Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cronfa Cymorth Dewisol

​​Disodlwyd Grantiau Gofal Cymunedol a Benthyciadau Argyfwng gan gynllun cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru. 


 

Caiff benthyciadau cyllidebu eu gweinyddu o hyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.  Gallwch ddysgu mwy am fenthyciadau cyllidebu ar wefan y llywodraeth ganolog ​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd.


 

Gallwch wneud cais am help gan y Gronfa Cymorth Dewisol os na allwch dalu am yr hyn sydd ei angen arnoch.   Cewch help drwy arian neu dalebau am nwyddau neu wasanaethau.


 

Mae dau fath o daliad ar gael :


Taliadau Cymorth Unigol


Gall Taliadau Cymorth Unigol helpu pobl sy'n agored i niwed i fyw'n annibynnol.   Gellir defnyddio’r taliad hwn i helpu i brynu nwyddau neu wasanaethau e.e. popty, oergell neu wely. 

 

Bydd lefel y cymorth a roddir yn dibynnu ar eich anghenion a'ch amgylchiadau cyfredol gan gynnwys p'un a oes gennych unrhyw gynilion neu fynediad i arian arall.   Gallwch wneud cais am help i'ch hun, eich teulu, neu rywun rydych yn gofalu amdano neu'n bwriadu gofalu amdano.

 

I fod yn gymwys, rhaid eich bod chi neu'r person rydych yn gofalu amdano fod yn cael un o'r canlynol:

 

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Credydau Pensiwn

 

Rhaid i chi neu'r person rydych yn gofalu amdano:

 

  • fod yn gadael sefydliad fel ysbyty, cartref gofal, hostel neu garchar o fewn y chwe wythnos nesaf ar ôl byw yno am o leiaf dri mis;
  • rydych yn bwriadu gofalu am rywun sy'n gadael llety o'r fath;
  • angen help fel rhan o ailgartrefu a gynllunnir, ar ôl cyfnod yn fod yn ddigartref neu'n gadael llety â chymorth;
  • angen help i leddfu pwysau eithriadol;
  • angen help gyda thaliad hanfodol neu deithio untro.

 

Ni allwch fel arfer wneud cais am fwy nag un Taliad Cymorth Unigol o fewn 4 wythnos oni bai bod eich amgylchiadau wedi newid.

 

Gwneud cais am Daliad Cymorth Unigol ​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

 

Taliad Cymorth mewn Argyfwng


Mae hwn i’ch helpu ar ôl argyfwng neu drychineb e.e. os oes tân neu lifogydd yn eich cartref.  Gallwch ddefnyddio’r taliad i brynu eitemau hanfodol a ddygwyd, a ddifrodwyd neu a ddinistriwyd.

 

I gael help, rhaid i’r canlynol fod yn berthnasol:

 

  • Rydych chi’n 16 oed neu’n hŷn
  • Rydych chi heb arian i ddiwallu eich anghenion chi neu'ch teulu ar ôl argyfwng neu drychineb.
  • Bod perygl difrifol i'ch iechyd a'ch diogelwch chi neu'ch teulu.
  • Heb unrhyw ffordd arall o gael y cymorth sydd ei angen arnoch.

 

Gwneud cais am Daliad Cymorth Unigol ​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

Lle bynnag y bo’n bosibl caiff nwyddau a gwasanaethau eu darparu. Mewn achosion lle rhoi arian parod yw’r unig ddewis, gwneir taliad drwy allfa PayPoint ​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd. Ni fydd yn rhaid ad-dalu’r arian hwn.


 

Dysgwch fwy am y Gronfa Cymorth Dewisol ​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd


Cymorth Arall sydd Ar gael


 


Mae Banc Bwyd Caerdydd yn rhoi cymorth bwyd brys i unigolion a theuluoedd mewn sefyllfaoedd argyfyngus byrdymor. Rhagor o wybodaeth yn www.cardifffoodbank.org.uk ​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

Mae Fare Share Cymru yn helpu pobl sy'n cael trafferth bwydo eu hunain a'u teulu. Rhagor o wybodaeth yn www.fareshare.org.uk​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

Mae cydweithfeydd bwyd​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd yn gwerthu ffrwythau, llysiau a bagiau salad fforddiadwy bob wythnos. Gwirfoddolwyr lleol sy'n gyfrifol am y cynllun. Bagiau yn £2.50-£3 yr un.

© 2022 Cyngor Caerdydd