Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Hysbysiad Preifatrwydd Canolfan Ailgylchu Caerdydd

​​Bwriedir yr hysbysiad preifatrwydd hwn ar gyfer trigolion Caerdydd sy'n defnyddio Canolfan Ailgylchu Caerdydd ar gyfer ailgylchu a gwaredu eu gwastraff cartref. Mae Canolfan Ailgylchu Caerdydd yn rhan o Gyngor Caerdydd, sy’n Rheolwr Data at ddibenion y wybodaeth a gesglir.

​Pa ddata rydym yn ei gasglu a pham?​

Er mwyn prosesu eich archebion ailgylchu, mae Cyngor Caerdydd yn casglu'r data canlynol: 
  • Enw Cyntaf a Chyfenw
  • Cyfeiriad
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif cofrestru’r cerbyd
  • Rhif ffôn







Cesglir hyn er mwyn dyrannu slotiau archebu, rheoli mynediad a gwirio cymhwysedd i'r canolfannau ailgylchu a weithredir gan Gyngor Caerdydd. Bydd eich gwybodaeth archebu hefyd yn cael ei defnyddio i fonitro effeithiolrwydd ein canolfannau ailgylchu a sicrhau nad yw'r gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio'n dwyllodrus.​


Sut rydym yn casglu eich data?​

Rydym yn casglu eich data pan fyddwch yn cwblhau eich cofrestriad drwy ein ffurflenni ar-lein, y gellir dod o hyd iddynt ar wefan Cyngor Caerdydd. Mae Cyngor Caerdydd yn defnyddio trydydd parti o'r enw MiPermit i brosesu cofrestriadau a'i archebion.  

Rydym hefyd yn casglu data pan fyddwch yn gwneud ymholiadau ar ein gwefan drwy'r sgwrs fyw.  Bydd cynnwys ysgrifenedig a gyflwynir drwy ein gwasanaeth cwsmeriaid ChatBot (Bobi) yn Gymraeg yn cael ei brosesu gan Google Translate er mwyn cael testun Saesneg sy'n cyfateb i alluogi cynnwys i gael ei adnabod. Mae hyn yn golygu bod unrhyw wybodaeth a gofnodir yn Gymraeg hefyd yn destun telerau prosesu data Google Translate.​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

Y sail gyfreithiol ar gyfer ein defnydd o’ch data personol​​​

Mae Cyngor Caerdydd yn cadw data personol amdanoch yn rhinwedd ei swydd fel rheolwr data.  Mae gwybodaeth bellach ar sut rydym yn defnyddio eich data personol isod.  

Yn gyffredinol, ar un o’r seiliau cyfreithiol isod y byddwn yn defnyddio eich data personol: 
  • rydym yn prosesu eich data personol i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol fel Awdurdod Lleol i gasglu ac ailgylchu gwastraff cartrefi  
  • rydym yn prosesu eich data personol i gwblhau tasg er budd y cyhoedd neu i arfer awdurdod swyddogol sydd gennym fel corff cyhoeddus
  • rydym yn prosesu eich data lle bo angen i ddiogelu ein buddiannau cyfreithlon fel Awdurdod Lleol 
  • rydym yn prosesu eich data lle bo angen i gyflawni contract ​

Sut byddwn yn defnyddio eich data?​

Mae Cyngor Caerdydd yn casglu eich data er mwyn:
  • Creu archebion ar gyfer y canolfannau ailgylchu 
  • Cadarnhau cymhwysedd i weld a allwch ddefnyddio'r ganolfan ailgylchu
  • Sicrhau nad yw aelwydydd yn ymweld â'r canolfannau ailgylchu yn amlach na’r hyn a ganiateir 
  • Nodi unrhyw gamddefnydd o'r canolfannau ailgylchu
  • Cysylltu â chi os oes unrhyw newidiadau i'ch archebion 
  • Cynnal dadansoddiad ystadegol ar y defnydd o ganolfannau ailgylchu a sawl gwaith y mae pobl yn defnyddio'r ganolfan ailgylchu dros y flwyddyn 
  • Helpu gyda thystiolaeth gorfodi gwastraff lle y bo'n briodol

Am faint y byddwn yn storio eich data?​​

Dim ond am gyhyd ag sy'n ofynnol y cedwir eich data er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol, rhwymedigaethau cytundebol a diogelu ein buddiannau cyfreithlon.  Cedwir y wybodaeth a gasglwn ynglŷn â'ch ailgylchu am gyfnod o ddwy flynedd, ac ar ôl hynny mae'n cael ei dileu'n ddiogel.  

Gyda phwy rydym yn rhannu eich data? ​

Wrth gwblhau eich cofrestriad, caiff eich data ei brosesu drwy MiPermit, cwmni trydydd parti.  Mae hyn yn golygu eu bod yn gweithredu fel Prosesydd Data ar ein rhan ac y cedwir data dros dro ar eu gweinyddion.
 
Mae Cyngor Caerdydd wedi gweithredu'r mesurau diogelwch angenrheidiol i sicrhau cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth diogelu data gyfredol, gan gynnwys Cytundeb Rhannu Data ac asesiadau effaith perthnasol.  

Dim ond yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol ar ddiogelu data a pholisi diogelu data Cyngor Caerdydd y caiff yr holl wybodaeth ei chadw a'i throsglwyddo.  I gael rhagor o wybodaeth am sut mae MiPermit yn prosesu data personol, edrychwch ar eu polisi preifatrwydd. ​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

Beth yw eich hawliau diogelu data? ​​

Hoffai Cyngor Caerdydd wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o'ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i'r canlynol: 
  • ​Yr hawl i gael mynediad – Mae gennych hawl i ofyn am gopïau o'ch data personol. 
  • Yr hawl i gywiro – Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd gywiro unrhyw wybodaeth sy'n anghywir yn eich barn chi.  Mae gennych hefyd hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd gwblhau'r wybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.
  • Yr hawl i ddileu – Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd ddileu eich data personol, dan rai amodau. 
  • Yr hawl i gyfyngu prosesu – Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd gyfyngu prosesu eich data personol, dan rai amodau.
  • Yr hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych yr hawl i wrthwynebu i Gyngor Caerdydd brosesu eich data personol, dan rai amodau.
  • Yr hawl i gludo data – Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd drosglwyddo'r data yr ydym wedi'i gasglu i sefydliad arall, neu'n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.​

Hysbysiadau Preifatrwydd Ychwanegol ​

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Caerdydd yn prosesu data personol, darllenwch yr Hysbysiad Preifatrwydd llawn.​​​​​​


Newidiadau i'n Hysbysiad Preifatrwydd ​​

Gall newidiadau i'n Hysbysiad Preifatrwydd ddigwydd ar unrhyw adeg er mwyn adlewyrchu diweddariadau mewn deddfwriaeth, arfer gorau a chanllawiau gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth​​​​. Cyhoeddir y newidiadau hyn ar ein gwefan. 

Sut i gysylltu â ni ​​

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am bolisïau preifatrwydd Cyngor Caerdydd, y data rydym yn ei gadw amdanoch chi neu os hoffech arfer un o’ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni  drwy’r post:

Swyddog Diogelu Data 
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth 
Neuadd y Sir 
Glanfa’r Iwerydd 
Caerdydd 
CF10 4UW 


Sut i gysylltu â’r awdurdod priodol​​

Os hoffech gyflwyno cwyn neu os teimlwch nad yw Cyngor Caerdydd wedi mynd i'r afael â'ch pryder mewn modd boddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd drwy ei gwefan neu drwy ffonio 0303 123 1113.  ​​​​​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd