Bydd y cyfrifiad yn cael ei gynnal ddydd Sul 21 Mawrth 2021. Dylech gyflwyno'ch cyfrifiad ar y diwrnod hwn, neu cyn gynted â phosibl ar ôl hynny.
Arolwg sy'n cael ei gynnal bob 10 mlynedd yw’r cyfrifiad. Mae'n cynnig gwybodaeth fanwl am boblogaeth y DU, sy'n ein helpu i ddeall y galw am wasanaethau cyhoeddus.
Mae'n bwysig iawn eich bod yn cymryd rhan yn y cyfrifiad. Drwy gymryd rhan, byddwch yn helpu i sicrhau eich bod chi a'ch cymuned yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen nawr ac yn y dyfodol. Gallech gael dirwy o hyd at £1,000 os na chwblhewch ffurflen y cyfrifiad.
Dylai deiliad y tŷ lenwi'r cyfrifiad ar ran aelodau’r cartref. Dyma'r person sy'n berchen ar yr eiddo neu sy'n ei rentu (neu sy'n berchen ar yr eiddo ar y cyd neu'n ei rentu ar y cyd), neu'r person sy'n gyfrifol (neu'n gyfrifol ar y cyd) am dalu biliau a threuliau'r cartref.
Cwblhau'r Cyfrifiad
Bydd y cyfrifiad hwn yn un Dewis Digidol.
Dylech gyflwyno'ch holiadur ar 21 Mawrth 2021 neu cyn gynted â phosibl ar ôl hynny.
Dylech ateb y cwestiynau unigol yn holiadur yr aelwyd ar ran:
- unrhyw un sy'n byw gyda chi'n barhaol neu sy'n ystyried eich cyfeiriad fel ei gartref teuluol
- pobl sy’n byw i ffwrdd o’r cartref dros dro, er enghraifft myfyrwyr neu blant mewn ysgol breswyl
- pobl sy'n aros gyda chi dros dro os ydynt yn byw yn y DU ac nad oes ganddynt gyfeiriad arall
- pobl sy'n aros gyda chi dros dro o'r tu allan i'r DU ac sy'n aros yn y wlad am dri mis neu fwy
Mae hefyd adran ar wahân i’w llenwi ar ymwelwyr sy'n aros gyda chi dros nos ar 21 Mawrth 2021.
Yng Nghymru a Lloegr, y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) sy'n cynnal y cyfrifiad ar hyn o bryd. Diogelwch eich gwybodaeth yw ei phrif flaenoriaeth. Nid oes modd eich adnabod yn yr ystadegau y mae’n eu cyhoeddi. Diogelir y wybodaeth bersonol a roddwch iddi gan y gyfraith.