Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Domestic Homicide Privacy Notice

​​
Mae gan Gyngor Caerdydd, fel cynullydd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerdydd, ddyletswydd statudol i reoli adolygiadau dynladdiad domestig i mewn i'r amgylchiadau pan fo marwolaeth person 16 oed neu'n hŷn wedi deillio o drais, camdriniaeth neu esgeulustod, neu y mae'n ymddangos felly, gan -

  • berson yr oeddent yn perthyn iddo, neu’r oeddent ar y pryd neu’r oeddent wedi bod mewn perthynas bersonol agos â hwy, neu
  • aelod o'r un aelwyd â nhw eu hunain 

At ddibenion casglu data, Cyngor Caerdydd yw’r Rheolwr Data. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymwneud â phrosesu data personol sy'n digwydd gan Gyngor Caerdydd fel rhan o adolygiad dynladdiad domestig.

Mae'r hysbysiad hwn yn esbonio pa wybodaeth rydym yn ei chasglu, pam rydym yn ei chasglu a sut rydym yn ei chadw'n ddiogel.  Mae hefyd yn esbonio eich hawliau a'n rhwymedigaeth gyfreithiol.  Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am bolisïau diogelu data Cyngor Caerdydd, cysylltwch â'n swyddog diogelu data drwy'r manylion a restrir isod. 
 

Pa ddata rydym yn ei gasglu?​​​

Rydym yn casglu ac yn storio cofnodion yn bennaf am y dioddefwyr a'r tramgwyddwyr sy'n gysylltiedig â'r Dynladdiad Domestig, ond efallai y byddwn hefyd yn cynnwys unrhyw un arall a allai effeithio ar yr achos.  Gallai’r wybodaeth hon gynnwys: 
Gwybodaeth gan ddarparwyr arbenigol (fel darparwyr gwasanaethau cam-drin domestig neu ddarparwr gwasanaethau camddefnyddio sylweddau) 
Manylion ymgysylltu â gwasanaethau 
Cofnodion diogelu 
Cofnodion cyfarfodydd a chyfweliadau 
Cofnodion Meddygol
Cofnodion Gofal Cymdeithasol
Manylion unrhyw risg gysylltiedig a achosir gan y person neu i'r person. 
Tystiolaeth gan bob parti sy'n cynnwys cofnodion o unrhyw achosion o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. 
Manylion am fregusrwydd/anabledd neu ofynion arbennig. 
Gwybodaeth am gofnodion troseddol a ddarparwyd gan wasanaethau atal troseddau, megis yr heddlu neu'r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid 
Lle rydym yn prosesu data personol fel rhan o adolygiad o ddynladdiad domestig, rydym yn dibynnu ar yr amodau cyfreithlon canlynol: 
Deddf Trais yn y Cartref, Troseddu a Dioddefwyr 2004 
Erthygl 6(1)(c) - prosesu sy'n angenrheidiol er mwyn i Gyngor Caerdydd gyflawni rhwymedigaeth statudol
Erthygl 6(1)(e) - prosesu at ddibenion cyflawni tasg gyhoeddus a gyflawnir er budd y cyhoedd
Erthygl 9(2)(b) - mae prosesu yn angenrheidiol at ddibenion cyflawni rhwymedigaethau ac arfer hawliau penodol y rheolwr neu'r gwrthrych data ym maes cyflogaeth a chyfraith nawdd cymdeithasol a diogelu cymdeithasol

Sut byddwn yn defnyddio'r data?​​

Efallai y byddwn yn cynnal cyfweliadau gyda ffrindiau, teulu, cydweithwyr gwaith a gweithwyr proffesiynol eraill i gasglu rhagor o wybodaeth, a defnyddio hyn gyda chofnodion uchod y dioddefwyr a'r tramgwyddwyr i sefydlu'r canlynol:
a) pa wersi y gellir eu dysgu o'r dynladdiad domestig ynghylch y ffordd y mae gweithwyr proffesiynol a sefydliadau lleol yn gweithio'n unigol a gyda'i gilydd i ddiogelu dioddefwyr 

b) nodi'n glir beth yw'r gwersi hynny o fewn a rhwng asiantaethau, sut ac o fewn pa amserlenni y byddant yn cael eu gweithredu arnynt, a'r hyn y disgwylir iddo newid o ganlyniad 

c) cymhwyso'r gwersi hyn i ymatebion i wasanaethau gan gynnwys newidiadau i lywio polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol a lleol fel y bo'n briodol 

ch) atal trais yn y cartref a dynladdiad a gwella ymatebion i wasanaethau i bob dioddefwr trais a cham-drin domestig a'u plant drwy ddatblygu dull amlasiantaethol cydgysylltiedig i sicrhau bod cam-drin domestig yn cael ei nodi a'i ymateb yn effeithiol cyn gynted â phosibl

d) cyfrannu at well dealltwriaeth o natur trais a cham-drin domestig ac
amlygu arfer da


Gyda phwy rydym yn rhannu eich data? ​

Pan fydd y penderfyniad i gychwyn adolygiad o ddynladdiad domestig yn cael ei benodi, penodir cadeirydd annibynnol a bydd panel adolygu aml-asiantaeth yn cael ei gynnull.  Mae'r panel adolygu yn cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau sydd yn y sefyllfa orau i gyfrannu at yr adolygiad a bwrw ymlaen ag unrhyw argymhellion sy'n deillio o'r broses.  Byddwn yn rhannu gwybodaeth sy'n berthnasol i'r adolygiad yn ddiogel gyda'r sefydliadau hynny sy'n cymryd rhan yn y broses adolygu.  Gall hyn gynnwys sefydliadau fel: 
Cyngor Caerdydd
Swyddfa Comisiynwyr Heddlu a Throseddu
Heddlu De Cymru
Gwasanaeth Carchar Ei Mawrhydi Caerdydd
Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 
Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Gwasanaethau neu Arbenigwyr Cymorth Cam-drin Domestig Arbenigol 

Gallwch fod yn dawel eich meddwl ein bod yn cyfyngu ar faint o ddata personol sy'n cael ei rannu i'r lleiafswm angenrheidiol a byddwn ond yn rhannu gwybodaeth sy'n berthnasol i'r adolygiad.

Efallai y byddwn hefyd yn rhannu gwybodaeth i'n galluogi i gydymffurfio â gorchmynion llys a rhwymedigaethau cyfreithiol eraill.  Os bydd hyn yn angenrheidiol, byddwn ond yn rhannu'r isafswm o ddata personol sydd ei angen at y diben hwn. 

Os teimlwn fod angen rhannu data personol â gweithwyr proffesiynol er mwyn sicrhau eich bod chi neu rywun rydych chi'n gweithio gydag ef yn cael ei ddiogelu rhag niwed, rydym yn dibynnu ar ddarpariaethau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 a Deddf Plant 1989 a 2004.  Lle bo angen rhannu gwybodaeth feddygol neu ofal cymdeithasol at y dibenion hyn, rydym yn dibynnu ar erthygl 9(2)(h) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (gwybodaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer diagnosis meddygol, darparu iechyd neu ofal cymdeithasol neu driniaeth neu reoli systemau iechyd neu ofal cymdeithasol). 

Sut rydym yn storio eich data?​

Mae Cyngor Caerdydd yn storio eich data'n ddiogel ac ond yn cadw eich data personol am gyhyd ag y bydd angen i ni wneud er mwyn cyflawni'r diben(ion) y cafodd ei gasglu ar ei gyfer, ac am gyhyd wedyn ag y credwn y bydd yn ofynnol i ni ddelio ag unrhyw gwestiynau neu gwynion y gallwn eu derbyn, oni bai ein bod yn dewis cadw eich data am gyfnod hirach i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar Gofrestr Gadw'r Cyngor

Beth yw eich hawliau diogelu data? ​

Mae gennych hawl i weld a chael copi o'r data personol sydd gan y Cyngor amdanoch a gofyn i'r Awdurdod gywiro eich data personol os oes unrhyw wallau neu os yw'n hen.  Mewn rhai amgylchiadau, cewch hefyd ofyn i’r Cyngor gyfyngu ar brosesu eich data personol tan wirir unrhyw gamgymeriadau, gwrthwynebu i ni brosesu neu drosglwyddo neu (mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn), ofyn i ni ddileu eich data personol.

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn neu os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon yn gysylltiedig â phrosesu eich data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data fel y nodir isod.  Mae gennych hefyd hawl i gofrestru cwyn yn gysylltiedig â’r hysbysiad preifatrwydd hwn neu weithgareddau prosesu’r Cyngor gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a gallwch wneud hynny trwy’r wefan isod neu ei llinell gymorth. 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn oddi wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth neu drwy eu llinell gymorth 0303 123 1113.

Polisïau preifatrwydd gwefannau eraill

Mae gwefan Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerdydd yn cynnwys dolenni i wefannau eraill.  Dim ond i'n gwefan ni y mae ein polisi preifatrwydd yn berthnasol, felly os byddwch yn clicio ar ddolen i wefan arall, dylech ddarllen ei pholisi preifatrwydd hi.

Newidiadau i'n polisi preifatrwydd​​​

Mae Cyngor Caerdydd yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 01/09/2021

Sut i gysylltu â ni ​

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisi preifatrwydd hwn, y data sydd gennym amdanoch, neu os hoffech arfer un o'ch hawliau diogelu data, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data i gael rhagor o wybodaeth. 

Swyddog Diogelu Data 
 Tîm Llywodraethu Gwybodaeth 
Neuadd y Sir 
Glanfa’r Iwerydd 
Caerdydd
CF10 4UW

diogeludata@caerdydd.gov.uk ​



​​

© 2022 Cyngor Caerdydd