Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i gynllunio i roi gwybod i breswylwyr ac ymwelwyr yn ardal Caerdydd sut y caiff eu data personol ei brosesu drwy systemau teledu cylch cyfyng a weithredir gan Gyngor Caerdydd. Mae'r hysbysiad hwn yn disgrifio ein diben ar gyfer prosesu a'r sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i gasglu a storio eich data personol.
Pa wybodaeth bersonol y byddwn yn ei chipio yn ein systemau teledu cylch cyfyng?
Mae systemau teledu cylch cyfyng Cyngor Caerdydd yn cipio delweddau o bobl a cherbydau yn y man lle mae camera'n cael ei weithredu ac o'i amgylch. Gall hyn gynnwys gwybodaeth adnabyddadwy fel platiau cofrestru cerbydau a delweddau o aelodau'r cyhoedd.
Beth yw ein diben ar gyfer defnyddio teledu cylch cyfyng?
Byddwn yn defnyddio eich data personol a gesglir drwy systemau teledu cylch cyfyng at y dibenion canlynol:
- Cynyddu diogelwch i breswylwyr, gweithwyr ac ymwelwyr Caerdydd.
- Monitro diogelwch staff Cyngor Caerdydd ac ymwelwyr ag adeiladau'r Cyngor.
- Helpu i atal, rhwystro a chanfod troseddau, anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a helpu i ddarparu amgylchedd mwy diogel i'r bobl hynny sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal ac i ymwelwyr sy'n teithio drwy'r ardal.
- Helpu i reoli mannau cyhoeddus yn gyffredinol.
- Cynorthwyo'r Cyngor i gyflawni ei swyddogaethau rheoleiddio mewn perthynas ag iechyd a diogelwch amgylcheddol, rheoli llygredd, tir halogedig, iechyd a diogelwch, diogelwch bwyd, lles anifeiliaid, diogelu defnyddwyr, pwysau a mesurau a thrwyddedu.
- Darparu cymorth rheoli traffig a gorfodi cyfyngiadau lonydd bysus a pharcio
- Darparu cymorth a chyfeiriad os bydd argyfwng mawr yng Nghaerdydd.
Beth yw ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol?
Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol drwy systemau teledu cylch cyfyng yw:
- GDPR y DU Erthygl 6 (1) (e) prosesu er budd y cyhoedd.
Mae hyn er mwyn sicrhau y gallwn ymgymryd â'n tasgau cyhoeddus o ran diogelwch y cyhoedd, atal a chanfod troseddau a chaniatáu rheoli traffig yn gadarnhaol yn yr ardal.
Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich data personol?
Efallai y byddwn yn rhannu eich data personol â sefydliadau eraill at ddibenion, gan gynnwys atal a chanfod troseddau, i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol, neu pan fo hynny'n cael ei ganiatáu'n gyfreithiol. Mae'r sefydliadau hyn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Adrannau eraill Cyngor Caerdydd
- Cwmnïau yswiriant
- Llysoedd a thribiwnlysoedd
- Asiantaethau Gorfodi'r Gyfraith, gan gynnwys yr Heddlu
- Yr ombwdsman ac awdurdodau rheoliadol.
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?
Cedwir pob recordiad teledu cylch cyfyng am ddim mwy na chyfnod o 31 diwrnod a'i ddileu'n awtomatig wedi hynny. Gellir cadw unrhyw recordiadau teledu cylch cyfyng y bernir eu bod yn berthnasol i ymchwiliad parhaus am gyfnod estynedig a chânt eu dileu pan ddaw i ben yn unol ag amserlen cadw corfforaethol y Cyngor.
Beth yw eich hawliau?
- Eich hawl mynediad - Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol.
- Eich hawl i gywiro - Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.
- Eich hawl i ddileu - Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol dan rai amgylchiadau.
- Eich hawl i gyfyngu ar brosesu - Dan rai amgylchiadau mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol.
- Eich hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol dan rai amgylchiadau.
- Eich hawl i gludadwyedd data - Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r wybodaeth bersonol a roesoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, dan rai amgylchiadau.
Mae gennych hefyd hawl i gofrestru cwyn yn gysylltiedig â'r hysbysiad preifatrwydd hwn neu weithgareddau prosesu'r Cyngor gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth a gallwch wneud hynny trwy'r wefan isod neu eu llinell gymorth.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn gan Swyddfa'r Comisiynydd GwybodaethDolen yn agor mewn ffenestr newydd neu drwy ei llinell gymorth 0303 123 1113.
Cysylltu â Diogelu Data
Cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data i gael mwy o wybodaeth.
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
diogeludata@caerdydd.gov.uk