Mae Budd-dal Tai yn gynllun cenedlaethol a weinyddir gan gynghorau lleol i helpu pobl ar incwm isel i dalu rhent ar eu cartrefi. Caiff unrhyw denantiaid sydd ar incwm isel hawlio Budd-dal Tai, gan gynnwys y rheini sy’n gweithio.
Lawrlwythwch
ffurflen Prawf o Rent (PDF 173 KB)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Gall Budd-dal Tai dalu am ran o rent tenantiaid, neu’r cyfan ohono. Mae faint sy’n cael ei dalu yn dibynnu ar gartref ac incwm y tenant ac amgylchiadau eraill.
Fel arfer mae budd-dal yn seiliedig ar y
gyfradd Lwfans Tai Lleol sy’n berthnasol i’r tenant, neu’r rent ei hun os yw’n is.
Gallai budd-daliadau rhai tenantiaid sydd wedi bod yn cael Budd-dal Tai yn yr un eiddo ers Ebrill 2008 gael ei seilio ar brisiant o’u heiddo gan y Swyddog Rhenti. Caiff y tenantiaid hyn ddewis i’r budd-dal gael ei dalu i’r landlord.
Talu budd-dal
Fel arfer mae Budd-dal Tai yn cael ei dalu i’r tenant. Ni all tenantiaid ddewis i’w landlord gael y taliad yn uniongyrchol.
Gwybodaeth a chyngor
Fel arfer ni allwn roi gwybodaeth i landlord am faint o fudd-dal y mae tenantiaid yn ei hawlio oni bai fod y Budd-dal Tai yn cael ei dalu’n uniongyrchol i landlord neu fod y tenant wedi llofnodi ffurflen Rhannu Gwybodaeth.
Os yw Budd-dal Tai yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’r landlord byddwn yn rhoi gwybod iddo am hynt cais i hawlio budd-dal neu fanylion taliadau a wnaed.
Gallwn rannu mwy o wybodaeth â landlordiaid am gais tenant i hawlio budd-dal os yw’r tenant wedi llofnodi
Ffurflen Rhannu Gwybodaeth (PDF 147 KB)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Mae’r ffurflen hon wedi’i chynnwys yn y ffurflen cais am fudd-dal hefyd. Ni chaiff unrhyw wybodaeth bersonol am y tenant ei datgelu.
Delio ag achosion brys
Byddwn yn delio â phob cais cyn gynted â phosibl. Pa fo perygl y caiff achos cyfreithiol ei ddwyn yn erbyn tenant am ôl-ddyledion rhent, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i’r achosion hynny ac yn gwneud popeth y gallwn i osgoi troi pobl allan o’u cartrefi yn ddiangen. Byddwn yn gwneud popeth y gallwn i wneud yn siŵr bod tenantiaid yn hawlio eu budd-dal yn llawn.
Cynllun Diogelu
Gwyddom nad yw gwneud taliadau uniongyrchol i denantiaid o fudd iddynt bob amser, felly rydym wedi datblygu Cynllun Diogelu i ddiogelu’r tenantiaid hyn. Gellir talu budd-dal i’r landlord:
- os oes gan y tenant ôl-ddyledion rhent o wyth wythnos neu fwy,
- os oes tystiolaeth bod y tenant yn annhebygol o dalu ei rent,
- os yw’r tenant yn ei chael hi’n anodd rheoli ei arian,
- os yw’r landlord wedi helpu’r tenant i sicrhau neu gadw ei denantiaeth.
Dylai landlordiaid gysylltu â ni ar unwaith os nad yw tenant wedi talu rhent.
Byddwn yn gwrthod gwneud unrhyw daliadau pellach, hyd yn oed os mai dim ond un taliad rhent a fethwyd, tra byddwn yn ymchwilio i’r sefyllfa. Fel arfer bydd rhaid i ni gael tystiolaeth, fel cyfriflen rhent, cyn y gallwn ddechrau ystyried gwneud taliadau pellach i’r landlord.
Gordaliadau
Gall gordaliadau ddigwydd pan fydd budd-daliadau tenant yn cael eu lleihau oherwydd newid mewn amgylchiadau. Fel arfer caiff gordaliad ei adennill gan y tenant.
Dan rai amgylchiadau gallwn adennill y gordaliad oddi wrth y landlord, ond dim ond os ydym o’r farn bod y landlord yn gwybod am y newid a heb roi gwybod i ni amdano.
Ni fyddwn yn adennill y gordaliad oddi wrth eich landlord os yw’r landlord wedi rhoi gwybod i ni am y newid. Dysgwch fwy am
ordaliadau budd-dal.
Os ydych yn gwybod bod amgylchiadau eich tenant wedi newid, neu’ch bod yn amau bod eich tenant yn cyflawni twyll budd-daliadau, rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith.
Gallai methu â gwneud hyn olygu y caiff gordaliadau eu hadennill gennych chi.
Apelio yn erbyn penderfyniad
Gall tenantiaid apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad a wneir gan y Cyngor ar eu cais i hawlio budd-dal.
Gall landlordiaid apelio yn erbyn penderfyniadau ar bwy y mae’r budd-dal yn cael ei dalu iddo, a phwy y caiff gordaliad ei adennill ganddo.
Rhagor o wybodaeth am apelio yn erbyn penderfyniad.
Cysylltu â ni
budddaliadau@caerdydd.gov.uk