Mae'r Cynllun Prydlesu Rhent Preifat yn gynllun peilot a ddarperir gan Gyngor Caerdydd ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru gyda'r nod o wella mynediad i dai fforddiadwy hirdymor o ansawdd da, gyda chymorth tenantiaeth yn y sector rhent preifat. At ddibenion casglu data, Cyngor Caerdydd yw’r Rheolwr Data.
Bydd y Cynllun, a reolir gan Gyngor Caerdydd, yn cynnig ystod sylweddol o wasanaethau cymorth a buddion i'r ymgeisydd ac i'r landlord preifat, gyda'r nod o wneud y denantiaeth yn llwyddiannus i'r ddau barti.
Mae'r cynllun yn cynnig pecyn rheoli eiddo llawn i landlordiaid gan gynnwys gwaith atgyweirio a chynnal a chadw gydag incwm rhent gwarantedig.
Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn egluro sut y byddwn yn defnyddio'r data personol a ddarparwch er mwyn cymryd rhan yn y cynllun hwn.
Pa ddata rydym yn ei gasglu?
Yn rhan o'r cynllun hwn, byddwn yn casglu'r data personol canlynol:
- Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost.
- Gwybodaeth adnabod, gan gynnwys dyddiad geni, rhif yswiriant gwladol, rhifau cyflogai ac aelodaeth.
- Gwybodaeth ariannol gan landlordiaid a ddefnyddir i gyfrifo ac asesu cymhwysedd ar gyfer taliadau grant a benthyciad.
- Gwybodaeth ariannol ychwanegol sy'n berthnasol i gyfrifo neu dalu grant a benthyciadau, megis rhif cyfrif banc a manylion treth.
- Gwybodaeth am eich amgylchiadau personol, lle bo angen gan wasanaeth perthnasol
- Gwybodaeth am deitlau cofrestrfa tir.
Cesglir hyn er mwyn hwyluso'r gwaith o ddarparu llety rhent preifat i ymgeiswyr. Cysylltir â chi gan ddefnyddio'r manylion rydych wedi'u darparu i drafod cynnydd eich cais ac i ddarparu gwybodaeth am y cynllun hwn.
Sut rydym yn casglu eich data?
Byddwch yn rhoi’r rhan fwyaf o’r data rydym yn ei gasglu i Gyngor Caerdydd yn uniongyrchol. Rydym yn casglu data ac yn prosesu data drwy:
- Ffurflen bapur, gan gynnwys ceisiadau datganiad o ddiddordeb, ffurflen gais grant a benthyciad, cytundeb prydlesu, prif-brydles
- Ymholiadau e-bost
- Ymholiadau ffôn
- Cyfarfodydd wyneb yn wyneb (gyda'n gweithwyr)
- Adrannau eraill y Cyngor y gallech fod wedi cysylltu â hwy ynghylch cymryd rhan yn y cynllun
Sut byddwn yn defnyddio eich data?
Bydd Cyngor Caerdydd yn casglu eich data fel y gallwn:
- Ddarparu llety Rhent Preifat
- Prosesu Taliadau Grant, Benthyciad a Rhent
- Galluogi Archwiliadau Eiddo i gael eu cynnal
- Galluogi Gwaith Adnewyddu i gael ei gynnal
- Prosesu Cytundeb Prydlesu
Gyda phwy rydym yn rhannu eich data?
Ar ôl i chi gymryd rhan yn y cynllun hwn, gellir rhannu eich data personol â'r sefydliadau canlynol;
Llywodraeth Cymru; mae hyn yn cynnwys data ystadegol dienw a rennir at ddibenion adrodd ac archwilio
Alma Economics; bydd hyn yn cynnwys eich adborth ar eich profiad o'r cynllun ac fe'i darperir pan fyddwch wedi rhoi cydsyniad ar wahân i gymryd rhan mewn arolwg
Sut byddwn yn storio eich data?
Rydym yn cadw eich data ar weinydd diogel y cyngor.
