Lansiwyd ap CardiffGov yn 2018 ac mae'n rhoi swyddogaeth i gwsmeriaid anfon adroddiadau, gwirio casgliadau gwastraff a rheoli treth gyngor.
.
Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r ap hwn yn gwbl hygyrch. Mae hyn yn cynnwys:
Testun sy'n edrych fel pennawd, labeli sy'n gysylltiedig â rhaglenni a labeli dal lle
Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr: Wrth ddefnyddio darllenwyr sgrin ar iOS ac Android, ni fyddwch yn cael gwybod am labeli'r maes ar ôl i chi ddechrau cwblhau'r maes. Nid yw testun sy'n ymddangos yn weledol fel pennawd yn darllen fel pennawd. Mae hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o'r app.
Camau a gymerwyd: Rydym wedi ceisio defnyddio Xamarin Forms AutomationProperty.LabeledBy property ond nid yw hyn yn gweithio ar iOS. Dim arwydd o ffurflenni xamarin yn trwsio hyn. Fel dewis arall, edrychwyd ar Xamarin Community Toolkit's Semantic Effects - codwyd byg GitHub.
Canlyniad: Nid yw Datblygwyr Caerdydd yn gallu trwsio oherwydd nam trydydd parti.
Cynlluniau’r Dyfodol:
Diweddariad Gorffennaf 2023 - Xamarin i drwsio’r byg neu uwchraddio eu platfform i Maui.
Mae Maui nawr ar gael. Mae ein Datblygwyr yn cynnal ymchwiliad pellach. I’w adolygu fis Tachwedd 2023.Ffenestri Naid
Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr: Os ydych chi'n defnyddio bysellfwrdd ar ddyfais Android, ni fyddwch yn gallu llywio i'r ffenestri naid. Mae hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o'r app.
Camau a gymerwyd: Codwyd byg ar GitHub ar ffocws bysellfwrdd. Ddim yn gallu gosod ffocws bysellfwrdd ar ffenestr naid. Mae'r ffocws yn parhau ar y sgrin y tu ôl i’r ffenestr naid yn ddiofyn. Dim ffordd o osod ffocws ar gynnwys ffenestr naid.
Canlyniad: Nid yw Datblygwyr Caerdydd yn gallu trwsio oherwydd nam trydydd parti.
Cynlluniau’r Dyfodol:
Diweddariad Gorffennaf 2023 - Mae byg RG.plugin nuget yn cael ei ddatrys fel rhan o uwchraddiad MAUI. Bydd ein Datblygwyr yn ymchwilio ac adolygu ym mis Tachwedd 2023.
Opsiynau dewis
Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr: Os ydych chi'n defnyddio bysellfwrdd ar ddyfais Android ni fyddwch yn gallu dewis cyfeiriad na dewis canslo. Mae hyn yn effeithio ar yr holl swyddogaethau chwilio am gyfeiriad yn yr app.
Camau a gymerwyd: Nid oes gan Fragments.BottomSheetDialogFragment swyddogaeth hygyrchedd bysellfwrdd. Mae hyn yn nodwedd greiddiol i Android. Byddai angen i ddatblygwyr Caerdydd weithredu dull untro o’i drwsio. Ymchwiliwyd i nifer o newidiadau posibl i ddatrysiadau trydydd parti yn ogystal â rhoi cynnig ar y dull mwy newydd o ddefnyddio ffenestri naid android, ond mae gan hynny hefyd yr un broblem. Mae datblygwyr Caerdydd wedi dod i’r casgliad na fyddai’r un o'r rhain yn trwsio'r byg.
Canlyniad: Mae tîm y prosiect wedi penderfynu gadael hyn gan ragweld datrysiad android yn hytrach na chreu cod personol o'i gwmpas.
Cynlluniau’r Dyfodol:
Diweddariad Gorffennaf 2023 - Dylai uwchraddiad MAUI ddarparu datrysiad posibl. Ni fydd angen i'n Datblygwyr ddibynnu ar ddiweddariadau Android neu iOS. I’w adolygu fis Tachwedd 2023.
Dolenni
Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr: Os ydych yn defnyddio bysellfwrdd ar ddyfais iOS, ni fyddwch yn gallu defnyddio'r dolenni yn natganiad preifatrwydd y Dreth Gyngor, yn nhelerau ac amodau’r canolfannau ailgylchu nac ar dudalennau telerau ac amodau casgliadau swmpus.
Camau a gymerwyd: Datblygwyr Caerdydd yn dal i weithio ar ddull trwsio.
Canlyniad: Heb ei drwsio ar hyn o bryd.
Cynlluniau’r Dyfodol:
Diweddariad Gorffennaf 2023 - Parhau i ymchwilio gyda'r bwriad o’u trwsio mewn diweddariadau yn y dyfodol. I’w adolygu fis Tachwedd 2023.
Chwiliad
Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr: Os ydych chi'n defnyddio bysellfwrdd ar ddyfais Android, ni fyddwch yn gallu tabio'n llwyddiannus drwy adran chwilio'r dudalen 'Adrodd' yn y drefn a ddisgwylir.
Camau a gymerwyd: Ymchwiliad trylwyr gan ddatblygwyr Caerdydd. Ni chodwyd unrhyw fygiau.
Canlyniad: Dim modd trwsio.
Cynlluniau’r Dyfodol:
Diweddariad Gorffennaf 2023 -
Dylai uwchraddiad MAUI ddarparu datrysiad posibl. Ni fydd angen i'n Datblygwyr ddibynnu ar ddiweddariadau Android. I’w adolygu fis Tachwedd 2023.
Ychwanegu delwedd
Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr: Os ydych chi’n defnyddio bysellfwrdd ar ddyfais iOS, ni fyddwch yn gallu tynnu delwedd ar ôl i chi ei hychwanegu at eich adroddiad. Mae hyn yn effeithio ar bob math o adroddiad.
Camau a gymerwyd: Mater iOS creiddiol. Byddai angen i ddatblygwyr Caerdydd weithredu dull untro o’i drwsio. Rydym yn defnyddio UIAlertController iOS - UIAlertController | Dogfennaeth Datblygwr Apple
Canlyniad: Mae tîm y prosiect wedi penderfynu gadael hyn gan ragweld datrysiad android yn hytrach na chreu cod personol o'i gwmpas.
Cynlluniau’r Dyfodol:
Diweddariad Gorffennaf 2023 - Mynd ati i fonitro’n weithredol am drwsiad iOS. Ailedrych ac adolygu ym mis Tachwedd 2023.
Dileu nodyn atgoffa
Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr: Os ydych chi'n defnyddio bysellfwrdd ar ddyfais iOS, ni fyddwch yn gallu defnyddio'r ffenestr naid 'Dileu nodyn atgoffa' ar y dudalen nodiadau atgoffa ar gyfer Casgliadau.
Camau a gymerwyd: Mater rheoli iOS creiddiol. Byddai angen i ddatblygwyr Caerdydd weithredu dull untro o’i drwsio.
Canlyniad: Mae tîm y prosiect wedi penderfynu gadael hyn gan ragweld datrysiad android yn hytrach na chreu cod personol o'i gwmpas.
Cynlluniau’r Dyfodol:
Diweddariad Gorffennaf 2023 - Mynd ati i fonitro’n weithredol am drwsiad iOS. Ailedrych ac adolygu ym mis Tachwedd 2023.
Dewis opsiynau
Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr: Os ydych chi'n defnyddio bysellfwrdd ar ddyfais iOS, bydd angen i chi dabio drwy'r sgrin gyfan i ddewis opsiwn o gwymplenni. Mae hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o'r app.
Camau a gymerwyd: Mater rheoli iOS creiddiol. Byddai angen i ddatblygwyr Caerdydd weithredu dull untro o’i drwsio.
Canlyniad: Mae tîm y prosiect wedi penderfynu gadael hyn gan ragweld datrysiad android yn hytrach na chreu cod personol o'i gwmpas.
Cynlluniau’r Dyfodol:
Diweddariad Gorffennaf 2023 - Mynd ati i fonitro’n weithredol am drwsiad iOS. Ailedrych ac adolygu ym mis Tachwedd 2023.
Ddim ar gael i adrodd ar ap

Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr: Os ydych chi'n defnyddio'r darllenydd sgrin 'TalkBack' ar ddyfais Android, bydd y ddewislen hambyrgyr yn cael ei darllen fel 'Ok/Iawn' drwy'r app.
Camau a gymerwyd: Tocyn GitHub wedi'i godi ar gyfer byg yn Xamarin.
Canlyniad: Nid yw Datblygwyr Caerdydd yn gallu trwsio oherwydd nam trydydd parti.
Cynlluniau’r Dyfodol:
Diweddariad Gorffennaf 2023 - Xamarin i drwsio’r byg neu uwchraddio eu platfform i Maui.
Mae Maui nawr ar gael. Mae ein Datblygwyr yn cynnal ymchwiliad pellach. I’w adolygu fis Tachwedd 2023.
Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr: Os ydych chi'n defnyddio bysellfwrdd ar ddyfais Android, ni fyddwch yn gallu defnyddio rhai o’r ffenestri naid drwy’r app.
Camau a gymerwyd: Codwyd byg ar GitHub ar ffocws bysellfwrdd. Ddim yn gallu gosod ffocws bysellfwrdd ar ffenestr naid. Mae'r ffocws yn parhau ar y sgrin y tu ôl i’r ffenestr naid yn ddiofyn. Dim ffordd o osod ffocws ar gynnwys ffenestr naid.
Canlyniad: Nid yw Datblygwyr Caerdydd yn gallu trwsio oherwydd nam trydydd parti.
Cynlluniau’r Dyfodol:
Diweddariad Gorffennaf 2023 - Mae byg RG.plugin nuget yn cael ei ddatrys fel rhan o uwchraddiad MAUI. Bydd ein Datblygwyr yn ymchwilio ac adolygu ym mis Tachwedd 2023.
Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr: Os ydych chi'n defnyddio bysellfwrdd ar ddyfais Android, ni fyddwch yn gallu defnyddio unrhyw un o’r cwymplenni drwy’r app.
Camau a gymerwyd: Ymchwilio ac ymdrechion i ddatrys.
Canlyniad: Nid yw Datblygwyr Caerdydd yn gallu trwsio oherwydd nam trydydd parti.
Cynlluniau’r Dyfodol:
Diweddariad Gorffennaf 2023 - Xamarin i drwsio’r byg neu uwchraddio eu platfform i Maui.
Mae Maui nawr ar gael. Mae ein Datblygwyr yn cynnal ymchwiliad pellach. I’w adolygu fis Tachwedd 2023.
Testun dal lle
Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr: Wrth ddefnyddio darllenwyr sgrin ar iOS ac Android, ni fyddwch yn cael gwybod am labeli'r meysydd ar ôl i chi ddechrau cwblhau'r maes. Mae hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o'r app.
Camau a gymerwyd: Rydym wedi ceisio defnyddio Xamarin Forms AutomationProperty.LabeledBy property ond nid yw hyn yn gweithio ar iOS. Dim arwydd o ffurflenni xamarin yn trwsio hyn. Fel dewis arall, edrychwyd ar Xamarin Community Toolkit's Semantic Effects - codwyd byg GitHub.
Canlyniad: Nid yw Datblygwyr Caerdydd yn gallu trwsio oherwydd nam trydydd parti.
Cynlluniau’r Dyfodol:
Diweddariad Gorffennaf 2023 - Xamarin i drwsio’r byg neu uwchraddio eu platfform i Maui. Mae Maui nawr ar gael. Mae ein Datblygwyr yn cynnal ymchwiliad pellach. I’w adolygu fis Tachwedd 2023.
Saeth yn ôl
Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr: Os ydych chi'n defnyddio dyfais Android, bydd y saeth yn ôl yn y pennawd yn cael ei darllen gan TalkBack fel bod 'heb label'. Mae hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o'r app.
Camau a gymerwyd: Datgelodd yr ymchwiliad hyn fel nodwedd Android gynhenid. Byddai angen i ddatblygwyr Caerdydd weithredu dull untro o’i drwsio.
Canlyniad: Mae tîm y prosiect wedi penderfynu gadael hyn gan ragweld datrysiad android yn hytrach na chreu cod personol o'i gwmpas.
Cynlluniau’r Dyfodol:
Diweddariad Gorffennaf 2023 - Mynd ati i fonitro’n weithredol am drwsiad Android. Ailedrych ac adolygu ym mis Tachwedd 2023. Cyfeiriadedd - Asesiad baich anghymesur
Mae ein app wedi'i ddatblygu i'w ddefnyddio yn y modd portread. Bydd galluogi newid cyfeiriadedd i’r modd tirlun yn arwain at golli ymarferoldeb ar draws holl wasanaethau'r app a’r rhyngwyneb defnyddiwr.
Cwmpas
Mae'r asesiad hwn yn ymwneud â chyfeiriadedd app Cardiff Gov. Mae'r app wedi'i osod yn y modd portread ar hyn o bryd.
Manteision
Manteision galluogi’r app i weithredu yn y modd tirlun:
- Mwy o hyblygrwydd i ddefnyddwyr weld a llywio’r app ar eu ffonau
- Mwy o hyblygrwydd i ddefnyddwyr weld a llywio’r app ar eu cyfrifiaduron llechen
Baich
Ein hasesiad o'r baich i ailddatblygu'r app fel y gall weithredu’n effeithiol yn y moddau portread a thirlun yw y bydd angen datblygu pob rhan o'r app. Byddai'n rhaid gwneud gwaith ymchwilio a datblygu o ran y canlynol (nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysfawr):
- map iShare (trydydd parti)
- Android – ailgychwyn yr app bob tro y bydd y ddyfais yn cael ei chylchdroi
- Android - mae’r camera’n ail-lwytho’r app
- Android - mae’r bysellfwrdd yn cuddio’r sgrîn iOS – methu gweld teipio ar y sgrîn Integreiddio'r dreth gyngor â Northgate (trydydd parti)
- byddai angen newidiadau o ran y rhyngwyneb defnyddiwr ar bob sgrîn yn yr app.
Ffactorau eraill
Hefyd yn berthnasol i'r penderfyniad hwn yw’r isod:
- Mae’r awydd i ddefnyddio'r app yn y modd tirlun yn isel - nid ydym wedi derbyn unrhyw adborth, awgrym na chwyn gan gwsmeriaid mewn perthynas â'r swyddogaeth hon.
- Ar hyn o bryd mae'r app yn bodloni gofynion hygyrchedd ar gyfer nifer mawr o ddefnyddwyr.
Meini prawf
Credwn y byddai costau ailddatblygu'r app i alluogi newid cyfeiriadedd o’r modd portread i’r modd tirlun lle nad oes tystiolaeth o alw yn ddefnydd gwael o adnoddau cyfyngedig ac y byddai'n faich anghymesur ar y sefydliad o ran cost.
Dyddiad Asesu: 2 Ebrill 2022
Golygwyd y tro diwethaf: 8 Ebrill 2022
Ein nod yw adnabod a thrwsio materion yn yr amserlenni a nodir. Byddwn yn parhau i siarad â darparwyr trydydd parti i weld pa welliannau y gellir eu gwneud i'w systemau.