Yr Arglwydd Faer, Dinesydd Cyntaf Caerdydd, yw'r prif lysgennad yn nigwyddiadau Dinesig y ddinas. Yr Arglwydd Faer presennol yw Cynghorydd Graham Hinchey a'r dirprwy Arglwydd Faer yw
Cynghorydd Abdul Sattar.
Mae'r Arglwydd Faer yn sicrhau traddodiad a pharhad, sy'n llesol i'r ddinas yn fasnachol a chymdeithasol. Roedd sawl Arglwydd Faer yn flaenllaw yn yr ymgyrch i roi statws prifddinas i Gaerdydd yn 1955.
Mae pob Arglwydd Faer yn wleidyddol niwtral yn ystod eu blwyddyn yn y swydd, ac yn cadeirio cyfarfodydd y cyngor.
Dyletswyddau seremonïol y Faeryddiaeth yw elfen amlycaf y flwyddyn yn y swydd - mewn digwyddiadau fel rhoi rhyddid y ddinas i 'Bersonau Anrhydeddus'. Mae Tywysoges Cymru, Is-iarll Tonypandy, y Gwir Anrhydeddus James Callaghan, y Pab John Paul II, Nelson Mandela a Syr Tasker Watkins ymhlith y rheiny sydd wedi derbyn yr anrhydedd hwn.
Ar gyfer yr holl faterion yn ymwneud â Maeryddiaeth, cysylltwch â:
Y Swyddfa Brotocol
Hawlfraint Y Plasty,
Heol Richmond,
Caerdydd,
CF24 3UN
029 2087 1543 / 029 2087 3403
YSwyddfaBrotocol@caerdydd.gov.uk