Mae Credyd Cynhwysol yn daliad sengl newydd i bobl sy’n chwilio am waith neu’n ennill incwm isel. Bydd yn disodli:
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Treth Plant a'r Credyd Treth Gwaith
- Budd-dal Tai
Ni fydd yn disodli'r Budd-dal Plant. Dysgwch fwy am Fudd-dal Plant ar wefan y llywodraeth ganolog.
Pryd y bydd Credyd Cynhwysol yn dechrau?
Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno yng Nghaerdydd o fis Tachwedd 2015.
Mae’n cael ei gyflwyno’n raddol. Mae’n golygu os ydych eisoes yn hawlio budd-dal, byddwch yn dal i wneud hynny am gyfnod, nes i DWP gysylltu â chi a rhoi gwybod i chi pryd y bydd Credyd Cynhwysol yn effeithio arnoch.
I ddechrau, cewch eich effeithio os ydych yn gwneud cais newydd am fudd-dal a’ch bod yn sengl, newydd ddod yn ddi-waith, ac wrthi’n chwilio am waith (hynny yw, unrhyw un a fyddai wedi gwneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith gynt). Ni allwch hawlio Credyd Cynhwysol yn ystod y cam cychwynnol hwn os ydych:
- Yn rhan o gwpl
- Yn gyfrifol am unrhyw blant
- Â chyfrifoldebau gofalu
- Ddim yn ffit i weithio
- Yn ddigartref neu’n byw mewn llety â chymorth neu lety dros dro
- Yn berchennog cartref
- Mewn addysg neu ar gwrs hyfforddi
Hawlio Credyd Cynhwysol
Bydd angen i chi wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol ar-lein ac yna bydd angen i chi fynd i gyfarfod â hyfforddwr gwaith y Ganolfan Waith i gwblhau'ch cais a chyflwyno unrhyw dystiolaeth newydd y gofynnwyd amdani.
Sut y caiff Credyd Cynhwysol ei dalu?
Caiff Credyd Cynhwysol ei dalu unwaith y mis i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu Swyddfa Bost. Cyngor ar ddewis ac agor cyfrif banc.
Os oes gennych bartner, bydd un ohonoch yn cael taliad Credyd
Cynhwysol ar y cyd i chi’ch dau. Caiff eich Credyd Cynhwysol ei dalu i
gyfrif o’ch dewis chi.
Caiff unrhyw help a gewch gyda’ch rhent ei gynnwys gyda'ch taliad
Credyd Cynhwysol a bydd rhaid i chi dalu eich landlord eich hun, hyd yn
oed os ydych yn rhentu gan Gymdeithas Tai neu'r Cyngor.
Cewch un taliad y mis. Gallai gwasanaeth bancio syml eich helpu i
neilltuo arian gan ddefnyddio taliadau misol awtomataidd ar gyfer
rhent a biliau.
Cyngor ar ddewis ac agor cyfrif banc.
Paratoi at Gredyd Cynhwysol
Ewch Ar-lein
Bydd angen i chi hawlio Credyd Cynhwysol ar-lein. Bydd angen cyfrif e-bost arnoch i gwblhau’r cais. Mae help ar gael i holl drigolion Caerdydd. Cynigiwn sesiynau galw heibio anffurfiol am ddim mewn lleoliadau ledled y ddinas.
Rhagor o wybodaeth ar ein wasanaeth Cael Caerdydd Ar-lein
Cyngor Ariannol
Rhaid bod gennych gyfrif banc i gael Credyd Cynhwysol. Bydd angen i chi ddeall sut i reoli cyllideb er mwyn gallu rheoli’ch taliad misol. Mae ein Tîm Cyngor Ariannol yn cynnig gwasanaeth galw heibio bob dydd i’ch helpu i reoli’ch arian, a’ch helpu i fanteisio ar grantiau.
Rhagor o Help gyda Bncio
Paratoi at waith
I gael Credyd Cynhwysol bydd angen i chi ddangos eich bod yn gwneud popeth y gallwch i ddod o hyd i swydd. Mae’r Gwasanaeth i Mewn i Waith yn rhoi help am ddim i unrhyw drigolion yng Nghaerdydd sydd am weithio neu wella’u sgiliau.
Os oes gennych ymholiad gallwch gysylltu â ni neu fynd i'r Hyb Llyfrgell Canolog.
Gallwch ddysgu mwy am Gredyd CynhwysolDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd ar wefan y llywodraeth ganolog.