Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Yr Arglwydd Faer Cyfredol

Cllr Bablin Molik LM.jpg​​​​
​​
​Y Cynghorydd Bablin Molik
Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd
Blwyddyn Drefol 2023 i 2024


Manylion Personol


Mae cynghorydd Caerdydd, Bablin Molik, sydd wedi dod yn 118fed Arglwydd Faer Caerdydd, wedi enwi UCAN Productions​ - elusen berfformio a chelfyddydau creadigol ar gyfer plant dall a rhannol ddall - fel ei helusen ddewis am ei chyfnod yn y swydd.

Bydd y Cynghorydd Molik yn cael cymorth yn rôl cennad allweddol y ddinas gan y Cynghorydd Jane Henshaw sef y Dirprwy Arglwydd Faer newydd. Bydd y ddau gynghorydd yn ymgymryd â'u swyddi newydd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) Cyngor Caerdydd ddydd Iau 25 Mai. 

"Mae'n anrhydedd mawr i fod yn 118fed Arglwydd Faer Caerdydd. Fi yw’r 16eg Arglwydd Faer benywaidd, y dynes o liw gyntaf ac Arglwydd Faer Fwslimaidd cyntaf Caerdydd. Yn ogystal â'r dyletswyddau dinesig a roddir imi, rwy'n awyddus iawn i fynd allan i'r gymuned i hyrwyddo fy elusen ddewis sef UCAN Productions. Mae gan Gaerdydd gymaint i'w gynnig, ac rwy'n edrych ymlaen at yr amserlen brysur sydd o'm blaen. Eisoes mae cyfres eang o ddigwyddiadau'n cael eu trefnu er mwyn i ni allu ymweld â chymaint o gymunedau â phosib ar draws y ddinas." 

Mae'r Arglwydd Faer yn gweithredu fel prif gennad ar gyfer swyddogaethau dinesig y ddinas, ac fel y cadeirydd yng nghyfarfodydd y Cyngor Llawn.

Mae'r Cynghorydd Molik yn gynghorydd dros Gyncoed a Lakeside. Cafodd ei hethol i'r cyngor am y tro cyntaf yn 2017 ac fe'i hail-etholwyd yn 2022. Bydd ei gŵr, Molik Musaddek Ahmed yn dod yn Gydweddog yr Arglwydd Faer.

Yn briod a gyda dwy ferch yn eu harddegau, symudodd y Cynghorydd Molik i Gymru fel plentyn chwech oed o Fangladesh. Cafodd ei haddysg yng Nghaerdydd, gan fynychu Ysgol Gynradd Marlborough, yna Ysgol Gatholig Corpus Christi cyn astudio ar gyfer Lefel A yng Ngholeg Catholig Dewi Sant. Mae gan y Cynghorydd Molik Radd BSc mewn Biocemeg a PhD mewn Bioleg Llygaid o Brifysgol Caerdydd.

Y Cynghorydd Molik yn cymryd yr awenau fel Arglwydd Faer gan y Cynghorydd Graham Hinchey a'r Cynghorydd Henshaw yn cymryd drosodd fel Dirprwy Arglwydd Faer gan Y Cynghorydd Abdul Sattar.​



​​​ ​​​​​​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd