Gallai newidiadau i’ch amgylchiadau personol effeithio ar faint o fudd-dal Tai a Gostyngiad y Dreth Cyngor a gewch.
Sicrhewch eich bod yn dweud wrthym am unrhyw newidiadau sylweddol i’ch amgylchiadau fel y gallwn newid ein cofnodion a gwneud unrhyw newidiadau i’ch taliadau.
Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai a Gostyngiad y Dreth Cyngor, dim ond unwaith sydd eisiau adrodd y newid i ni.
Gallwch wirio'r wybodaeth sydd gyda ni am eich amgylchiadau personol, ac adrodd i ni am unrhyw newidiadau i’ch amgylchiadau ar-lein.
Bydd angen with rhif cais cyfredol arno chi, sydd wedi cael ei ysgrifennu ar unrhyw llythr rydyn wedi danfon i chi. Gallwch hefyd adrodd am unrhyw newidiadau yn eich
Hyb lleol, new trwy ffonio Cysylltu â Chaerdydd (C2C) 02920 872088
Mae angen i chi ddweud wrthym ni os:
- ydych yn newid cyfeiriad
- ydych chi neu eich partner yn dechrau gweithio, yn newid swydd neu’n cael codiad cyflog
- oes unrhyw newid yn eich incwm chi neu’ch partner
- os yw unrhyw fudd-daliadau lles yn newid, fel credydau treth os yw eich Lwfans Ceisio Gwaith neu Gymhorthdal Incwm yn dod i ben
- os yw un o’ch plant yn gadael ysgol neu’ch bod chi’n cael babi
- os yw unrhyw un yn symud i mewn neu allan o’r eiddo, hyd yn oed dros dro
- os mae unrhyw un sy’n byw yn yr eiddo yn mynd ban am fwy na 4 wythnos, hyd yn oed ac maen nhw dim ond wedi mynd ar wyliau neu i aros gyda theulu
- os oes gennych bartner newydd neu os ydych yn priodi neu’n gwahanu
- os oes newid yn eich cynilion (dim ond os ydynt dros gyfanswm o £6000)
- os ydych chi’n dechrau neu'n gorffen talu costau gofal plant neu os yw’r swm yn newid
- os yw eich rhent yn newid (oni bai eich bod chi’n denant i’r cyngor)
- os oes newid yn amgylchiadau unrhyw un yn eich cartref
- os oes angen i chi gofrestru eich cyflogaeth gyda’r Swyddfa Gartref (cofiwch ddweud wrthynt os ydych yn newid eich swydd, a dywedwch wrthym ni hefyd).
Dim ond enghreifftiau yw’r rhain a dylech ddweud wrthym ar unwaith am unrhyw newid a allai effeithio ar eich budd-dal.