Mae C2C yn profi problemau technegol ysbeidiol gyda’n gwasanaeth gwe-sgwrs.
Os ydi ymatebion yn stopio ac mae’n ymddangos nad yw’r person sy’n helpu chi yna bellach, plîs datgysylltwch a thrïwch eto. Fel arall, plîs rhowch alwad i ni ar 029 2087 2088.
Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd ac rydym yn gweithio’n galed i drwsio’r broblem.
Oherwydd natur y gwasanaeth hwn, ni allwn sicrhau y bydd ymatebion yn ramadegol gywir. Caiff pob sgwrs ar-lein ei recordio.
Daw’r sgwrs ar-lein i ben yn ddirybudd os byddwch yn defnyddio iaith fygythiol neu sarhaus.
Mae’r gwasanaeth ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.30am a 6pm. Mae’r ganolfan gyswllt ar gau yn ystod gwyliau banc y DU.
Sut i ddefnyddio’r gwasanaeth sgwrsio ar-lein
- Ar ôl derbyn yr amodau defnyddio a chlicio i siarad ag asiant, bydd ffenestr newydd yn agor yn eich porwr i ddechrau’r sesiwn.
- Rhennir y ffenestr yn 2 ran. Mae’r rhan uchaf yn dangos y sgwrs rhyngoch chi a’r asiant. Mae’r rhan waelod ar gyfer pori gwefannau defnyddiol.
- I ddechrau sgwrs, symudwch y llygoden i’r adran ‘Sgwrsio’ ar frig y dudalen.
- Unwaith i chi deipio’ch sylwadau, cliciwch ‘Anfon’ neu pwyswch y botwm 'Enter'. Yna caiff eich sylwadau eu dangos yn yr adran 'Sgwrsio’.
- Ar ôl ychydig eiliadau bydd ein hasiant yn anfon ymateb i chi.
- Os hoffech weld y sgwrs gyfan, sgroliwch i fyny ac i lawr.
Gallwch bori gwefannau yn y ffenestr oddi tano. Gall yr asiant eich gwahodd i ‘gyd-bori’ sesiwn, fel y gall ddangos gwefan ddefnyddiol i chi i’ch helpu â’ch ymholiad.