Rydym yn bwriadu datblygu Glanfa'r Iwerydd yn Butetown a chreu cyrchfan ymwelwyr orau y DU.
Mae ein cynlluniau’n cynnwys:
- Arena digwyddiadau 15,000 o gapasiti
- Datblygiad defnydd-cymysg modern, gan gynnwys bwyd a hamdden, yn cymryd lle Canolfan y Ddraig Goch
- Canolfan ddiwylliannol newydd sy'n ymgorffori gofod cynhyrchu Canolfan Mileniwm Cymru, Oriel Gelf Genedlaethol bosib, ac atyniad ymwelwyr 'I’r Bur Hoff Bau’.
- Sgwâr cyhoeddus wedi'i dirlunio gyda gofod digwyddiadau, mannau eistedd a gweithgareddau am ddim i blant.
- Travelodge newydd.
- Gwesty pedair seren 150 ystafell wely;
- 150,000 troedfedd sgwâr o ofod swyddfa
- Hyd at 1,100 o gartrefi newydd.
- Canolfan drafnidiaeth newydd sy'n cysylltu'r llinell metro rhwng y Bae, y Ddinas a gorsaf newydd Parc Llaneirwg, a chysylltiadau i gerddwyr a thrafnidiaeth, gan gynnwys bysus, ceir, beiciau a sgwteri.
Dweud eich dweud
Rydym am glywed gan fusnesau, trigolion lleol, grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid ar gynlluniau ar gyfer Glanfa'r Iwerydd.