Y Cyngor yw ymddiriedolwr Parc Maendy, elusen sydd wedi'i chofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau o dan y rhif elusen 524137.
Mae'r elusen yn ystyried cynnig i ryddhau rhan o'r tir ym Mharc Maendy gan yr Elusen er mwyn darparu ar gyfer cynnig i ehangu Ysgol Uwchradd Cathays.
Mae'r Cyngor yn cynnig darparu tir amgen yn ei berchnogaeth yng Nghaedelyn nad yw'n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar hyn o bryd nac yn ddarostyngedig i gyfamodau tebyg yn gyfnewid am dir yr elusen.
Cynnig wedi'i ddiweddaru
Yn dilyn yr hysbysiad blaenorol a roddwyd yn y Western Mail ar 20 Mai 2022, mae Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd, fel ymddiriedolwr Parc Maendy, yn hysbysu bod fersiwn wedi’i diweddaru o gynllun sy’n dangos y tir i’w gyfnewid yn ôl y cynnig wedi cael ei pharatoi a’i bod ar gael i’w gweld ar wefan y Cyngor.
Diben y cynllun diwygiedig yw ystyried addasiadau i ffin y tir sydd ei angen ym Mharc Maindy er mwyn darparu mynediad arfaethedig i faes parcio a gedwir gan yr Elusen. Mae cynllun o'r tir yng Nghaedelyn hefyd wedi ei ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau i'r ffiniau ac i ddangos hawliau mynediad i'r tir cyfnewid.
Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio unrhyw sylwadau ychwanegol am y cynnig i gyfnewid tir, fel a ddangosir yn y cynlluniau diwygiedig.
Gweler y cynlluniau wedi'u diweddaru:
Mae’r wybodaeth a geir yn y dogfennau hyn wedi’u dylunio i’w hargraffu. Mae’n bosib na fydd modd gweld popeth ar-lein.
Penderfyniad
Bydd y penderfyniad ynghylch a ddylid cymeradwyo'r cynnig i gyfnewid tir ai peidio yn cael ei wneud ar sail a yw er budd gorau'r Elusen, gan roi sylw i'w hamcanion elusennol, sef: at ddiben hamdden, mannau agored a maes chwarae. Mae hyn yn golygu bod rhaid i'r ymddiriedolwr fod yn fodlon bod y tir amgen yn dir cyfnewid addas i gyflawni amcanion yr Elusen.
Bydd canlyniad yr ymgynghoriad hwn yn cael ei ystyried ynghyd ag unrhyw wybodaeth a chyngor perthnasol ychwanegol sy'n ofynnol i wneud penderfyniad.
Os bydd penderfyniad yn cael ei wneud i gymeradwyo'r cynnig i gyfnewid tir, bydd angen cael gorchymyn gan y Comisiwn Elusennau cyn gweithredu'r penderfyniad, oherwydd gwrthdaro buddiannau'r Cyngor yn y mater hwn.
Dweud eich dweud
Mae'r ymgynghoriad hwn bellach ar gau.
Cynlluniau blaenorol
Rydym wedi gwneud newidiadau i'r cynlluniau arfaethedig. Gallwch weld y cynlluniau gwreiddiol: