Yn ystod Argyfwng COVID-19 rydym wedi ymateb i dros 1,000 o ymholiadau gwirfoddoli. Rydym am sicrhau bod y rhai sydd wedi rhoi o'u hamser i'w cymuned yn cael y cyfle i wneud hynny eto ac i roi adborth i ni.
Os ydych chi wedi gwirfoddoli yn eich cymuned, ar gyfer sefydliad neu unrhyw Grŵp Cymorth COVID-19 yn ystod argyfwng y Coronafeirws, hoffwn glywed gennych. Rhannwch eich profiad a'n helpu i barhau i adeiladu cymuned wirfoddoli gref yng Nghaerdydd.
Cwblhewch ein harolwg byr a gallwch gael eich cynnwys mewn raffl i ennill cerdyn rhodd o £50.