ydych ar dariff amrywiol safonol drud.

Mae gan Ofgem, y rheoleiddiwr ynni, gyngor ar sut i newid tariff ynni neu gyflenwyr.​​​
Mae sawl ffordd o leihau eich biliau ynni, o newid eich arferion i gael boeler effeithlon newydd wedi'i osod yn eich eiddo. Gall y sefydliadau hyn roi cyngor ac efallai y gallant gynnig arian tuag at welliannau i'r cartref:

Awgrymiadau arbed ynni 

  • Pan fydd bylbiau yn torri, ceisiwch roi bylbiau LED modern yn eu lle. Mae'r rhain yn llawer mwy effeithlon na bylbiau traddodiadol, a gallant arbed arian i chi dros amser. 
  • Diffoddwch offer a pheidiwch â’u gadael mewn modd segur. Gallai hyn arbed hyd at £30 y flwyddyn i chi yn ôl yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.​​
  • Gall atal drafftiau o ffenestri a drysau helpu i gynnal mwy o wres ac arbed arian i chi. 
  • Trowch eich thermostat i lawr 1 radd, a rhowch ychydig o gentimetrau mwy o le i reiddiaduron drwy symud eich dodrefn ychydig. Gall hyn leihau eich defnydd o ynni a sicrhau bod eich cartref yn cael ei wresogi'n fwy effeithlon, gan leihau biliau. 
  • Cael Mesurydd Deallus Gall hyn eich helpu i ddeall ble rydych chi'n defnyddio ynni fwyaf, fel y gallwch leihau eich defnydd ohono yn y lleoliadau cywir i wneud arbed arian. Maent hefyd yn cynnig biliau llawer mwy cywir.

Er mwyn osgoi lleithder yn eich cartref a allai arwain at lwydni mae angen i chi wresogi ac awyru'r eiddo. Rhowch gynnig ar yr opsiynau canlynol:

  • Cynhyrchwch lai o wlybaniaeth.
    Ceisiwch gadw'r caeadau ar sosbenni wrth goginio, sychu dillad yn yr awyr agored yn hytrach nag ar reiddiaduron, awyru eich sychwr dillad yn yr awyr agored, ac osgoi defnyddio gwresogyddion paraffîn neu wresogyddion nwy potel. 
  • Gadewch i’r aer llaith fynd allan a gadewch i’r awyr iach ddod i mewn.
    Mae ffaniau echdynnu yn ffordd effeithiol o gael gwared â'r aer llaith a'r stêm fel bod llai o gyddwysiad. Wrth goginio neu ymdrochi, cadwch ddrws y gegin neu'r ystafell ymolchi ar gau ac agorwch y ffenestr fel bod y stêm yn mynd allan trwyddi. 
  • Insiwleiddiwch eich cartref a sicrhewch ei fod yn ddiogel rhag drafftiau.
    Mae cartrefi cynnes yn dioddef llai o gyddwysiad, felly dylech sicrhau bod eich tŷ wedi'i inswleiddio'n dda. Mae hyn yn golygu inswleiddio eich llofft i'r dyfnder a argymhellir o 270mm, a'ch waliau ceudod (os oes gan eich tŷ y waliau hyn ac os yw’n addas). Dylai eich ffenestri a’ch drysau allanol fod yn ddiogel rhag drafftiau, a dylech ystyried gwydr dwbl os yw’ch ffenestri’n ddrafftiog. 
  • Gwresogwch eich cartref ychydig yn fwy.
    Er nad ydych am wastraffu arian yn gwresogi ystafelloedd nad ydych yn eu defnyddio, mae ystafelloedd oer iawn yn fwy tebygol o gael lleithder a llwydni.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cynhyrchu eich trydan neu'ch gwres eich hun gartref trwy dechnolegau gyda gwres yr aer, yr haul, y gwynt, dŵr, y ddaear, yna efallai y byddwch yn gymwys i gael y Gwarant Allforio Deallus​​ neu Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy.​​​​​
Mesuryddion deallus yw'r genhedlaeth newydd o fesuryddion nwy a thrydan.

Yn hytrach nag aros i fil ddod trwy'r drws, gall mesurydd deallus ddangos i chi faint o ynni rydych chi'n ei ddefnyddio, wrth i chi ei ddefnyddio. Mae hyn yn ei gwneud hi'n haws gweld ardaloedd yn y cartref lle gallech fod yn gwastraffu ynni er mwyn i chi allu gwneud newidiadau i leihau costau.

Sut mae mesuryddion deallus yn gweithio 

 

Mae'r mesurydd clyfar yn anfon eich darlleniadau nwy a thrydan yn syth at eich cyflenwr ynni.  Mae mesuryddion clyfar yn fwy cywir na mesuryddion traddodiadol, felly gallwch ffarwelio â biliau amcangyfrifedig.

Er y bydd y mesurydd clyfar yn disodli eich blychau presennol, mae'r dechnoleg glyfar yn cael ei lleoli mewn dangosydd cludadwy yn y cartref, y gellir ei roi mewn unrhyw ystafell o’ch dewis.  Dyma'r uned sy'n dangos i chi faint o ynni rydych chi'n ei ddefnyddio. 

Mae'r pob dangosydd wedi'i gynllunio i ddangos gwybodaeth mewn ffordd sy'n hawdd ei deall. Fodd bynnag, mae dangosydd hygyrch wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall sy’n cynnwys botymau mawr a nodwedd testun-i-lais. Dylai unrhyw un sydd am ddefnyddio dangosydd hygyrch gysylltu â'i gyflenwr ynni i gael gwybod mwy.


Gosod mesurydd deallus 

​Mae cael gafael ar fesurydd clyfar yn hawdd, cânt eu darparu a'u gosod gan eich cyflenwr ynni ar adeg sy'n gyfleus i chi.

Mae mesuryddion deallus ar gael am ddim, felly ni fydd yn rhaid i chi dalu am yr offer nac am ei osod. 


Dyma ychydig o bethau pwysig y mae angen i chi eu hystyried ymlaen llaw:

  • Cytunwch ar amser a dyddiad gyda'ch cyflenwr fel y byddwch gartref yn barod ar gyfer y gwaith gosod.   Ni fydd gosodwr byth yn cyrraedd yn annisgwyl. 
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ble mae eich mesuryddion presennol a gwnewch yn siŵr eu bod nhw ar gael i'r gosodwr. 
  • Dylai'r gosodwr ddangos cerdyn adnabod dilys i chi wrth gyrraedd, y gallwch ofyn am ei weld os nad yw'r gosodwr yn ei gyflwyno’n syth.
  • Mae'r gwaith yn cymryd tua dwy awr a bydd eich cyflenwad ynni'n cael ei ddiffodd am gyfnod byr, ond bydd angen i chi fod yn bresennol ar gyfer y gwaith gosod.
  • Os ydych yn cael gosod mesurydd nwy, bydd y gosodwr yn cynnal gwiriad diogelwch gweledol ar eich offer nwy.
  • Ar ôl ei osod, bydd eich gosodwr yn dangos i chi sut i ddefnyddio eich dangosydd yn ogystal â chynnig cyngor ar arbed ynni.



Mae cyllid ar gael i aelwydydd deiliadaeth breifat (perchen-feddiannwr a rhentu preifat) ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni.

Efallai y byddwch yn gymwys os yw incwm y cartref sy'n llai na £31,000 ac rydych yn byw mewn cartref ynni-aneffeithlon.
 
Mae Cyngor Caerdydd wedi ffurfio partneriaeth ag EON ar gyfer darparu RhCY4 Hyblyg ALl.  Dylid gwneud pob cais drwy EON gwefa neu ffôn.

Ffôn: 0333 202 4422

Mae'r Datganiad o Fwriad hwn yn nodi meini prawf cymhwysedd hyblyg Cyngor Caerdydd ar gyfer RhCY4 Hyblyg ALl: 


Noder nad yw bodloni meini prawf cymhwysedd hyblyg y Cyngor, a chyhoeddi Datganiad gan Gyngor Caerdydd, yn gwarantu gosod mesurau. Bydd y penderfyniad terfynol yn nwylo'r Cyflenwr Ynni a fydd yn ariannu ac yn darparu gosodiadau.




​​
© 2022 Cyngor Caerdydd