Mae cymorth ar gael gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill i'ch helpu gyda'ch costau ynni Busnes.
Cynllun Rhyddhad Biliau Ynni
Mae cynllun rhyddhad biliau ynni llywodraeth y DU wedi ei gyhoeddi'n ddiweddar i gefnogi busnesau gyda chostau cynyddol ynni.
Bydd y cynllun hwn yn rhoi rhyddhad ar filiau ynni i gwsmeriaid annomestig ym Mhrydain Fawr.
Cymhwysir gostyngiadau at ddefnydd ynni rhwng 1 Hydref 2022 a 31 Mawrth 2023 i gychwyn.
Ynni
Mae lleihau'r defnydd o ynni yn arbed arian, yn gwella enw da corfforaethol ac yn helpu pawb i arwain y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
Mae costau ynni yn aml yn cael eu trin fel gorbenion sefydlog gan sefydliadau, ond drwy gymryd y dull cywir o reoli ynni mae'n bosibl gwneud arbedion sylweddol.
Cyngor am ynni
Effeithlonrwydd adnoddau
Mae effeithlonrwydd adnoddau yn cwmpasu pob agwedd ar fesurau ynni, gwastraff ac effeithlonrwydd dŵr.
Cwrs effeithlonrwydd adnoddau
Mae cwrs sydd newydd ei ddatblygu ar gael i'ch cefnogi a chynyddu eich gwybodaeth i'ch helpu i arbed arian a buddsoddi mewn tyfu eich busnes.
Cynghorion gorau ar gyfer Gwella Eich Effeithlonrwydd Adnoddau
Archwiliwch sut y gall eich busnes wneud mwy i fod yn adnoddau effeithlon ac arbed ynni, dŵr a lleihau gwastraff, gyda'r cyfarwyddiadau defnyddiol hyn. Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth.
Ffederasiwn Busnesau Bach (FfBB)
Mae FfBB yn ymgyrchu i gefnogi'r gymuned busnesau bach gyda chostau busnes mewn cyfnodau anodd gan gynnwys biliau ynni cynyddol
Cyngor ar Bopeth