Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

New Cardiff.gov.uk

Yn ystod yr ychydig o fisoedd diwethaf rydym wedi bod yn gweithio’n galed i baratoi ar gyfer rhai newidiadau i’n gwefan. Rydym yn credu y bydd y newidiadau hyn yn eich helpu chi pan fyddwch yn edrych ar ein gwefan i gael gwybodaeth ac i ddefnyddio gwasanaethau. 



Ar gyfartaledd mae 177,000 o bobl yn mynd i’r wefan hon, www.caerdydd.gov.uk, bob mis. Mae llawer o bobl yn edrych ar lawer o bethau gwahanol

Dyma'r hyn rydym wedi'i wneud er mwyn gwella'r wefan i chi.   



Yn 2016 gofynnom sawl cwestiwn i chi am wefan y Cyngor yn arolwg Holi Caerdydd a chanfuwyd y canlynol:

  • Dywedodd bron i 90% ohonoch a ymatebodd eich bod yn mynd i’r wefan mwy nag unwaith o fewn 6 mis*
  • Roedd 74% ohonoch yn chwilio am wybodaeth ac roedd 21% ohonoch am adrodd am rywbeth neu ofyn am wasanaeth
  • Dywedodd fwy na 80% ohonoch fod y wefan yn dda ‘iawn’ neu’n ‘eithaf’ da o ran ansawdd gwybodaeth a pha mor hawdd y mae ei defnyddio.
  • Dywedodd ychydig dros 75% ohonoch fod y wefan yn dda ‘iawn’ neu’n ‘eithaf’ da o ran gofyn am wasanaeth neu’n adrodd rhywbeth i ni.

 

Roeddem yn hapus gyda’r adborth hwn ond gallem weld bod modd gwella.
Yn ogystal ag adborth Holi Caerdydd, gallem weld hefyd wedi dadansoddi ein gwefan fod 57% ohonoch wedi edrych ar y wefan ar lechen neu ffôn clyfar.

*Yn ystod y 6 mis cyn yr arolwg

Gan ystyried y wybodaeth hon, buom yn rhoi cynnig ar sawl syniad newydd i:

  • Eich helpu chi i gael gwybodaeth yn haws,  
  • Gwella ein swyddogaeth adrodd a gwneud cais,
  • Gwella eich profiad o’r wefan p’un a ydych yn defnyddio ffôn symudol, llechen neu gyfrifiadur bwrdd gwaith.

Ym mis Medi a mis Hydref 2017, aethom i Hybiau’r ddinas i brofi ein newidiadau arfaethedig i‘r wefan. Roedd llawer ohonoch yn fodlon rhoi o’ch amser i drio ein newidiadau gan roi i ni adborth ac awgrymiadau gwerthfawr. Coladom eich adborth gan ei ystyried wrth wneud addasiadau ac ailbrofi wrth i ni fynd ymlaen.


Os hoffech chi wybod mwy am brofi neu os oes gennych adborth i ni am y wefan llenwch y ffurflen adborth.

Beth sy'n newydd?

Dyluniad ymatebol gwell - gwell ar gyfer ffonau symudol, cyfrifiaduron llechen a chyfrifiaduron bwrdd gwaith.



Improved responsive design

Chwiliad Safle mwy sythweledol – yn defnyddio data o chwiliadau blaenorol i’ch helpu chi i gael y tudalennau sy’n fwyaf perthnasol i’r hyn rydych yn chwilio amdano.



 



Yn ei gwneud yn haws i Adrodd a Gwneud Cais – rydym wedi edrych ar yr eitemau mwyaf poblogaidd sydd wedi’u hadrodd neu y gwnaethpwyd ceisiadau amdanynt (ar-lein ac ar y ffôn) ac wedi ei gwneud yn haws i chi edrych arnynt ar ein gwefan.


 


Cysylltiadau gwella gyda’r cyfryngau cymdeithasol – rydym wedi cyflwyno ein tudalen Twitter i’r hafan. Gallwch weld y diweddariadau diweddaraf gennym hyd yn oed os nad ydych yn ein dilyn ar Twitter. Rydym hefyd wedi galluogi rhannu cynnwys ar ein gwefan - os gwelwch rywbeth ar ein gwefan yr ydych yn credu y gallai fod o gymorth yna  rhannwch.



Share-page.jpg


Gwelliannau i arddull a chynnwys – yn ogystal â’r newidiadau mwy amlwg rydym wedi bod yn gweithio i sicrhau bod ein cynnwys yn haws ei ddarllen a'i bod yn haws llywio ein tudalennau.  Ein nod yw bod yn gyson gyda’n hiaith a’n harddull fel y mae’r safle mor hawdd â phosibl i’w ddefnyddio.



 

Adborth am y Wefan

 
Nod gwefan Cyngor Dinas Caerdydd yw ei gwneud hi’n haws i chi ddod o hyd i wybodaeth a chwblhau tasgau ar-lein.
 
Os hoffech chi wybod mwy am brofi neu os oes gennych adborth i ni am y wefan llenwch y ffurflen adborth.
 
© 2022 Cyngor Caerdydd