Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Hysbysiad Preifatrwydd Profi Staff mewn Ysgolion a Lleoliadau Gofal Plant am COVID-19

​​Er mwyn gallu cwblhau'r profion Covid-19 ym mhob ysgol neu leoliadau Gofal Plant Cofrestredig yng Nghaerdydd, mae angen i ni brosesu data personol, gan gynnwys rhannu data personol lle caniateir hyn o dan ddeddfwriaeth diogelu data.   

Pob Ysgol yw'r Rheolwr Data ar gyfer y data sy'n ofynnol ar gyfer rheoli profion a gweithredu trefniadau lleol os bydd prawf positif.  Mae lleoliadau gofal plant cofrestredig a gwarchodwyr plant yng Nghaerdydd hefyd yn defnyddio ein gwasanaeth lle maent wedi cydsynio i gyflenwadau profion llif unffordd gan Gyngor Caerdydd.

Byddwn yn prosesu data personol sy'n ymwneud ag erthygl 6.1(e) RhDDC y Deyrnas Gyfunol - mae ei angen arnom i gyflawni tasg gyhoeddus

Byddwn yn prosesu data personol categori arbennig o dan ddarpariaethau erthygl 9.2(i) RhDCC y Deyrnas Gyfunol, a Rhan 1 o Atodlen 1(3) o Ddeddf Diogelu Data 2018 lle mae er budd y cyhoedd ar Sail Iechyd y Cyhoedd i sicrhau y gallwn leihau lledaeniad COVID mewn modd amserol a'n galluogi i barhau i ddarparu gwasanaethau addysg mor ddiogel â phosibl.  

Caiff y data hwn ei brosesu o dan y rhwymedigaethau a nodir yn deddfwriaeth Iechyd y Cyhoedd (Rheoliadau 3(1) a (4) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd (Rheoli Gwybodaeth i Gleifion) 2002 (COPI) sy'n caniatáu rhannu data at ddibenion sy'n gysylltiedig â COVID a lle caiff ei wneud gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol NEU rhywun sydd â dyletswydd gyfatebol o gyfrinachedd i'r data hwnnw.

Caiff systemau ar gyfer cofnodi canlyniadau eu cynnal gan yr Awdurdod Addysg Lleol (Cyngor Caerdydd) sy'n prosesu ac yn storio'r wybodaeth hon ar ran yr ysgol. 

Perchnogaeth y Data Personol 


Bob tro y byddwch yn defnyddio prawf llif unffordd mae'n rhaid i chi roi adroddiad o’r canlyniadau. Defnyddiwch y ffurflen ganlynol i roi gwybod am eich canlyniadau Ffurflen brofi Ysgolion / Dyfais Llif Unffordd Gofal Plant (DLlU) Caerdydd​.​

​Yr ysgol yw'r Rheolwr Data o hyd ar gyfer y data a gedwir gennym amdanoch ar gyfer rheoli profion a gweithredu trefniadau lleol os bydd prawf positif.

Dylech ddarllen yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn a Hysbysiad Preifatrwydd COVID-19 yr A​dran Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ddeall sut mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio cyn sefyll prawf.

Data Personol dan sylw  

Caiff y data personol canlynol ei brosesu gan yr ysgol o ran eich prawf: 
  • Enw
  • Cod unigryw wedi'i neilltuo ar gyfer pob prawf unigol ac a fydd yn dod yn brif rif cyfeirnod i’r profion.
  • ​Canlyniad Prawf  

Sut rydym yn storio eich gwybodaeth bersonol

Bydd yr ysgol yn cadw cofnod pecyn prawf a fydd yn cofnodi yn ôl eich enw fanylion y pecyn profi sydd wedi'i ddarparu i chi.  Gall yr ysgol hefyd gofnodi Data Personol amdanoch yn ei chofrestr canlyniadau COVID-19 fewnol (ni fydd cofrestr canlyniadau COVID-19 yr ysgol yn cael ei rhannu â’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.   Dim ond ar systemau a reolir yn lleol gyda rheolaethau myn​​ediad priodol y caiff y wybodaeth hon ei storio'n ddiogel a dim ond i bersonél dan sylw y bydd ar gael wrth reoli profion a gweithredu trefniadau lleol os ceir prawf cadarnhaol.

Bydd yr ysgol yn cadw ei log pecyn prawf a chofrestr canlyniadau COVID-19 am gyfnod o ddeuddeg (12) mis o ddyddiad y cofnodion diwethaf a wnaed gan yr ysgol ynddynt. 

Prosesu Data Personol sy'n Ymwneud â Chanlyniadau Prawf Positif

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i weithredu ein prosesau ynysu a rheoli COVID ein hunain heb ddweud wrth unrhyw un pwy sydd wedi cael y prawf positif.  Bydd canlyniadau positif o ran prawf llif unffordd yn cael eu rhannu gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Bydd yr ysgol yn cadw'r wybodaeth hon am gyfnod o ddeuddeg (12) mis a chan y GIG am wyth (8) mlynedd.​

Prosesu Data Personol sy'n ymwneud â chanlyniadau profion Negyddol ac Annilys 

Byddwn yn cofnodi canlyniad negyddol ac annilys at ddibenion rheoli stoc profion a pherfformiad cyffredinol y broses brofi.

Partneriaid Rhannu Data 

Bydd y data personol sy'n gysylltiedig â chanlyniadau profion yn cael ei rannu â’r 
  • Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (AIGC), GIG Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru – i sicrhau y gallant ymgymryd â'r gweithgareddau Profi, Olrhain, Diogelu angenrheidiol a chynnal ymchwil a chasglu gwybodaeth ystadegol am y Coronafeirws.
  • Llywodraeth Leol i ymgymryd â dyletswyddau iechyd cyhoeddus lleol ac i gofnodi a dadansoddi achosion lleol o ledu.

Bydd Data Personol ym mhecyn prawf yr ysgol/coleg  yn cael ei rannu â’r AIGC i nodi pa becyn prawf sydd wedi'i roi i ba unigolyn os bydd cynnyrch yn cael ei alw'n ôl. Ni fydd yr ysgol yn rhannu ei chofrestr ganlyniadau COVID-19 mewnol gyda AIGC.

Eich Hawliau

Dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau sy’n cynnwys:
  • Eich hawl mynediad - Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol.  
  • Eich hawl i gywiro - Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi. 
  • Eich hawl i ddileu - Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol o dan rai amgylchiadau. 
  • Eich hawl i gyfyngu ar brosesu - Dan rai amgylchiadau mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol. 
  • Eich hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol mewn rhai amgylchiadau.
  • Eich hawl i gludadwyedd data - Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r wybodaeth bersonol a roesoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, o dan rai amgylchiadau.

Nid oes angen i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau. Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi.

Cysylltwch â'r Ysgol os hoffech wneud cais. 

Sut i gwyno 

Os oes gennych unrhyw bryderon am ein defnydd o'ch gwybodaeth bersonol, gallwch wneud cwyn i ni:  

Swyddog Diogelu Data

Gallwch hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn anhapus â'r ffordd rydym wedi defnyddio eich data:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif llinell gymorth:  0303 123 1113


​​

© 2022 Cyngor Caerdydd