Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Hysbysiad Preifatrwydd Cynnig Gofal Plant Caerdydd

​​​​​​Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel 'unrhyw wybodaeth yn ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy a allai gael ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol wrth gyfeirio at ddyfais adnabod'. Caiff data categori arbennig megis grŵp ethnig neu gyflwr iechyd eu diogelu ymhellach o dan y gyfraith diogelu data.
Mae gan Lywodraeth Cymru fynediad at ddata personol a chategori arbennig rhieni, gofalwyr a phlant sy'n derbyn gwasanaethau gan awdurdodau lleol.

Caiff y data rydym yn eu derbyn yn rheolaidd am rieni a phlant ei egluro'n fanylach yn Atodiad 1 i'r hysbysiad preifatrwydd hwn. Nid yw eich enw a'ch manylion cyswllt yn cael eu trosglwyddo'n rheolaidd i Lywodraeth Cymru at ddibenion monitro, gyda'r data a amlinellir yn Atodiad 1. Fodd bynnag, bydd eich awdurdod lleol yn rhoi enw a'ch manylion cyswllt i Lywodraeth Cymru fel bo'r angen at ddibenion gwerthuso. Ond ni fydd yn rhoi enw eich plentyn.

Yn ogystal, mae gan Lywodraeth Cymru fynediad at ddata personol darparwyr gofal plant sy'n darparu gwasanaethau a ariennir gan Lywodraeth Cymru o dan y cynnig gofal plant. Caiff y data rydym yn eu derbyn yn rheolaidd am ddarparwyr gofal plant eu hegluro'n fanylach yn Atodiad 2 i'r hysbysiad preifatrwydd hwn. Ni fydd Llywodraeth Cymru'n rhannu eich enw gyda thrydydd parti e.e. asiantaethau anllywodraethol ac ymchwilwyr, oni bai bod eich enw yr un peth ag enw eich busnes, sydd eisoes ar gael yn gyhoeddus.
Caiff rhaglen y Cynnig Gofal Plant ei werthuso o bryd i'w gilydd er mwyn asesu perfformiad y rhaglen a helpu Gweinidogion Cymru i wneud penderfyniadau ynghylch datblygu'r polisi'n ymwneud â'r Cynnig. Os bydd rhywun yn cysylltu â chi ynghylch cymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil sy'n gysylltiedig â'r Cynnig Gofal Plant, cewch Hysbysiad Preifatrwydd ar wahân yn amlinellu sut y bydd yr wybodaeth a gynhyrchir gan yr ymchwil yn cael ei chasglu, ei chadw a'i defnyddio. Mae cymryd rhan yn yr ymchwil yn wirfoddol ac ni chewch eich enwi yn unrhyw adroddiad.
 
Cysylltir eich data'n ddienw â ffynonellau data eraill fel rhan o'r banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) at ddibenion ymchwil anfasnachol yn unig, oni bai eich bod yn gofyn nad yw hynny'n digwydd (gweler y nodyn esboniadol).

Beth yw'r sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio eich data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu’r wybodaeth yn y broses gasglu data hon yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. Gelwir rhywfaint o'r data rydym yn eu casglu yn 'ddata categori arbennig' ('ethnigrwydd' yn yr achos hwn) a'r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw ei bod at ddibenion ystadegol neu ymchwil.

Mae hyn yn galluogi gweithredu'r Cynnig Gofal Plant, ac yn darparu gwybodaeth a fydd yn helpu Gweinidogion Cymru i wneud penderfyniadau ynghylch datblygu'r polisi'n ymwneud â'r Cynnig, sy'n cael ei gyflwyno i wella llesiant economaidd a chymdeithasol yng Nghymru yn unol ag adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 20061.

Defnyddir y data a anfonir at Lywodraeth Cymru:
  • i fesur pa mor dda y mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn darparu eu gwasanaethau i chi a'ch plentyn;
  • i gefnogi gwelliannau i'r gwasanaethau hyn;
  • i ddyrannu cyllid i'r awdurdodau lleol ac eraill;
  • i gefnogi ymchwil ehangach i'r gwasanaethau a ddarperir i chi a'ch plentyn, neu eraill;
  • i gysylltu data â ffynonellau data eraill er mwyn gwerthuso'r effaith y mae’r rhaglen yn ei chael ar y bobl sy'n cymryd rhan ynddi.
 
Ni fydd y data a anfonir at Lywodraeth Cymru yn cael eu defnyddio:
  • i gymryd unrhyw gamau mewn perthynas â chi neu eich plentyn, neu eich lleoliad gofal plant; nac
  • i'ch enwi chi neu eich plentyn mewn unrhyw adroddiadau.


Pa mor ddiogel yw eich data personol?


Caiff data personol eu trosglwyddo drwy Objective Connect, sy'n system ddiogel ar gyfer trosglwyddo data. Mae'r data'n cael eu storio mewn ffolderi ar rwydweithiau diogel y mae swyddogion Llywodraeth Cymru, sydd yn gweithio ar y Cynnig Gofal Plant, yn unig â hawl i fynd iddynt.

Bydd yr holl ddata a gesglir yn cael eu defnyddio'n ddienw mewn adroddiadau ystadegol neu adroddiadau ymchwil. Ni fydd eich manylion cyswllt yn cael eu cynnwys mewn unrhyw adroddiadau, nac unrhyw wybodaeth y gellid eu defnyddio i'ch adnabod. Bydd data cyfun hefyd yn cael eu rhoi ar wefan StatsCymru​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​​​​

Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal gwerthusiad o'r Cynnig Gofal Plant, bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud gan drydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Bydd gwaith o'r fath ond yn cael ei wneud dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer y contractau hyn yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Am ba mor hir y byddwn yn cadw data personol?

Caiff unrhyw ddata personol a drosglwyddir i Lywodraeth Cymru eu dileu tair blynedd o'r dyddiad y daeth i law.

Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, sydd wedi'i leoli ym Mhrifysgol Abertawe, hefyd yn cael gweld rhan o'ch data personol am gyfnod o dri mis, nes bod y broses o gysylltu'r data â ffynonellau eraill drwy'r banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw wedi'i chwblhau.

Hawliau unigol O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data

Mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych yn ei darparu fel rhan o'r Cynnig Gofal Plant. Mae hawl gennych:
  • weld copi o'ch data;
  • gofyn i ni gywiro unrhyw wallau yn y data;
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar y prosesu (mewn rai a​mgylchiadau);
  • gofyn am ddileu'ch data (mewn rhai amgylchiadau)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.
 
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​​​​​​

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y bydd Llywodraeth Cymru'n defnyddio eich data, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:
 
Tîm y Cynnig Gofal Plant
Adeiladau'r Goron, CP2
Parc Cathay
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: Trafodgofalplant@llyw.cymru​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ 

Nodyn esboniadol

Mae Banc Data SAIL yn cynnwys data dienw am boblogaeth Cymru. Caiff ei gydnabod yn rhyngwladol am ei system storio gadarn a diogel a'r defnydd o ddata personol dienw ar gyfer ymchwil i wella iechyd, lles a gwasanaethau. Gall ymatebwyr ddewis a ydynt eisiau i'w hatebion gael eu cysylltu â ffynonellau eraill ai peidio. Am ragor o wybodaeth darllenwch Hysbysiad cysylltu a pharu preifatrwydd data Llywodra​eth Cymru.​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd
 

Atodiad 1


Pa ddata y mae Llywodraeth Cymru'n gallu eu gweld?


Rhieni plant sy'n defnyddio'r Cynnig Gofal Plant - at ddibenion gwirio cymhwystra​:

Mae awdurdodau lleol yn gofyn am fanylion amdanoch chi fel rhiant neu ofalwr plentyn neu blant o'r fath, a manylion y plant sy'n derbyn gwasanaethau o dan y Cynnig Gofal Plant, a hynny er mwyn gwirio eich cymhwystra i fanteisio ar y cynnig yn erbyn y meini prawf a nodwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys;

  • Eich oriau gwaith a'ch cyflog (Caiff yr wybodaeth hon ei throsglwyddo'n ddienw i Lywodraeth Cymru gan yr awdurdod lleol, sy'n golygu na fydd y data dan sylw'n cynnwys eich enw nac enw eich plentyn.)
  • Dyddiad geni'r plentyn yr ydych yn gwneud cais iddo ddefnyddio'r Cynnig Gofal Plant (Caiff yr wybodaeth hon ei throsglwyddo'n ddienw i Lywodraeth Cymru gan yr awdurdod lleol, sy'n golygu na fydd y data dan sylw'n cynnwys eich enw nac enw eich plentyn.)
  • Eich cyfeiriad (Caiff eich cod post ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru gan yr awdurdod lleol yn ddienw, sy'n golygu na fydd y data dan sylw'n cynnwys eich enw nac enw eich plentyn.)
  • Gwybodaeth am y budd-daliadau rydych yn eu hawlio a allai eich gwneud yn gymwys i fanteisio ar y Cynnig Gofal Plant (​Ni chaiff yr wybodaeth hon ei throsglwyddo i Lywodraeth Cymru.)
 

Rhieni/gofalwyr a phlant sy'n defnyddio'r cynnig gofal plant:

Mae awdurdodau lleol yn darparu manylion i Lywodraeth Cymru amdanoch chi fel rhiant neu ofalwr plentyn neu blant o'r fath, ac am y plant sy'n derbyn gwasanaethau o dan y Cynnig Gofal Plant. Mae hyn yn cynnwys:
  • Data am eich plentyn a chi fel y rhiant/gofalwr;
    • Rhyw
    • Dyddiad geni
    • Cod post
    • Awdurdod lleol
    • Ethnigrwydd
    • A oes gan eich plentyn angen addysgol arbennig (AAA)
    • E​ich cyflog
    •  Eich oriau gwaith wythnosol cyfartalog
    • A ydych yn defnyddio unrhyw wasanaethau Dechrau'n Deg - ni chesglir gwybodaeth am yr union wasanaethau
  • Manylion sylfaenol am y gwasanaethau a ddarparwyd i chi a'ch plentyn cyn manteisio ar y Cynnig Gofal Plant;
    • Y gofal plant y nodwyd eich bod yn gallu ei fforddio cyn manteisio ar y Cynnig Gofal Plant
    • Gwariant misol cyfartalog ar ofal plant cyn manteisio ar y Cynnig Gofal Plant
    • Faint o oriau o ofal plant oeddech yn talu amdanynt bob wythnos ar gyfartaledd cyn manteisio ar y Cynnig
    • Faint o oriau o ofal plant oeddech yn eu defnyddio heb orfod talu amdanynt bob wythnos ar gyfartaledd cyn manteisio ar y Cynnig
  • Manylion sylfaenol y gwasanaethau a ddarperir i chi a'ch plentyn yn sgil y Cynnig Gofal Plant;
    • Faint o oriau yr ydych wedi gwneud cais amdanynt ar gyfer eich plentyn o dan y Cynnig Gofal Plant
    • Faint o oriau o ofal y mae eich plentyn yn eu defnyddio o dan y Cynnig Gofal Plant
    • Darpariaeth iaith y gofal plant y mae'r plentyn yn ei gael
    • Dewis iaith y plentyn o ran y ddarpariaeth o dan y cynnig
    • A yw'r plentyn yn manteisio ar Ddarpariaeth Feithrin y Cyfnod Sylfaen
    • R​hif cofrestru Arolygiaeth Gofal Cymru y darparwr/darparwyr gofal plant lle rydych manteisio ar y Cynnig Gofal Plant.

 

Atodiad 2


Darparwyr gofal plant sy'n darparu gwasanaethau o dan y Cynnig Gofal Plant​


Mae awdurdodau lleol yn darparu eich manylion chi i Lywodraeth Cymru fel darparwr sy'n cynnig gwasanaethau o dan y Cynnig Gofal Plant. Mae hyn yn cynnwys:

  • Eich manylion cyswllt - gan gynnwys eich enw, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad post, a rhif cofrestru Arolygiaeth Gofal Cymru
  • ​Darpariaeth ieithyddol eich lleoliad yn unol â’r wybodaeth a ddarparwyd gennych i’r awdurdod lleol ac i Arolygiaeth Gofal Cymru
  • Faint o oriau y mae pob plentyn sy’n manteisio ar y Cynnig Gofal Plant yn eich lleoliad wedi'u harchebu a faint o oriau y maent wedi eu defnyddio mewn gwirionedd
  • Unrhyw gostau ychwanegol i rieni sydd wedi manteisio ar y Cynnig yn eich lleoliad, gan gynnwys: costau bwyd, costau teithio, ac unrhyw oriau ychwanegol y maent yn eu defnyddio yn eich lleoliad yn ychwanegol at oriau’r Cynnig.


​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd