Mae adroddiad Sound Diplomacy ar sector cerddoriaeth Caerdydd wedi ei gyhoeddi.
Mae’r adroddiad yn gwneud 12 o argymhellion strategol a allai, o’u hymgorffori yn llawn i Strategaeth Gerddoriaeth Caerdydd, weld gwireddu’r canlynol:
- Sefydlu digwyddiad neu ŵyl mawr o bwys a fydd yn rhoi llwyfan i artistiaid rhyngwladol o genres cerddorol amrywiol;
- Sefydlu Bwrdd Cerddoriaeth ar gyfer y ddinas er mwyn cynrychioli ac eirioli dros Gaerdydd fel Dinas gerdd gyntaf y DU;
- Uwchgynllun ar gyfer Cwr y Castell fydd yn tanlinellu ei sefyllfa unigryw o fewn sîn gerddoriaeth Caerdydd;
- Adnewyddu ac ail-wampio Neuadd Dewi Sant i greu Neuadd Gyngerdd Genedlaethol wedi ei hadfywio;
- Adolygu’r polisïau trwyddedu presennol a chyflwyno parthau Llwytho i Gerddorion mewn lleoliadau yn y ddinas;
- Creu strategaeth farchnata Dinas Gerdd Caerdydd i ymwelwyr;
Cymerodd adroddiad Dinas Gerdd Sound Diplomacy flwyddyn i’w lunio a bu’r ymgynghorwyr –sydd gyda’r mwyaf blaenllaw yn y byd ac sy’n helpu dinasoedd i wireddu twf economaidd, buddsoddiad a datblygiad diwylliannol trwy gyfrwng cerddoriaeth – yn siarad â channoedd o bobl sy’n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghaerdydd.
Gweld y ddatganiad i'r wasgDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd