Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Hysbysiad preifatrwydd y dreth gyngor

​Mae'r hysbysiad hwn ar gyfer unigolion sy'n atebol i dalu’r Dreth Gyngor i Gyngor Caerdydd.

Mae'r Cyngor yn prosesu gwybodaeth benodol amdanoch chi (a elwir yn ddata personol) o ddydd i ddydd er mwyn cyflawni ein swyddogaethau. Rydym wedi'n cofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth a bydd unrhyw wybodaeth sydd gennym yn cael ei phrosesu yn unol â gofynion y Ddeddf Diogelu Data a GDPR y DU. 
 
Mae'r hysbysiad hwn wedi'i gynllunio i roi gwybodaeth i chi am unrhyw ddata sydd gan adran y Dreth Gyngor amdanoch chi, sut maen nhw'n ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas ag ef a'r mesurau diogelu sydd ar waith i'w ddiogelu.

Pa ddata personol sydd gennym a sut rydym yn ei gael 

Fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu’r Dreth Gyngor os ydych yn 18 oed neu'n hŷn ac yn berchen ar gartref neu'n ei rentu.  Rydym yn cael eich data personol pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni eich bod yn atebol i dalu'r Dreth Gyngor mewn eiddo yn ardal Caerdydd.

Y data a gasglwn ac a broseswn ar gyfer gweinyddu'r Dreth Gyngor yw: 

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost.  
  • Manylion ariannol fel rhif cyfrif banc os ydych yn talu’r dreth gyngor trwy Ddebyd Uniongyrchol.




Efallai y bydd amgylchiadau lle mae arnom angen gwybodaeth fanylach gennych a all gynnwys un neu fwy o'r canlynol: 

  • Gwybodaeth am eich teulu, dibynyddion, neu bobl nad ydynt yn ddibynyddion megis lle caniateir gostyngiadau statws ac eithriadau – e.e. prentisiaid, myfyrwyr, hyfforddeion, ymadawyr ysgol neu coleg, preswylwyr cartrefi gofal, darparwyr gofal.  
  • Gwybodaeth am eich iechyd megis lle mae gostyngiad yn cael ei ganiatáu oherwydd anabledd neu nam meddyliol.   
  • Gwybodaeth am eich cyflogaeth a'ch hawl i Fudd-daliadau Lles, megis lle mae dyledion yn cael eu hadennill o dan bwerau Gorchymyn Atebolrwydd Llys Ynadon drwy ddidyniadau o enillion neu fudd-daliadau.      
  • Gwybodaeth am unrhyw gyfnod o amser y cawsoch eich cadw yn y ddalfa neu o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, lle caniateir disgownt neu eithriad. 

Sut y byddwn yn defnyddio'ch data personol

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i weinyddu a chasglu'r dreth gyngor.  Gall hyn gynnwys unrhyw un o'r canlynol:

  • Danfon atoch hysbysiadau galw am dalu'r Dreth Gyngor
  • Danfon atoch nodiadau atgoffa am daliadau
  • Prosesu unrhyw ostyngiadau neu eithriadau y gallwch wneud cais amdanynt, er enghraifft disgownt person sengl, eithriadau myfyrwyr
  • Prosesu eich taliadau e.e. debyd uniongyrchol, cerdyn credyd neu debyd, taliad arian parod
  • Adennill unrhyw arian sy'n ddyledus yn unol â'n pwerau cyfreithiol, er enghraifft mynd â chi i'r llys, cyfeirio'r ddyled at y beilïaid i'w casglu 
  • Didynnu taliadau'n uniongyrchol gan eich cyflogwr neu fudd-dal nawdd cymdeithasol lle mae gennym orchymyn llys sy'n ein galluogi i wneud hynny. 
  • Delio â chwynion neu bryderon. 
  • Adnabod a chanfod twyll.    
  • Cyfathrebu â chi ar ran Llywodraeth Cymru ar gyfer mentrau amrywiol.

Sefydliadau y gallwn rannu eich data personol â nhw

O bryd i'w gilydd, byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda chynghorwyr a darparwyr gwasanaethau fel y gallant ein helpu i gyflawni ein dyletswyddau, ein hawliau a'n disgresiwn mewn perthynas â'r dreth gyngor. Gall y rhain gynnwys: 

Gwasanaethau Mewnol y Cyngor megis:

  • Cofrestru Etholiadol – i gadarnhau preswyliaeth 
  • Budd-daliadau Tai – i helpu i weinyddu dyfarniad Budd-dal Tai 
  • Cofrestryddion a Dweud Wrthym Unwaith – gwybodaeth am bobl sydd wedi marw'n ddiweddar.  
  • Gwasanaethau Cymunedol a Phlant – i gadarnhau preswyliaeth ar gyfer cymorth ariannol fel Gofal Plant
  • Gwasanaethau eraill y Cyngor – i ddilysu gwybodaeth a darparu gwell gwasanaethau ar yr amod bod gennym sail a nodir yn y gyfraith.
  
