Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Polisi Preifatrwydd Addysg Alwedigaethol Caerdydd

​​​Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn yn ddiweddar i adlewyrchu'r newid yn y ffordd y cynhelir ein cyrsiau oherwydd COVID-19.

Mae’r hysbysiad hwn wedi’i gynllunio i roi gwybodaeth i chi am y data sydd gennym amdanoch, sut y byddwn yn ei ddefnyddio, eich hawliau ynghlwm wrtho a’r mesurau diogelwch sydd ar waith i’w ddiogelu.

Gweld polisi.​


Y math o wybodaeth bersonol a gasglwn​

Ar hyn o bryd rydym yn casglu ac yn prosesu'r wybodaeth ganlynol:
  • ​Cyfeiriad e-bost 
  • Rhif ffôn
 

Sut y cawn yr wybodaeth bersonol a pham mae gennym​

Mae'r rhan fwyaf o'r wybodaeth bersonol a gaiff ei phrosesu gennym yn cael ei rhoi’n uniongyrchol gennych chi am un o'r rhesymau canlynol:

  • I nodi'r gwaith y byddwch yn ei gyflwyno fel rhan o'n cyrsiau galwedigaethol 

Rydym hefyd yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol, o'r ffynonellau canlynol yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Trwy ffurflenni Google ar y gwaith a gyflwynir gennych fel rhan o'n cyrsiau galwedigaethol

Rydym yn defnyddio'r wybodaeth yr ydych wedi’i rhoi i ni er mwyn nodi myfyrwyr sydd wedi cyflwyno gwaith.


Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data​​

Dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (RhDDC DU)​, y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw: 

(a) Eich cydsyniad. 

Rydych yn gallu tynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. Gallwch wneud hyn trwy gysylltu ag addysggalwedigaethol@caerdydd.gov.uk


Sefydliadau y gallen ni rannu eich data personol â nhw​​

Efallai y byddwn yn rhannu eich data personol â thrydydd partïon a darparwyr gwasanaeth at ddibenion:

  • ​Gwirio eich gwaith wedi'i gwblhau. 
  • Cynnig dysgu ar-lein. 


Sut rydym yn storio eich gwybodaeth bersonol​

Mae eich gwybodaeth yn cael ei storio’n ddiogel ar Google Drive.

Rydym yn cadw eich cyfeiriad e-bost a'r gwaith a gyflwynwyd gennych fel rhan o'ch cwrs am 6 mis ar ôl i chi gwblhau'r cwrs. Byddwn wedyn yn cael gwared ar eich gwybodaeth trwy ei ddileu o Google Drive.


Eich hawliau diogelu data​​

Dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau sy’n cynnwys:

Eich hawl mynediad - Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol. 

Eich hawl i gywiro - Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi. 

Eich hawl i ddileu - Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol o dan rai amgylchiadau. 

Eich hawl i gyfyngu ar brosesu - Dan rai amgylchiadau mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol. 

Eich hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol mewn rhai amgylchiadau.

Eich hawl i gludadwyedd data - Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r wybodaeth bersonol a roesoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, o dan rai amgylchiadau.

Os hoffech chi arfer unrhyw un o’r hawliau hyn neu os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon yn gysylltiedig â phrosesu eich data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data fel y nodir isod.  Mae gennych hefyd hawl i gofrestru cwyn mewn perthynas â’r hysbysiad preifatrwydd hwn, neu weithgareddau prosesu’r Cyngor gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.


Cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data​

Cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data am ragor o wybodaeth.  


Swyddog Diogelu Data ​​

Tîm Llywodraethu Gwybodaeth 

Neuadd y Sir 

Glanfa’r Iwerydd 

 Caerdydd 

CF10 4UW 

diogeludata@caerdydd.gov.uk 


Ein manylion cyswllt​​

Addysg Alwedigaethol Caerdydd

Awdurdod Harbwr Caerdydd 

Tŷ’r Frenhines Alexandra,

Cargo Road, Bae Caerdydd 

CF10 4LY

07814 544244

addysggalwedigaethol@caerdydd.gov.uk​


Y tro diwethaf i’r hysbysiad hwn gael ei ddiweddaru oedd 30 Mehefin 2020.​

© 2022 Cyngor Caerdydd