Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Hysbysiad Preifatrwydd Cymorth Rhianta y Tu Allan i'r Llys

​Pan ddaeth Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 i rym ar 21 Mawrth 2022 fe ddileodd amddiffyniad cosb resymol. O'r adeg hon ymlaen bydd pob cosbi corfforol ar blant yn anghyfreithlon yng Nghymru.

Os bydd yr heddlu'n penderfynu cymryd camau pellach yn erbyn rhiant sydd wedi cosbi ei blentyn yn gorfforol, gallent gynnig datrysiad y tu allan i'r llys (DTALl), er mwyn osgoi'r posibilrwydd o erlyn drwy'r llysoedd am droseddau lefel isel. Un o amodau'r DTALl fyddai cymryd rhan mewn cymorth rhianta sydd â'r nod o ddatblygu arferion rhianta di-drais cadarnhaol.

Mae'r Grant Cymorth Rhianta y Tu Allan i'r Llys yn darparu cyllid i alluogi awdurdodau lleol i ddarparu'r cymorth rhianta pwrpasol hwn.

 

Pa fathau o ddata personol rydym yn eu prosesu?​

Er mwyn darparu'r cymorth rhianta mewn ffordd effeithiol, mae angen i ni gasglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol.  Mae'r mathau o ddata personol rydym yn eu prosesu yn cynnwys y canlynol, ymhlith eraill:

  • Eich enw
  • Eich manylion cyswllt
  • Gwybodaeth am eich teulu
  • Gwybodaeth am y drosedd

 

Sut rydyn ni'n cael eich data personol?​​​

Rydyn ni'n cael eich data personol o ffynonellau gan gynnwys:

  • Atgyfeiriadau gan yr Heddlu
  • Data personol a ddarperir gennych chi

 

Sut rydyn ni'n defnyddio eich data personol?​

Mae'n bosib y casglwn ac y defnyddiwn wybodaeth bersonol i:

  • Asesu anghenion rhianta unigolyn i deilwra'r sesiynau cymorth rhianta i'w anghenion penodol.
  • Rhoi mynediad i'r unigolyn at y cymorth rhianta.
  • Rhannu gwybodaeth gyda'r heddlu fel eu bod yn gwybod a yw'r unigolyn wedi cydymffurfio ag amodau'r datrysiad y tu allan i'r llys.
  • Bodloni rhwymedigaethau diogelu.

Efallai y byddwn yn rhannu data gyda Llywodraeth Cymru at ddibenion monitro a gwerthuso, er mwyn asesu a yw'r cymorth rhianta a ddarperir yn effeithiol ac yn diwallu anghenion amrywiaeth o unigolion (yn yr achos hwn bydd data'r unigolyn yn gyfanredol ac yn ddienw).

 

Beth yw ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol?​

Dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw: 

  • Erthygl 6 (1)(e) Tasg gyhoeddus: mae'r prosesu'n angenrheidiol i chi berfformio tasg sydd er budd y cyhoedd neu ar gyfer eich swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu'r swyddogaeth seiliau clir yn y gyfraith.

Mae rhai mathau o ddata personol yn fwy sensitif nag eraill ac mae angen mwy o amddiffyn arnynt. Mae hyn yn cael ei ystyried yn 'ddata categori arbennig' a gallai gynnwys gwybodaeth am darddiad hiliol neu ethnig a chredoau crefyddol ac ati.  Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu data categori arbennig yw:

  • Erthygl 9 (2)(g) prosesu yn angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol i'r cyhoedd

 

Y sefydliadau y gallwn ni rannu eich data personol gyda nhw​​

Weithiau, efallai y bydd angen i ni rannu data personol â sefydliadau partner eraill sy'n ymwneud â darparu'r cymorth rhianta y tu allan i'r llys. 

Gallai hyn gynnwys:

  • Adrannau eraill yng Nghyngor Caerdydd.
  • Yr Heddlu
  • Llywodraeth Cymru
  • Sefydliadau partner eraill sy'n darparu cymorth i deuluoedd, y mae'r Cyngor yn bartner llwybr atgyfeirio ar eu cyfer.

 

Eich hawliau diogelu data​​​

Dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau sy'n cynnwys:

  • Eich hawl mynediad - Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol. 
  • Eich hawl i gywiro - Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.
  • Eich hawl i ddileu - Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol dan rai amgylchiadau.
  • Eich hawl i gyfyngu ar brosesu - Dan rai amgylchiadau mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol.
  • Eich hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol dan rai amgylchiadau.
  • Eich hawl i gludadwyedd data - Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r wybodaeth bersonol a roesoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, dan rai amgylchiadau.

Nid oes angen i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau.  Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi.

 

Sut i gwyno​​

Os oes gennych unrhyw bryderon am ein defnydd o'ch gwybodaeth bersonol, gallwch wneud cwyn i ni yn diogeludata@caerdydd.gov.uk 

Gallwch hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn anhapus â'r ffordd rydym wedi defnyddio eich data.

Cyfeiriad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:             

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

Swydd Gaer

SK9 5AF

 

Rhif llinell gymorth:  0303 123 1113

Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: https://www.ico.org.uk 

 

Cysylltu â Diogelu Data​​

Cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data i gael mwy o wybodaeth.

Swyddog Diogelu Data

Tîm Llywodraethu Gwybodaeth

Neuadd y Sir

Glanfa'r Iwerydd

Caerdydd

CF10 4UW

diogeludata@caerdydd.gov.uk

 

Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ym Mai 2022.

​​

© 2022 Cyngor Caerdydd