Mae Bwyd Caerdydd yn bartneriaeth o unigolion a sefydliadau ar hyd a lled y ddinas. Mae'n gweithredu fel hyb i gysylltu'r bobl a'r prosiectau sy'n gweithio i hyrwyddo bwyd iach, cynaliadwy a moesegol ledled y ddinas; mae'n llais dros newid ehangach.
Mae Bwyd Caerdydd yn credu bod y bwyd yr ydym yn ei fwyta yn cael effaith aruthrol ar fywyd yng Nghaerdydd - nid yn unig ar iechyd pobl, ond ar gymunedau a busnesau, ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd, a'r amgylchedd hefyd. Mae bwyd da yn creu cymunedau cryf, iach a gwydn.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Bwyd Caerdydd wedi datblygu a thyfu'n sylweddol, gan gael effaith amlwg ar y ddinas gyfan, er enghraifft cydlynu ymateb bwyd da yn y ddinas i Covid-19 a dosbarthu 20,000 o blanhigion llysiau i aelwydydd yn ystod y cyfnod clo.
Yn 2021 mae Bwyd Caerdydd yn cychwyn ar gam nesaf ei daith, gan weithio i ddod yn un o'r Lleoedd Bwyd Cynaliadwy gorau yn y DU drwy ddatblygu strategaeth bwyd da tair blynedd ledled y ddinas.
Rydym am i bawb yn y ddinas gael llais, a helpu i lunio nodau, canlyniadau a chamau gweithredu ar gyfer strategaeth bwyd da Caerdydd. Rydym yn awyddus i gynifer o bobl â phosibl chwarae eu rhan wrth drawsnewid system fwyd Caerdydd yn un iach, cynaliadwy a ffyniannus sy'n grymuso pobl ac sy'n gysylltiedig.
Drwy rannu eich barn, byddwch yn cyfrannu at y strategaeth derfynol a fydd yn cael ei lansio yn ddiweddarach eleni, a fydd yn ein helpu i fonitro ein cynnydd a'n heffaith dros y tair blynedd nesaf.