Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Canolfan Gyswllt Cymru Cenedl Noddfa:Wcráin

​​​Bydd Cyngor Caerdydd yn darparu gwasanaethau canolfan gyswllt ar ran Gweinidogion Cymru i gefnogi’r cynllun Cymru Cenedl Noddfa: Wcráin. 

Bydd Cyngor Caerdydd yn prosesu data personol at ddibenion darparu cymorth i ddinasyddion Wcráin sy'n ffoi i Gymru rhag y rhyfel yn Wcráin ac sydd angen cymorth ar unwaith a thrafnidiaeth i deithio ymlaen i leoliad eu noddwr neu Ganolfan Groeso Llywodraeth Cymru. Gall Cyngor Caerdydd hefyd brosesu data personol gan unigolion a sefydliadau sydd â chwestiynau am y cynllun Cymru Cenedl Noddfa: Wcráin.

Pa fathau o ddata personol rydym yn eu prosesu?


Mae’r mathau o ddata personol rydym yn eu prosesu yn cynnwys y canlynol, ymhlith eraill: 

  • Enw 
  • Dyddiad geni / oedran 
  • Rhywedd 
  • Manylion cyswllt 
  • Manylion unrhyw un sy'n teithio gyda chi 
  • Rhif pasbort
  • Data cais fisa











Gallwn hefyd brosesu categorïau arbennig o ddata gan gynnwys:

  • Gwybodaeth diogelu


Sut rydyn ni’n cael eich data personol?

Rydyn ni’n cael eich data personol o ffynonellau gan gynnwys:

  • Llywodraeth Cymru
  • Gwybodaeth a roddwyd gennych i'r ganolfan gyswllt.

Sut rydyn ni'n defnyddio eich data personol?

Bydd data yn cael ei gasglu a'i brosesu gan y ganolfan gyswllt.  Bydd y ganolfan gyswllt yn darparu llinell gymorth i mewn a bydd yn casglu data personol gan ymgeiswyr a noddwyr.  Bydd y ganolfan gyswllt hefyd yn cysylltu ag ymgeiswyr ar gynlluniau Llywodraeth Cymru a nawdd unigol i roi gwybodaeth iddynt am wahanol brosesau'r cynllun.

Bydd data personol yn cael ei brosesu gan Gyngor Caerdydd at ddibenion darparu cefnogaeth a chymorth i ddinasyddion Wcráin sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin. Yn benodol, caiff data personol ei brosesu er mwyn rhoi gwybodaeth ac arweiniad i ddinasyddion Wcráin sy'n cyrraedd y DU i deithio i gyrchfan yng Nghymru, ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddynt.

Beth yw ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol?

Y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu eich data yw;

  • Erthygl 6 (1) (e) o GDPR y DU – Mae angen prosesu ar gyfer perfformio tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth ymgymryd ag awdurdod swyddogol a roddir i’r rheolwr. 
  • Rhan 2, Adran 8 (d) o Ddeddf Diogelu Data 2018 – Mae angen prosesu er mwyn cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol y rheolwr gan gynnwys prosesu data personol sy'n angenrheidiol er mwyn arfer un o swyddogaethau'r Goron, un o Weinidogion y Goron, neu un o adrannau'r llywodraeth. 
  • Os yw'r prosesu'n cynnwys categorïau arbennig o ddata, y sail gyfreithlon yw Erthygl 9(2)(g) o GDPR y DU – mae angen prosesu am resymau o fudd sylweddol i'r cyhoedd. Yr amod budd sylweddol i’r cyhoedd cyfatebol yw Atodlen 1, Rhan 2, Paragraff 18 o Ddeddf Diogelu Data 2018 – mae prosesu'n angenrheidiol er mwyn diogelu plant ac unigolion sydd mewn perygl.  

Am ba hyd byddwn yn cadw eich data personol?

Cedwir data tra bo Gweinidogion Cymru o'r farn bod angen darparu ganolfan gyswllt Cymru Cenedl Noddfa: Wcráin. Pan benderfynir nad oes angen y ganolfan gyswllt mwyach, bydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi cyfarwyddiadau ar yr hyn y dylid ei wneud gydag unrhyw ddata a rennir gyda Chyngor Caerdydd neu a gesglir ganddo at y diben hwn.  

Y sefydliadau y gallwn ni rannu eich data personol gyda nhw

Efallai y byddwn yn rhannu eich data personol gydag adrannau eraill o fewn Cyngor Caerdydd a sefydliadau allanol rydym yn gweithio gyda nhw. Gallai’r rhain gynnwys: 

  • Ein staff – pan fydd y wybodaeth yn hanfodol ac yn ofynnol ar gyfer eu gwaith. 
  • Ein partneriaid – yn unol â’r weithdrefn a gytunwyd yn unig. 
  • Llywodraeth Cymru
  • Y 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru 







Eich hawliau diogelu data

Dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau sy’n cynnwys:

  • Eich hawl mynediad - Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol.  
  • Eich hawl i gywiro - Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi. 
  • Eich hawl i ddileu - Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol dan rai amgylchiadau. 
  • Eich hawl i gyfyngu ar brosesu - Dan rai amgylchiadau mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol. 
  • Eich hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol dan rai amgylchiadau.
  • Eich hawl i gludadwyedd data - Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r wybodaeth bersonol a roesoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, dan rai amgylchiadau.










Nid oes angen i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau.  Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi.


Sut i gwyno 

Os oes gennych unrhyw bryderon am ein defnydd o'ch gwybodaeth bersonol, gallwch wneud cwyn i ni yn diogeludata@caerdydd.gov.uk ​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

Gallwch hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn anhapus â'r ffordd rydym wedi defnyddio eich data. 

Cyfeiriad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Rhif llinell gymorth:  0303 123 1113

Cysylltu â Diogelu Data

Cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data i gael mwy o wybodaeth. 

Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd 
Caerdydd
CF10 4UW 
diogeludata@caerdydd.gov.uk ​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd


Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 12/04/2022.​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd