Mae Cyngor Caerdydd yn casglu data personol amdanoch chi, y prawf llif unffordd a gynhaliwyd a chanlyniadau'r profion er mwyn iddo allu nodi'r nifer sy'n manteisio ar brofion llif unffordd, iechyd y gweithlu gofal cymdeithasol a rhoi gwybod i'r Cyngor am ei allu i ddarparu ei wasanaethau gofal cymdeithasol.
Oherwydd rhwymedigaethau'r Cyngor i Iechyd a Diogelwch ei staff, a'i gwsmeriaid a budd ehangach y cyhoedd ym maes iechyd y cyhoedd, mae'r Cyngor yn casglu ac yn defnyddio'r wybodaeth bersonol hon a’r wybodaeth categori arbennig er budd staff a budd ehangach y cyhoedd.
Byddwn yn prosesu data personol sy'n ymwneud â staff dan erthygl 6.1(e) GDPR y DU – mae ei angen arnom i gyflawni tasg gyhoeddus
Byddwn yn prosesu data personol categori arbennig o dan ddarpariaethau erthygl 9.2(i) GDPR y DU, a Rhan 1 o Atodlen 1(3) Deddf Diogelu Data 2018 lle mae er budd y cyhoedd ar Sail Iechyd y Cyhoedd i sicrhau y gallwn leihau lledaeniad COVID mewn modd amserol a'n galluogi i barhau i ddarparu gwasanaethau mor ddiogel â phosibl.
Caiff y data hwn ei brosesu dan y rhwymedigaethau a nodir yn neddfwriaeth Iechyd y Cyhoedd (Rheoliadau 3(1) a (4) Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd (Rheoli Gwybodaeth Cleifion) 2002 (RhGC)) sy'n caniatáu rhannu data at ddibenion sy'n gysylltiedig â COVID.
Mae'r Cyngor hefyd yn darparu ac yn rheoli gwybodaeth mewn perthynas â darparwyr gofal/preswyl ac Ysgolion yng Nghaerdydd drwy'r prosesau hyn. Caiff hyn ei brosesu dan erthygl 6(1)(e) ac erthygl 9(2)(h) GDPR y DU.
Data Personol dan sylw
Caiff y data personol canlynol ei brosesu gan yr ysgol mewn perthynas â’ch prawf:
- Enw
- Cod unigryw wedi'i neilltuo ar gyfer pob prawf unigol ac a fydd yn dod yn brif rif cyfeirnod i’r profion.
- Canlyniad Prawf
Prosesu Data Personol sy'n Ymwneud â Chanlyniadau Prawf Positif
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i weithredu ein prosesau ynysu a rheoli COVID ein hunain heb ddweud wrth unrhyw un pwy sydd wedi cael y prawf positif. Bydd canlyniadau positif profion llif unffordd yn cael eu rhannu gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Caiff y wybodaeth hon ei chadw gan y Cyngor am gyfnod o ddeuddeg (12) mis a gan y GIG am wyth (8) mlynedd.
Prosesu Data Personol sy'n ymwneud â chanlyniadau profion Negyddol ac Annilys
Byddwn yn cofnodi canlyniad negyddol ac annilys at ddibenion rheoli stoc profion a pherfformiad cyffredinol y broses brofi.