Ymddiriedaethau ynni
Os oes angen help arnoch gyda'ch biliau, gallwch wirio a oes gan eich cyflenwr ynni ymddiriedolaeth.
Gall ymddiriedolaeth ynni eich helpu gyda’r canlynol:
- nwy, ynni a dyledion eraill y cartref, gan gynnwys treth gyngor ac ôl-ddyledion rhent,
- eitemau cartref sylfaenol, gan gynnwys peiriannau golchi a ffwrn.
- cymorth ariannol eraill, gan gynnwys methdaliad, blaendaliadau a threuliau angladd.
Ewch i wefan eich cyflenwr ynni i wneud cais ar-lein os oes ganddo ymddiriedolaeth.
Gwres Fforddiadwy ECO
Mae cynllun Gwres Fforddiadwy ECO yn eich helpu gyda gwelliannau i'r cartref i'w wneud yn fwy effeithlon o ran ynni.
Mae grantiau ar gael ar gyfer:
- gwres canolog;
- boeleri nwy, ac
- insiwleiddio cartrefi.
Gallech fod yn gymwys os ydych chi’n:
- derbyn budd-daliadau penodol, ac
- yn byw mewn cartref sy'n eiddo preifat neu'n cael ei rentu.
NYTH
Mae NYTH yn cynnig cyngor a chymorth ariannol i wneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni ac yn helpu i leihau eich biliau ynni.
Gallwch wneud cais p'un a ydych yn berchen ar eich cartref neu'n rhentu gan landlord preifat.
Talebau tanwydd
Gallech fod yn gymwys i hawlio talebau tanwydd os ydych yn cael trafferth rhoi credyd ar eich mesurydd ynni talu ymlaen llaw.
Gostyngiad cartrefi cynnes
Gallech fod yn gymwys i gael gostyngiad Cartref Cynnes ar eich bil ynni:
- os ydych chi’n derbyn budd-daliadau sy'n seiliedig ar brawf modd neu fudd-dal anabledd,
- os oes gennych blant, neu
- os oes gennych gyflwr meddygol.
Mae’r arian yn gyfyngedig felly gwnewch gais cyn gynted ag y bydd y cynllun yn agor, fel arfer o ddiwedd yr haf.
Gweithredu Ynni Cenedlaethol (NEA)
NEA yw'r elusen tlodi tanwydd cenedlaethol ac mae'n darparu cefnogaeth ar faterion sy'n gysylltiedig ag ynni, gan gynnwys:
- newid cyflenwyr,
- cymorth gyda dyledion tanwydd,
- gwneud cais am gronfeydd ymddiriedaeth,
- effeithlonrwydd ynni,
- a threthi dŵr.
Cronfa Next E.ON
Mae Cronfa Ynni Next E.ON yn helpu cwsmeriaid Next E.ON sy'n profi caledi ariannol i fod yn sefydlog yn ariannol a chymryd rheolaeth dros eu sefyllfa ariannol.
Gallwch gael cefnogaeth i:
- dalu eich biliau nwy a thrydan drwy grantiau, a
- disodli offer sydd wedi torri neu sydd mewn cyflwr gwael, gan gynnwys ffyrnau, oergelloedd a pheiriannau golchi.
Cynllun uwchraddio boeleri
Mae llywodraeth y DU yn rhoi grantiau i helpu perchnogion tai i osod systemau gwresogi carbon isel, gan gynnwys pympiau gwres.
Gallech fod yn gymwys os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, ac yn berchen ar eich cartref.
Dŵr Cymru
Os ydych yn ei chael hi'n anodd talu eich biliau dŵr, gallai rhai cynlluniau fod ar gael i chi, gan gynnwys:
- WaterSure,
- tariff HelpU, a
- Chronfa Cymorth Cwsmeriaid.