Asiantaethau a sefydliadau'r Llywodraeth megis:









Darparwyr prosesu taliadau: 

  • Gwasanaeth Clirio Awtomataidd Bancio (BACS) – i weinyddu cyfarwyddiadau a thaliadau debyd uniongyrchol  
  • Cyflenwyr a sefydliadau trydydd parti dibynadwy sy'n darparu gwasanaethau ar ein rhan: 
  • Canolfan olrhain – i adennill treth gyngor sydd heb ei thalu
  • Asiantau Gorfodi i orfodi gorchmynion llys mewn perthynas threth gyngor sydd heb ei thalu
  • Cyfreithwyr – i ddarparu arbenigedd cyfreithiol mewn achosion methdaliad i adennill treth gyngor sydd heb ei thalu
  • Cwmnïau argraffu – i argraffu, pecynnu ac ar ôl dogfennau'r dreth gyngor. 
  • Darparwr meddalwedd – i gynnal ein systemau treth gyngor.  
  • Dadansoddi data – at ddibenion adolygu'r hawl i ostyngiadau a rhyddhad. 
  • Civica UK Ltd - ar gyfer gweinyddu'r Dreth Gyngor, gan gynnwys cynnal a chadw cyfrifon ac adolygiadau disgownt person sengl. 
  • Trawsuno - Cwblhau gwiriadau ariannol a preswyliaeth fel rhan o weithgarwch adolygu disgownt y dreth gyngor. 

Pa mor hir rydym yn cadw eich data personol

Byddwn ond yn cadw eich data personol cyn hired ag sydd ei angen er mwyn cyflawni’r diben(ion) y cafodd ei gasglu ar ei gyfer ac am gyfnod yr ydym yn ei ystyried yn angenrheidiol i ymdrin ag unrhyw gwestiynau neu gwynion y byddwn yn eu derbyn, oni bai y dewiswn gadw eich data am gyfnod hwy i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol. 

Mae rhagor o fanylion i'w gweld ar Amserlen Cadw'r Cyngor​ ​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd


Eich hawliau

Mae gennych hawl i gael mynediad at eich data a chael copi o’r data personol sydd gan y Cyngor amdanoch a gofyn i’r Awdurdod gywiro eich data personol os oes camgymeriadau neu wybodaeth sy’n hen. Mewn rhai amgylchiadau, cewch hefyd ofyn i’r Cyngor gyfyngu ar brosesu eich data personol tan fod unrhyw gamgymeriadau’n cael eu gwirio, gwrthwynebu prosesu neu drosglwyddo neu (mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn) ofyn i ni ddileu eich data personol. 

Os hoffech chi arfer unrhyw un o’r hawliau hyn neu os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon yn gysylltiedig â phrosesu eich data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data fel y nodir isod. 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn oddi wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth​ ​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​ neu drwy eu llinell gymorth 0303 123 1113.

Y sail gyfreithiol ar gyfer ein defnydd o’ch data personol

Ein sail gyfreithlon dros brosesu'r wybodaeth hon at y dibenion uchod yw Erthygl 6 (1) (e) pan fo prosesu'n angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth ymgymryd ag awdurdod swyddogol a roddir i’r rheolwr. 

Ategir hyn ymhellach gan yr angen i gyflawni ein dyletswyddau statudol swyddogol ac i fodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:  

  • Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 
  • Rhan 2, Erthygl 12 o Orchymyn Awdurdodau Lleol (Contractio Allan o Swyddogaethau Treth, Casglu a Gorfodi) 1996 fel y'i nodir yn Offeryn Statudol Rhif 1880. 
  • Mewn rhai amgylchiadau, bydd gofyn i ni brosesu gwybodaeth am iechyd unigolyn. Caiff hyn ei ddosbarthu fel data categori arbennig a chaiff ei brosesu o dan Erthygl 9 (2) (g) a gefnogir ymhellach gan y ddeddfwriaeth ganlynol:
  • Rhyddhad i Bobl Anabl (awdurdod statudol - Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gostyngiadau ar gyfer Anableddau) 1992)
  • Eithrio/Diystyru ar gyfer pobl sydd â nam meddyliol difrifol (awdurdod statudol - Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Eithriedig) 1992; Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Disgownt) 1992)
  • Eithrio/Diystyru preswylwyr cartrefi gofal a nyrsio (awdurdod statudol - Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Eithriedig) 1992; Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Disgownt) 1992)
  • Eithrio/Diystyru darparwyr gofal (awdurdod statudol - Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Eithriedig) 1992; Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Disgownt) 1992)

Swyddog Diogelu Data

Cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data i gael mwy o wybodaeth. 

Swyddog Diogelu Data 
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth 
Neuadd y Sir 
Glanfa’r Iwerydd 
Caerdydd
CF10 4UW 

Diweddaru’r hysbysiad hwn 

Gallwn ddiweddaru’r hysbysiad hwn o dro i dro.  Pan fyddwn yn gwneud hyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau a’r dyddiadau y daw'r newidiadau i rym. ​​
© 2022 Cyngor Caerdydd