Mae Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf Llywodraeth Cymru bellach ar gau.
Os ydych chi neu'ch partner yn atebol am y costau tanwydd ond heb dderbyn unrhyw un o'r budd-daliadau cymhwyso, gallech fod â hawl i daliad os oes gennych berson cymwys sy'n byw gyda chi.
Mae person yn bodloni'r diffiniad o berson cymwys os ydynt yn:
- Meddiannu eich cartref fel eu prif breswylfa; a
- Yn blentyn dibynnol neu oedolyn arall sy'n byw gyda chi neu'ch partner ac,
- Maen nhw'n derbyn un o'r budd-daliadau cymwys rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023.
Y budd-daliadau lles cymwys yw:
- Lwfans Presenoldeb
- Lwfans Byw i'r Anabl
- Taliad Annibyniaeth Personol
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- Lwfans Presenoldeb Cyson
- Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
Os byddwch yn parhau i brofi caledi ariannol difrifol efallai yr hoffech
wneud hawliad i'r Gronfa Cymorth DewisolDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd