Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Covid-19 social care recognition privacy policy



Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau i gymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddynt.  Mae ymgymryd â'r gwaith hwn yn golygu bod yn rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydym yn darparu gwasanaethau iddynt a chadw cofnod o'r gwasanaethau hynny. Gan ein bod yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae'n rhaid i ni sicrhau eu bod yn gwybod beth rydym yn bwriadu ei wneud gyda'u gwybodaeth a gyda phwy y gellir ei rhannu. 

Rydym wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn y ffordd rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Cynllun Taliadau Cydnabod Gweithwyr Gofal Cymdeithasol Covid-19. Dylech ddarllen y wybodaeth hon law yn llaw â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor

Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud.​

O ganlyniad i bandemig parhaus COVID19, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nifer o gynlluniau talu i gydnabod gwaith caled ac ymrwymiad staff gofal cymdeithasol sydd wedi bod yn cefnogi pobl yn ystod y pandemig.  
Mae adran Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor yn gweinyddu'r taliadau hyn ar ran Llywodraeth Cymru ac mae’n gweithio'n agos gyda'r holl gyflogwyr cymwys i sicrhau bod staff yn gallu manteisio ar y cynllun.

Pa wybodaeth bersonol sydd gennym, ac am bwy

Byddwn yn cadw gwybodaeth amdanoch chi, fel cyflogai i ddarparwr gofal ac sydd â hawl i'r taliad hwn
Fel arfer, mae’r mathau o wybodaeth sydd gennym ac a broseswn yn cynnwys:
  • Enw
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Enw’r cyflogwr 

O ble mae'r gwasanaeth yn cael y wybodaeth amdanaf​​

Byddwn yn derbyn eich gwybodaeth gan eich cyflogwr, gan y byddent wedi nodi bod gennych hawl i'r taliad ac wedi rhoi ffurflen ddatganiad i chi yr ydych wedi'i llofnodi, gan eu hawdurdodi i drosglwyddo eich gwybodaeth i'r Cyngor i brosesu eich hawliad. 

Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol

Mae’r Cyngor yn gyfrifol am:
 
  • Reoli'r gwaith o gyflawni'r cynllun yn weithredol ar ran Llywodraeth Cymru 
  • Cysylltu â darparwyr gofal, asiantaethau a'r rhai sy'n cyflogi Cynorthwywyr Personol i'w gwneud yn ymwybodol o'r cynllun
  • Rhoi ffurflenni datganiad i'ch Cyflogwr, i chi lofnodi i gytuno ar eich gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda ni
  • Casglu a choladu'r ceisiadau ar gyfer cyflogwyr
  • Chwilio am hawliadau dyblyg gan ddefnyddio rhif yswiriant gwladol 
  • Talu hawliadau cyflog i Gyflogwyr
  • ​Sicrhau bod mesurau priodol ar waith i leihau'r risg o dwyll neu golledion.

Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio'r wybodaeth hon​  

 
 
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU (UKGDPR) yw:
 
  • Erthygl 6 (1)(e) - Er mwyn cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth ymgymryd ag awdurdod swyddogol a roddir i’r rheolydd 
Ategir hyn gan y canlynol;
 
 
Cynllun Cydnabod Ariannol COVID-19 y GIG a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
 

A yw'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall​

 
 
Ydy, byddwn yn rhannu eich data gyda'r canlynol;

  • Adrannau Mewnol y Cyngor, megis Adnoddau Dynol a'r Gyflogres
  • Asiantaethau Allanol y Llywodraeth gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) a’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
  • Data Cymru a Gwasanaethau a Rennir GIG Cymru i gynnal gwiriadau nad oes unrhyw daliadau dyblyg wedi'u gwneud.

Am ba hyd y bydd fy ngwybodaeth i'n cael ei chadw​

 ​
 
Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw am hyd at 5 mlynedd

 

Eich gwybodaeth, eich hawliau​​. 

 
 
Mae Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU (UKGDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gafael ar y wybodaeth bersonol sydd gan y gwasanaethau amdanoch. MAe rhagor o wybodaeth ar gael yma. 

Cysylltu â ni​

 
Os oes gennych unrhyw bryderon neu os hoffech wybod mwy am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni yn un o'r ffyrdd canlynol:
 

Yn ysgrifenedig: 

Swyddog Diogelu Data 
Cyngor Caerdydd
Ystafell 357
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English  


​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd