Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Cymorth Llywodraethwyr

​​​Mae’r hysbysiad hwn wedi’i greu i roi gwybodaeth i chi am y data sydd gennym amdanoch, sut yr ydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau ynghlwm ag ef, a'r dulliau diogelu sydd yn eu lle i'w amddiffyn. ​​

Pam rydym yn anfon yr hysbysiad hwn atoch​

O dan gyfraith diogelu data, mae gan unigolion yr hawl i gael gwybod sut mae Gwasanaethau Cymorth Llywodraethwyr yn defnyddio unrhyw ddata personol sydd gennym amdanynt. 

Mae angen eich data personol ar y Gwasanaethau Cymorth Llywodraethwyr:

  • I gyflawni ein tasgau cyfreithiol a rheoleiddiol fel Awdurdod Lleol 
  • I gyflawni tasg benodol er budd y cyhoedd, a nodir gan y gyfraith, er mwyn cydymffurfio â Deddf Addysg 2002 (Rhan 3 A.22)​


​Pa ddata personol sydd gennym a sut rydym yn ei gael 


Gall y mathau o ddata personol rydym yn eu prosesu gynnwys y canlynol, ymhlith eraill:

  • Enw, Cyfeiriad, Rhifau ffôn, Cyfeiriadau e-bost
  • Hil, Tarddiad Cenedlaethol neu Ethnig
  • Manylion cyflogaeth
  • Manylion canolwyr
  • Manylion tymhorau mewn swydd fel llywodraethwr
  • Manylion ynghylch hyfforddiant a gawsoch ac adborth a gafwyd
  • Cyfnodau blaenorol fel Llywodraethwr (math o lywodraethwr, unrhyw swyddi a ddaliwyd ar y corff llywodraethu, telerau'r swydd a gyflawnwyd a'r rhesymau dros 
  • ymddiswyddiadau/ataliadau)
  • Gwybodaeth arall sy'n berthnasol i arolygon cwsmeriaid a/neu gynigion megis maes gwaith a diddordebau gwaith


Darperir y wybodaeth a gasglwn am lywodraethwyr naill ai gan yr ysgol dan sylw, Clerc y Llywodraethwyr neu lywodraethwyr/darpar lywodraethwyr unigol.

Sut y byddwn yn defnyddio eich data personol 


Byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i’n cynorthwyo i barhau i gyflawni tasgau cyfreithiol a rheoliadol fel Awdurdod Lleol ac i gyflawni tasgau penodol er budd y cyhoedd fel y nodir gan y gyfraith.

Gall hyn gynnwys prosesu eich data personol er mwyn:

  • Cysylltu â chi
  • Eu defnyddio at ddibenion recriwtio a phenodi
  • Eu defnyddio at ddibenion ystadegol 
  • Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol i roi gwybodaeth i chi am eich rôl fel llywodraethwr ysgol, gan gynnwys cyfleoedd hyfforddi
  • At ddibenion cadw cofnodion mewnol
  • At ddibenion adborth ac i wella ein cynnyrch a'n gwasanaethau
  • Darparu cyngor ac arweiniad statudol priodol 
  • At ddibenion marchnata ac i roi gwybod i chi am unrhyw wybodaeth arall a allai fod yn ddiddorol i chi yn ein barn ni
  • I ddarparu, recordio a monitro hyfforddiant llywodraethwyr.


Eich Hawliau​


Fel testun data, mae gennych lawer o hawliau yn gysylltiedig â’ch data personol. Mae hyn yn cynnwys:

  • Hawl i gael mynediad 
  • Hawl i gywiro
  • Hawl i ddileu 
  • Yr hawl i dynnu caniatâd yn ôl lle dibynnir ar ganiatâd 
  • Hawl i symud data
  • Hawl i gyfyngu ar brosesu
  • Hawl i wrthwynebu
  • Hawliau ynglŷn â gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio. 


Sefydliadau y gallwn rannu eich gwybodaeth â nhw​


Nid ydym yn rhannu gwybodaeth am lywodraethwyr gydag unrhyw drydydd parti heb ganiatâd oni bai bod y gyfraith a rhwymedigaethau dilys eraill yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud hynny.​

​​​​
Caiff eich data ei rannu gydag eraill at y dibenion canlynol:

  • At dibenion recriwtio a phenodi
  • Er mwyn gallu cysylltu â chi ac anfon gwybodaeth atoch 
  • Bydd hefyd yn cael ei rannu at ddibenion ystadegol e.e. hyfforddiant a wnaed, aelodaeth cyrff llywodraethu
  • I alluogi llywodraethwyr i gwbwlhau hyfforddiant gorfodol


 Gyda phwy rydym yn rhannu eich data:

  • Dim ond gyda swyddogion y Cyngor
  • aelodau Panel Llywodraethwyr yr ALl (ar gyfer llywodraethwyr ALl)
  • Pennaeth, Cadeirydd a Chlerc eich dewis ysgol(ion)
  • Consortiwm Canolbarth y De
  • unrhyw bartïon eraill lle mae gwneud hynny'n ofynnol yn ôl y gyfraith y byddwn yn rhannu eich data


  Caiff eich data ei brosesu yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018.

Cysylltu â ni


Cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data am ragor o wybodaeth. 

Swyddog Diogelu Data 
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth 
Neuadd y Sir 
Glanfa'r Iwerydd 
Caerdydd 
CF10 4UW

diogeludata@caerdydd.gov.uk

Mae gennych hawl i dynnu eich cydsyniad yn ôl ar gyfer prosesu ar unrhyw adeg drwy hysbysu’r Swyddog Diogelu Data yn ysgrifenedig. Fodd bynnag, os na chydsyniwch, neu os tynnwch eich cydsyniad yn ôl, ni fydd y Gwasanaethau Cymorth Llywodraethwyr yn gallu rhoi gwybodaeth i chi i’ch galluogi i gyflawni eich rôl ac efallai na fyddant yn gallu prosesu gwybodaeth berthnasol y gwneir penderfyniadau ar ei sail, gan gynnwys penderfyniadau sy’n ymwneud â’ch penodi/ailbenodi yn llywodraethwr. 

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Caerdydd yn prosesu data personol, gweler 
ein Hysbysiad Preifatrwydd​ llawn yma.​

© 2022 Cyngor Caerdydd