Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Polisi Cyflog y Cyngor

​​​Mae Cyngor Caerdydd yn deall mor bwysig yw cael polisi tâl ysgrifenedig clir i gyflogeion. Mae’r Datganiad Polisi Tâl yn cynnig fframwaith i sicrhau bod cyflogeion yn cael eu talu’n deg ac yn wrthrychol heb arwahanu.
 
Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol dan Ddeddf Lleoliaeth 2011 ac i baratoi Datganiad Polisi Tâl bob blwyddyn. Roedd y datganiad cyntaf ar waith erbyn 31 Mawrth 2012 ac maent wedi’u cyhoeddi bob blwyddyn ers hynny.  
 
Canolbwynt y ddeddfwriaeth yw tryloywder ynghylch tâl y Prif Swyddogion a sut mae eu tâl nhw’n cymharu â chyflogeion eraill ar lefel is yn y Cyngor.  Fodd bynnag, er tryloywder ac atebolrwydd, mae Datganiad Polisi Tâl y Cyngor yn cynnwys pob grŵp o gyflogeion, heblaw am athrawon (gan mai Llywodraeth Cymru sy’n pennu tâl y grŵp hwn ers 1 Medi 2019 (a’r Ysgrifennydd Gwladol tan 31.8.2018) ac felly nid yw dan reolaeth yr awdurdod lleol).  Nid yw’r Datganiad Polisi Tâl yn cynnwys Aelodau’r Cyngor gan nad ydynt yn gyflogeion ac maent yn cael eu llywodraethu gan ddeddfwriaeth ar wahân drwy Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.


© 2022 Cyngor Caerdydd