Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Hybysiadau Preifatrwydd COVID-19 Cyngor Caerdydd

​​​​​​Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut y bydd Cyngor Caerdydd (fel rheolwr data) yn casglu, yn defnyddio ac yn diogelu data personol yn benodol mewn perthynas â'r pandemig coronafeirws. 

Mae'r Cyngor eisoes yn cadw data ar ddinasyddion, cyflogeion a rhanddeiliaid. Mae’n bosibl y rhannwn wybodaeth sydd gennym eisoes am fod yn agored i niwed, yn ôl diffiniad canllawiau presennol y Llywodraeth ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, at ddibenion cynllunio at argyfwng neu diogelu eich buddiannau hanfodol drwy ei rhannu â gwasanaethau y tu mewn a y tu allan i'r Cyngor. Mae'n bosibl y bydd angen i ni, yn yr argyfwng presennol, ofyn i chi am ddata personol gan gynnwys data personol sensitif nad ydych eisoes wedi'i ddarparu - er enghraifft, eich oedran neu a oes gennych unrhyw salwch sylfaenol neu a ydych yn agored i niwed. Mae hyn er mwyn i’r cyngor allu eich cynorthwyo chi a blaenoriaethu ei wasanaethau. Os oes gennym wybodaeth sy'n dangos eich bod yn agored i niwed yn y pandemig presennol, efallai y cysylltwn â chi i sicrhau eich diogelwch ac i'ch cynorthwyo lle bo modd. 

Gallwch weld prif Hysbysiad Preifatrwydd y Cyngor, sy'n cynnwys mwy o wybodaeth am sut rydym yn casglu, defnyddio a diogelu data personol yn gyffredinol, yn ogystal â'ch hawliau fel testun data. 

Covid-19 Grwpiau Risg Uchel 


Cesglir data personol er mwyn asesu a rhoi cymorth i oedolion, plant a phobl ifanc sydd mewn categorïau risg uchel ac yr ystyrid eu bod yn agored i niwed pe caent eu heintio â coronafeirws. 

Asesu a rhoi cymorth i staff 


Cesglir data personol i alluogi'r Cyngor i nodi unrhyw staff (neu'r rhai sydd â chysylltiad agos â staff/dibynyddion) sydd yn unrhyw un o'r categorïau risg uchel ac a fyddai'n cael eu hystyried yn agored i niwed, pe caent eu heintio â’r Coronafeirws. 

Ar ba sail gyfreithiol byddwn yn defnyddio eich data personol? 


Chi sy’n rhoi rhan fwyaf yr wybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu i ni'n uniongyrchol, dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (RhDDC DU/UK GDPR).

Dyma'r seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth bersonol: 
  • Erthygl 6 (d) RhDDC DU mae angen i ni ddiogelu eich buddiannau hanfodol 
  • Erthygl 6 (e) RhDDC DU mae ei angen arnom i gyflawni tasg gyhoeddus 

Wrth gasglu data am eich iechyd, rydym hefyd yn defnyddio ar y seiliau cyfreithiol canlynol: ​

  • Erthygl 9 (2) (i) RhDDC DU mae arnom angen ei gasglu ar gyfer iechyd y cyhoedd
  • Erthygl 9 (2) (j) RhDDC DU​ mae arnom angen dadansoddi eich gwybodaeth ​


Eich hawliau  ​​


Dan gyfraith diogelu data mae gennych hawliau, gan gynnwys: 
  • Eich hawl mynediad - Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol
  • Eich hawl i gywiro - Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi
  • Eich hawl i gyfyngu ar brosesu - O dan rai amgylchiadau penodol mae gennych hawl i gyfyngu i ba raddau rydym yn prosesu eich gwybodaeth
  • Eich hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol mewn rhai amgylchiadau









Nid yw'n ofynnol i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau. Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb ichi.

Gyda phwy dylech gysylltu os oes gennych bryderon am y ffordd y caiff eich data ei brosesu? 

Gallwch gysylltu â Thîm Diogelu Data Cyngor Caerdydd neu gysylltu'n uniongyrchol â Swyddog Diogelu Data Cyngor Caerdydd:

E-bost: diogeludata@caerdydd.gov.uk

Drwy’r post: Swyddog Diogelu Data, Neuadd y Sir, Ystafell 357, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW 


Gallwch hefyd gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth gan ddefnyddio’r manylion hyn:

Drwy’r post: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. 

Rhif Ffôn: 0330 414 6421 

Ceir rhagor o gyngor ac arweiniad gan y Comisiynydd Gwybodaeth ar y mater hwn ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth ​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​.


© 2022 Cyngor Caerdydd