Beth yw Panel Dinasyddion Caerdydd?
Mae’r Panel Dinasyddion yn cynnwys preswylwyr lleol o ardaloedd ledled Caerdydd sydd wedi cytuno i roi eu barn ar nifer o bynciau ymgynghori drwy gydol y flwyddyn. Bydd aelodau’r panel yn rhannu eu barn trwy lenwi arolygon ac, o bryd i’w gilydd, trwy gymryd rhan mewn gweithgarwch arall megis grwpiau ffocws, gweithdai neu fforymau.
Pam mae angen panel ar Gaerdydd?
Gall y Panel Dinasyddion fod yn ffordd ddibynadwy a chost-effeithiol o gael gwybod beth yw barn pobl Caerdydd am y gwasanaethau sydd ar gael iddynt. Trwy wrando ar farn yr aelodau gall y Cyngor:
- ddysgu rhagor am brofiadau grwpiau neu gymunedau penodol,
- helpu i sicrhau safonau uchel o ran darparu gwasanaethau, ac
- llywio proses gwneud penderfyniadau y Cyngor mewn ffordd ddibynadwy.
Sut mae ymuno?
Mae aelodaeth o’r panel yn agored i bawb, fodd bynnag byddwn yn arbennig o awyddus i glywed gennych os ydych o dan 30 oed.
Os hoffech chi ofyn am becyn cais, cysylltwch â ni, neu:
Panel Dinasyddion Ifanc Caerdydd
Os ydych yn berson ifanc rhwng 11 a 25 oed sy'n byw yng Nghaerdydd, gallwch ymuno â'r Panel Dinasyddion Plant a Phobl Ifanc a rhoi eich barn i ni ar wahanol bynciau drwy gydol y flwyddyn.
Byddwch yn rhannu eich barn drwy arolygon, ac weithiau grwpiau ffocws, gweithdai neu fforymau.
Beth am gyfrinachedd?
Mae’r Cyngor yn prosesu data personol yn ddyddiol. Rydym yn cadw rhywfaint o wybodaeth amdanoch chi ("data personol"). Felly rydym wedi cofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae’n rhaid i unrhyw wybodaeth sydd gennym gael ei phrosesu yn unol â'r egwyddorion a restrir gan Reoliadau’r Comisiynydd Gwybodaeth, ac mae’n rhaid i ni gydymffurfio â nhw.
Am ba mor hir y byddwn yn Aelod o Banel y Dinasyddion?
Gofynnwn i chi ymuno â’r Panel am dair blynedd, ar ôl hynny byddwn yn rhoi cyfle i bobl eraill ymuno ag ef i fynegi eu barn.
Beth os byddaf yn newid fy meddwl ar ôl ymuno â’r Panel?
Os byddwch yn penderfynu rhoi’r gorau i fod ar y Panel yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw rhoi gwybod i ni!