Byddwn ond yn cadw eich data personol cyn hired ag sydd angen er mwyn cyflawni’r diben(ion) y cafodd ei gasglu ar ei gyfer ac am gyfnod yr ydym yn ei ystyried yn angenrheidiol i ymdrin ag unrhyw gwestiynau neu gwynion allwn ni eu derbyn, oni bai y dewiswn gadw eich data am gyfnod hwy i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol.
Beth yw eich hawliau diogelu data?
Hoffai Cynllun Prydlesu Rhent Preifat Llywodraeth Cymru sicrhau eich bod yn gwbl ymwybodol o'ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i'r canlynol:
- Yr hawl i gael mynediad – Mae gennych hawl i ofyn i Gynllun Prydlesu Rhent Preifat Llywodraeth Cymru am gopïau o'ch data personol.
- Yr hawl i gywiro – Mae gennych hawl i ofyn i Gynllun Prydlesu Rhent Preifat Llywodraeth Cymru gywiro unrhyw wybodaeth sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hawl hefyd i ofyn i Gynllun Prydlesu Rhent Preifat Llywodraeth Cymru gwblhau'r wybodaeth rydych yn credu ei bod yn anghyflawn.
- Yr hawl i ddileu – Mae gennych hawl i ofyn i Gynllun Prydlesu Rhent Preifat Llywodraeth Cymru ddileu eich data personol, dan rai amodau.
- Yr hawl i gyfyngu prosesu – Mae gennych hawl i ofyn i Gynllun Prydlesu Rhent Preifat Llywodraeth Cymru gyfyngu prosesu eich data personol, dan rai amodau.
- Yr hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych yr hawl i wrthwynebu i Gynllun Prydlesu Rhent Preifat Llywodraeth Cymru brosesu eich data personol, dan rai amodau.
- Yr hawl i gludo data – Mae gennych hawl i ofyn i Gynllun Prydlesu Rhent Preifat Llywodraeth Cymru drosglwyddo'r data yr ydym wedi'i gasglu i sefydliad arall, neu'n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.
Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi.
Ffoniwch ni ar: 02920 537596
Neu ysgrifennwch atom:
Cynllun Prydlesu'r Sector Rhent Preifat
Tai Sector Preifat
Canolfan Dewisiadau Tai
Stryd Hansen
Caerdydd
CF10 5BH
Ein sail gyfreithlon
Ein sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data personol yn gyffredinol fydd un neu fwy o'r canlynol:
- I brosesu eich cais a rhoi llety i chi pan fyddwch wedi rhoi eich cydsyniad ymlaen llaw
- Cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol fel Awdurdod Lleol yn unol â Deddf Tai (Cymru) 2014
- Cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol yn rhinwedd ein swydd fel corff cyhoeddus
Newidiadau i'n polisi preifatrwydd
Mae Cyngor Caerdydd yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon.
Polisïau Preifatrwydd Eraill
I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae Cyngor Caerdydd yn prosesu data personol, gweler ein Polisi Preifatrwydd llawn.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut mae Llywodraeth Cymru yn prosesu data personol, cyfeiriwch at Hysbysiad Preifatrwydd Llywodraeth Cymru.
Sut i gysylltu â ni
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y polisi preifatrwydd hwn neu os hoffech arfer eich hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Ffoniwch ni: 02920 537596
Neu ysgrifennwch atom yn:
Cynllun Prydlesu'r Sector Rhent Preifat
Tai Sector Preifat
Canolfan Dewisiadau Tai
Stryd Hansen
Caerdydd
CF10 5BH
Cysylltu â Diogelu Data
Cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data am ragor o wybodaeth.
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Mae gennych hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl ar gyfer prosesu ar unrhyw adeg drwy hysbysu’r Swyddog Diogelu Data yn ysgrifenedig.
Sut i gysylltu â’r awdurdod priodol
Os hoffech roi gwybod am gŵyn gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth trwy eu gwefan neu drwy ffonio 0303 123 1113.