Mae Cyngor Caerdydd yn cyflenwi gwasanaethau cynnal a chymorth ar gyfer llety â chymorth mewn partneriaeth â Linc Cymru. Bydd Cyngor Caerdydd yn Rheolydd Data ar y cyd â Linc Cymru at ddibenion y data a gesglir fel rhan o'r trefniant hwn. Prosesir yr holl ddata yn unol â’r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.
Pam rydym yn anfon yr hysbysiad hwn atoch
Mae angen eich data personol ar Gyngor Caerdydd i gyflawni tasgau penodol sy’n ymwneud â darparu tai a gwasanaethau cynnal. Mae’r hysbysiad hwn wedi’i greu i roi gwybodaeth i chi am y data sydd gennym amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â’ch data a’r mesurau diogelwch sydd ar waith i’w ddiogelu.
Pa ddata personol sydd gennym a sut rydym yn cael gafael arno
Yn ystod ein gwaith gyda chi, rydym yn casglu amrywiaeth o wybodaeth gennych chi a'n partner Cymdeithas Tai Linc-Cymru Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Enw, cyfeiriad a dyddiad geni
- Gwybodaeth cyfrif ac is-gyfrif rhent.
- Gwybodaeth rheoli tenantiaeth (e.e. unrhyw achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, unrhyw sancsiynau tenantiaeth sydd wedi’u rhoi.
- Gwybodaeth bersonol berthnasol a fydd yn ein galluogi i roi'r cymorth, cyngor neu gefnogaeth sydd eu hangen i chi reoli eich tenantiaeth yn y dyfodol.
- Unrhyw wybodaeth arall a gedwir gan Gymdeithas Tai Linc Cymru y bernir ei bod yn angenrheidiol i'w rannu.
- Eich anghenion a’ch amgylchiadau.
- Cofnod o gyngor ac arweiniad a roddwyd i chi gan ein staff.
- Gwybodaeth a ddarperir gan wasanaethau eraill yn gweithio gyda chi, e.e. sefydliadau partner, gwasanaethau iechyd, gweithwyr cymorth, gweithwyr cymdeithasol ac asiantaethau eraill.
Sut y byddwn yn defnyddio'ch data personol
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau:
- Bod gan y staff sy’n gweithio gyda chi wybodaeth gywir, gyfredol er mwyn eu helpu i benderfynu ar y cyngor neu gymorth gorau ar eich cyfer chi.
- Bod cofnodion cywir pan fyddwn yn adolygu eich amgylchiadau personol.
- Y gellir ystyried unrhyw bryderon yn briodol os bydd gennych gŵyn.
.
Pa mor hir rydym yn cadw eich data personol
Caiff eich data personol ei gadw cyn hired ag sydd angen er mwyn cyflawni’r diben(ion) y cafodd ei gasglu ar ei gyfer ac am gyfnod yr ydym yn ei ystyried yn angenrheidiol i ymdrin ag unrhyw gwestiynau neu gwynion y gallem eu derbyn, oni bai y dewiswn gadw eich data am gyfnod hwy i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng Nghofrestr Gadw’r Cyngor
Ein sail gyfreithlon
Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol yn gyffredinol fydd un neu fwy o'r canlynol:
- Cydsyniad, wrth gasglu eich data i gychwyn er mwyn darparu llety.
- Contract, ar ôl i Gyngor Caerdydd ymrwymo i gytundeb i dderbyn eich llety a ddyrannwyd.
- Cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol fel Awdurdod Lleol yn unol â Deddf Tai (Cymru) 2014.
- Cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol yn rhinwedd ein swydd fel corff cyhoeddus.
 phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?
Er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn i chi, byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â’r canlynol:
- Linc Cymru
- Gwasanaethau ac adrannau eraill Cyngor Caerdydd
- Gwasanaethau allanol gan gynnwys y gwasanaeth iechyd, y gwasanaeth prawf, yr heddlu a'r gwasanaeth carchardai
Rhannu eich gwybodaeth gyda gwasanaethau a sefydliadau eraill
Weithiau, mae rhaid i ni rannu gwybodaeth bersonol heb ofyn i'r unigolyn. Gall hyn ddigwydd:
- Ar gyfer gweithdrefnau cyfreithiol pan wneir Gorchymyn Llys.
- Os oes perygl o niwed neu gamdriniaeth i chi neu bobl eraill.
- Pan na fyddwch, o bosibl, yn gallu cydsynio, oherwydd cyflwr iechyd meddwl neu gorfforol er enghraifft.
- Er mwyn cynorthwyo’r awdurdodau i atal/datrys troseddau neu erlyn troseddwyr, neu asesu/talu treth.
Eich Hawliau
Fel gwrthrych y data, mae gennych yr hawl i gael gafael ar gopïau o'ch data a chywiro unrhyw ddata anghywir neu hen ddata. Mewn amgylchiadau cyfyngedig efallai y gallwch ofyn am ddileu eich data, cyfyngu ar brosesu eich data a gwrthwynebu prosesu eich data.
Tynnu Cydsyniad yn ôl
Yn ystod y broses o ddod o hyd i lety i chi, y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni yw cydsyniad. Felly, gallwch dynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg yn ystod y cam hwn.
Fodd bynnag, ar ôl dyrannu’r llety, daw'r sail gyfreithlon yn gontract ac ni allwch dynnu eich cydsyniad yn ôl mwyach ar y cam hwn.
Hysbysiadau Preifatrwydd Eraill
Cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data i gael mwy o wybodaeth.
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
diogeludata@caerdydd.gov.uk
Gwybodaeth Ychwanegol
Am ragor o wybodaeth darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd Llawn y Cyngor.