Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Olrhain a Diogelu Covid-19 Caerdydd a’r Fro

​​​​​
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro sut y bydd Cyngor Caerdydd, Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (fel Rheolwyr Data) yn casglu, yn defnyddio ac yn diogelu data personol yn benodol mewn perthynas â phandemig y coronafeirws.​

Rhennir gwybodaeth bersonol ar draws sefydliadau er mwyn ymateb i'r argyfwng iechyd cyhoeddus difrifol o ran pandemig COVID-19.
Caiff y data personol o safbwynt y gwasanaeth hwn ei brosesu at dri diben, sef:​

Profi


Profi gweithwyr allweddol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gweithwyr hanfodol eraill, aelodau o'u haelwydydd a dinasyddion ar draws ardal BIP Caerdydd a’r Fro mewn Unedau Profi Cymunedol, Unedau Profi Symudol a/neu gartref. ​

Olrhain


Defnyddio canlyniadau achosion a gadarnhawyd i gysylltu ag unigolion a nodi manylion a chysylltu ag aelodau o'r cartref.

Diogelu


Gwella system arolygu ac ymateb iechyd y cyhoedd er mwyn gallu atal heintiau ac olrhain y feirws wrth i'r cyfyngiadau gael eu lleddfu. Bydd y Tîm Diogelu a weithredir gan Gyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg yn gwneud cysylltiadau dyddiol â'r Prif Gysylltiadau a’r Cysylltiadau Eilradd i fonitro llesiant a rhoi cyngor ac argymhellion clinigol.

Beth yw’r sail gyfreithiol dros ddefnyddio eich data personol?


Rhoddir peth o'r wybodaeth bersonol a gaiff ei phrosesu gennym yn uniongyrchol gennych chi, neu eich 
cynrychiolydd, am un o'r rhesymau canlynol:

  • Er mwyn gweithredu gwasanaeth olrhain cyswllt COVID-19, gan gynnwys rhoi cyngor a chymorth i'r rhai sydd wedi bod mewn cysylltiad ag unigolyn sydd wedi derbyn prawf SARS-CoV-2 positif, ac er mwyn archebu profion SARS-CoV-2 ar gyfer y rhai sy'n arddangos symptomau COVID-19.
  • Er mwyn cydymffurfio â'n cyfrifoldebau fel cyflogwyr, lle mae aelod o staff yn dal COVID o ganlyniad i ddigwyddiad yn y gwaith, efallai y bydd yn ofynnol i'r rheolwyr data roi gwybod i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn unol â RIDDOR (Rheoliadau Adrodd am Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus 2013).

Rydym hefyd yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol, o'r ffynonellau canlynol yn yr 
amgylchiadau canlynol:

  • Os ydych wedi derbyn prawf SARS-CoV-2 positif; byddai eich enw, dyddiad geni, cyfeiriad a manylion cyswllt wedi'u rhoi i ni gan eich canolfan brofi a weithredir gan un o’r sefydliadau partner.
  • Os ydych wedi cael eich nodi fel un sydd wedi bod mewn cysylltiad ag unigolyn sydd wedi derbyn prawf SARS-CoV-2 positif; byddai eich enw, dyddiad geni, cyfeiriad a manylion cyswllt wedi'u rhoi i ni gan yr unigolyn hwnnw neu ei gynrychiolydd / cyflogwr, neu sefydliad neu unigolyn arall a allai feddu ar y wybodaeth berthnasol.

Dyma'r seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth bersonol:  

  • RhDDC Erthygl 6 (c) - mae ei hangen arnom i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol​​
  • RhDDC Erthygl 6 (e) mae ei hangen arnom i gyflawni tasg gyhoeddus


Gan fod amddiffyniad ychwanegol yn cael ei ddarparu ar gyfer rhai dosbarthiadau o wybodaeth o'r enw 'categori data arbennig personol ' megis gwybodaeth iechyd, rhaid nodi sail gyfreithlon ychwanegol er mwyn prosesu'r dosbarthiadau gwybodaeth hyn, fel yr amlinellir isod:
  • RhDDC DU Erthygl 9(i) – mae angen prosesu oherwydd diddordeb y cyhoedd mewn diogelu iechyd y cyhoedd.


Gall erthyglau perthnasol eraill gynnwys: 
  • ​RhDDC DU Erthygl 9(g) – mae angen prosesu am resymau sydd o fudd sylweddol i'r cyhoedd
  • RhDDC DU​ ​Erthygl 9 (2) (h) Rhoi meddyginiaeth, iechyd neu ofal cymdeithasol neu driniaeth ataliol neu alwedigaethol, neu reoli systemau iechyd neu ofal cymdeithasol


Deddf Diogelu Data 2018 – Atodlen 1, Rhan 1, (2) (2) (f) – dibenion Iechyd a gofal cymdeithasol
Deddf Diogelu Data 2018 – Atodlen 1, Rhan 1, (3) (a) – angenrheidiol am resymau budd y cyhoedd ym maes iechyd y cyhoedd


Gall eich data gael ei brosesu hefyd gan un neu ragor o’r sefydliadau partner a restrir isod. 

Mae gan bob  sefydliad partner statws 'Rheolydd Data ar y Cyd', sy'n golygu ei fod yn gyfrifol yn ôl y gyfraith am y data y mae’n ei brosesu ac rydym oll yn bartion i gytundeb sy'n nodi sut a pham ein bod yn prosesu'r wybodaeth honno.

Y 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru 
Y 7 Bwrdd Iechyd Lleol 
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Iechyd a Gofal Digidol Cymru – (DHCW)
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Mewn amgylchiadau cyfyngedig, gellir rhannu eich gwybodaeth gyda sefydliadau nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â'r broses olrhain cysylltiadau. Er enghraifft, mae'r rheoliadau hunanynysu yn golygu ei bod yn ofynnol yn gyfreithiol i bobl hunanynysu os bydd swyddog olrhain cysylltiadau yn gofyn iddynt wneud hynny. Gall yr asiantaethau sy'n gyfrifol am orfodi'r rheoliadau hunanynysu ofyn i swyddog olrhain cysylltiadau am statws hunanynysu unigolyn. Ni fyddant ond yn gwneud y cais os ydynt yn amau nad yw unigolyn yn hunanynysu pan ddylai fod. Mae gweithdrefnau penodol yn nodi manylion y modd yr ymdrinnir â cheisiadau a datgeliadau o'r fath. Mae rhagor o fanylion am y ddeddfwriaeth sy'n caniatáu rhannu gwybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru .

Sut rydym yn storio eich gwybodaeth bersonol​









Mae eich gwybodaeth yn cael ei storio'n ddiogel. Dim ond am gyhyd ag y mae angen y wybodaeth a phan nad oes ei angen mwyach fe gaiff ei ddileu / ddinistrio'n ddiogel.
  • ​Bydd y data a gasglwn ar gyfer pobl a gafodd brawf Covid-19 positif yn cael ei gadw am 7 mlynedd. 
  • Bydd y data a gesglir ar gysylltiadau pobl â COVID-19 ond nad oes ganddynt unrhyw symptomau yn  cael ei gadw am y cyfnod cadw gofynnol lleiaf o 5 mlynedd. 
  • Bydd canlyniadau profion a gwybodaeth am unrhyw gyflyrau parhaus sy'n gysylltiedig â Covid 19 hefyd yn cael eu cadw ar eich cofnod iechyd electronig am gyfnod hwy yn unol ag  amserlenni cadw arferol y GIG.
 

Cefnogir prosesu eich data at ddibenion olrhain cysylltiadau gan:

  • ​Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Heintiau) 1984
  • Deddf y Coronafeirws 2020
  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysiadau) (Cymru) 2010
  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Pwerau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2010​
  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau’r Coronafeirws) (Cymru) 2020​​

Rhaglen Frechu Covid-19​


Er mwyn goruchwylio'r paratoadau ar gyfer rhaglen darparu brechlynnau Covid-19 yng Nghymru – a chynnig brechlyn i staff iechyd a gofal, bydd gwybodaeth am staff cymwys, y lleiaf posibl o ddata personol fydd ei angen i greu rhestrau o'r staff hynny i gael cynnig brechiad, yn cael ei rhannu. 

Er mwyn cefnogi'r gwaith o greu'r rhestr hon, bydd manylion demograffig sydd eisoes yn eich rhan ohonoch yn cael eu rhannu â Gwasanaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru (NWIS). Bydd data'n cael ei rannu â DHCW mewn modd diogel, a bydd DHCW yn defnyddio'r data hwn i sicrhau bod staff yn cael eu hadnabod yn gywir cyn rhoi unrhyw frechlyn. Ni chedwir eich manylion am fwy o amser nag sydd ei angen at y dibenion hyn a phan nad oes eu hangen mwyach, fe’u gwaredir yn ddiogel.

Gellir defnyddio eich statws brechu i'w wirio (er enghraifft, i sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth briodol am unrhyw ofyniad i hunanynysu).

Eich hawliau​​


Dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau, yn cynnwys:
  • ​Eich hawl mynediad - Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol.
  • Eich hawl i gywiro - Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.
  • Eich hawl i gyfyngu ar brosesu - Dan rai amgylchiadau penodol mae gennych hawl i gyfyngu i ba raddau rydym yn prosesu eich gwybodaeth.
  • Eich hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol mewn rhai amgylchiadau.
  • Nid yw'n ofynnol i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau.  Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb ichi.

Ceir rhagor o wybodaeth am raglen brofi coronafeirw​​
Profi, Olrhain a Diogelu – Gwybodaeth am Breifatrwydd a Diogelu Data​​

Sut i gwyno os ydych chi'n anhapus ynghylch sut y defnyddir eich data​​

Gallwch gwyno'n uniongyrchol i'r Cyngor yn:

Cyngor Caerdydd
E-bost:
diogeludata@caerdydd.gov.uk
Drwy’r post: Swyddog Diogelu Data, Neuadd y Sir, Ystafell 357, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW
 

Cyngor Bro Morgannwg
E-bost:
DPO@valeofglamorgan.gov.uk
Drwy’r post: Swyddog Diogelu Data, Cyngor Bro Morgannwg, y Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, y Barri, Bro Morgannwg, CF63 4RU
 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd A'r Fro
E-bost:
DPO.ABB@wales.nhs.uk
Drwy’r post: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Adran Llywodraethu Gwybodaeth, Woodland  House, Maes-y-Coed Road, Caerdydd, CF14 4TT
 

Gallwch hefyd gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth gan ddefnyddio’r manylion hyn:

Gwefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth​

Drwy’r post: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF.

Ffôn: 0330 414 6421

 

Ceir rhagor o gyngor ac arweiniad gan y Comisiynydd Gwybodaeth ar y mater hwn ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth​​​​.

© 2022 Cyngor Caerdydd