Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Polisi ansawdd

Mae Gwasanaethau Ailgylchu a Chymdogaethau a Gweithrediadau Cynnal a Chadw Priffyrdd Cyngor Caerdydd yn gwbl ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau cost-effeithiol, effeithlon o safon uchel sy’n bodloni disgwyliadau ein cwsmeriaid a’r cymunedau a wasanaethwn a’n rhanddeiliaid allweddol (partïon â diddordeb).

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau yn unol â Chynlluniau'r Sector Priffyrdd Cenedlaethol, ein Strategaeth Gwastraff, yr holl safonau perthnasol, ystyriaethau amgylcheddol a deddfwriaeth briodol, gan gynnwys canllawiau a threfniadau cyfredol Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli adeiladau, offer, staff, ymwelwyr a’r cyhoedd yn ystod y pandemig COVID-19.

Byddwn yn ymgynghori â phobl leol, sefydliadau lleol a rhanddeiliaid allweddol i nodi eu pryderon drwy ddull seiliedig ar risg, i gyd o fewn cyfyngiadau deddfwriaethol a’r adnoddau sydd ar gael ac ar y cyd â’n partneriaid.  Byddwn yn ceisio gwella ansawdd, graddfa a natur y gwasanaethau a ddarperir yn barhaus.

Cydnabyddwn fod pob cyflogai, wrth ei waith bob dydd, yn gwneud cyfraniad allweddol i'r gwaith cyffredinol o ddarparu gwasanaethau’r Cyngor, boed yn fewnol neu'n allanol, a byddwn yn eu hannog i ddatblygu fel cyflogeion yn ogystal â chyfrannu at baratoi, gweithredu a gwerthuso gweithgareddau gwella.

Byddwn yn cyhoeddi'r Polisi Ansawdd hwn ar ein system rheoli dogfennau Sharepoint a gwefan y Cyngor ac yn ei arddangos mewn swyddi amlwg ledled y gweithle lle bo hynny'n briodol.  Bydd pob rheolwr yn gyfrifol am godi ymwybyddiaeth o’r polisi ac atgyfnerthu diwylliant o ragoriaeth ymhlith ein pobl.

Bydd y Polisi Ansawdd yn cael ei adolygu'n flynyddol drwy ein system adolygu rheolaeth er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol i'n hamcanion gweithredol a blaenoriaethau strategol ehangach y Cyngor.

Mae timau ein Gwasanaethau Ailgylchu a Chymdogaethau a Chynnal a Chadw Priffyrdd yn gweithredu System Rheoli Ansawdd sy’n bodloni gofynion ISO 9001:2015 y gellir rhyddhau ei chwmpas cofrestredig (rhif tystysgrif FS 645622) ar gais.


​​

© 2022 Cyngor Caerdydd