Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ymweld â Neuadd y Sir

​Neuadd y Sir yw prif bencadlys Cyngor Caerdydd. 

Cewch ymweld â Neuadd y Sir drwy apwyntiad yn unig. Fodd bynnag, does dim angen i chi wneud apwyntiad os ydych chi’n:

  • mynd i gyfarfod cyhoeddus,
  • cyflwyno deiseb i'r Cyngor, neu’n
  • dod i weld dogfen y Cyngor.

Pleidleiswyr

Does dim angen i chi wneud apwyntiad i ymweld os ydych chi’n:

  • cofrestru i bleidleisio,
  • gwneud cais am bleidlais absennol, 
  • gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr,
  • cyflwyno cais wedi'i gwblhau,
  • cyflwyno pecyn pleidleisio drwy'r post,
  • casglu Tystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr dros dro, neu
  • gasglu pecyn pleidleisio drwy'r post sy'n cael ei ail-gyflwyno ar y diwrnod pleidleisio.


Er nad oes angen apwyntiad arnoch, rydym yn argymell eich bod yn ffonio'r Gwasanaethau Etholiadol cyn ymweld.

Ymgeiswyr ac asiantau


Does dim angen i chi wneud apwyntiad i ymweld os ydych chi’n:

  • gwneud cais am wiriad anffurfiol o bapurau enwebu
  • cyflwyno ffurflen enwebu wedi'i chwblhau neu unrhyw ddogfennau ategol,
  • mynychu sesiwn friffio gan y Swyddog Canlyniadau, neu
  • arsylwi’r broses o agor pleidleisiau post.


Er nad oes angen i chi wneud apwyntiad, rydym yn argymell eich bod yn ffonio'r Gwasanaethau Etholiadol cyn ymweld.

Ffôn: 029 2087 2034


175139.225:319325.12109375||500
























​Neuadd y Sir,​
Glanfa'r Iwerydd,​
Caerdydd,
CF10 4UW​


I gefnogi teithio cynaliadwy, rydym yn annog ymwelwyr i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Os ydych yn teithio mewn car, byddwch yn gallu defnyddio'r mannau parcio talu ac arddangos ar y ffordd gerllaw, neu'r maes parcio yng Nghanolfan y Ddraig Goch. ​

Mae’r safle bws agosaf yn union y tu allan i’r brif fynedfa a’r orsaf drenau agosaf yw gorsaf Bae Caerdydd ar Rodfa Lloyd George.

Mae gwasanaethau bws a thrên rheolaidd, ewch i Bws Caerdydd​​​​ i weld llwybrau lleol neu i TravelineCymru​​​​​ i gynllunio eich taith ar-lein.




​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd