Sut caiff eich gwybodaeth bersonol ei defnyddio
Os byddwch yn gwneud cais am y taliad gweithiwr gofal o £500 bydd eich cyflogwr yn rhannu gwybodaeth fel eich enw llawn, rhif yswiriant gwladol, y dyddiad y gwnaed y taliad gyda'r Awdurdod Lleol sy'n gweinyddu'r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru.
Caiff y wybodaeth hon hefyd ei rhannu ag awdurdod lleol a fydd yn cynnal gwiriadau i sicrhau bod y cynllun wedi'i weinyddu'n briodol, bod y rhai sydd wedi derbyn taliad yn gymwys i wneud hynny ac i sicrhau nad oes unrhyw daliadau dyblyg wedi'u gwneud (er enghraifft pan fo cyflogai yn gweithio i fwy nag un darparwr gofal).
Os hoffech wybod mwy am sut y caiff eich gwybodaeth bersonol ei defnyddio at y diben o weinyddu'r cynllun a gwneud y taliad i chi, siaradwch â'ch cyflogwr.
Mae Cyngor Caerdydd yn gweinyddu'r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru ar gyfer unigolion sy'n gweithio yng Nghaerdydd. Mae eich gwybodaeth bersonol a ddarperir ar y ffurflen hon yn cael ei chasglu gan eich cyflogwr ar sail eich cydsyniad a'ch cais am y taliad o £500.
Fel awdurdod cyhoeddus, mae gan Gyngor Caerdydd gyfrifoldeb i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio'n gywir ac felly gellir rhannu manylion y taliadau o fewn y Cyngor a chydag awdurdod arweiniol fel y'i dynodir gan Lywodraeth Cymru er mwyn atal a chanfod twyll a / neu wall. Ni wneir unrhyw ddefnydd pellach o'ch data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu neu'n ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Caerdydd wneud hynny.
Cedwir eich gwybodaeth am 7 mlynedd ar ôl i'r taliad gael ei wneud.