Mae Cyngor Caerdydd yn gyflogwr o bwys yn rhanbarth de-ddwyrain Cymru gan gyflogi gweithlu o tua 11,320 o bobl (Ebrill 2020). Mae’r Cyngor yn darparu amrywiaeth helaeth o wasanaethau gan gynnwys gwasanaethau amgylcheddol, cymdeithasol, addysg a thai ar gyfer poblogaeth ddinesig o tua 366,903 (canol 2020) ac o ganlyniad mae’n cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd lleol, yn gadarnhaol a negyddol.
Mae Cyngor Caerdydd yn cydnabod ei rôl a’i gyfrifoldeb dros ddiogelu a gwella’r amgylchedd. Datganodd Cyngor Caerdydd Argyfwng Hinsawdd ym mis Mawrth 2019, ac mae'n gweithio tuag at ddod yn sefydliad ac yn ddinas garbon niwtral erbyn 2030, fel y nodwyd yng Ngweledigaeth Caerdydd Un Blaned y Cyngor.
Mae gan y Cyngor rôl i arwain drwy esiampl a helpu i wella'r amgylchedd o fewn y sefydliad, a thrwy gydweithio gyda phartneriaid.
Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i:
- Wella’i berfformiad amgylcheddol yn barhaus er mwyn sicrhau yr effeithir cyn lleied â phosibl yn andwyol ar yr amgylchedd, drwy ddilyn yr egwyddorion datblygu cynaliadwy a ymgorfforir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a system rheoli amgylcheddol y Ddraig Werdd;
- Cydymffurfio gyda phob deddfwriaeth a rheoliad amgylcheddol perthnasol,
- Annog arferion amgylcheddol cyfrifol gan ei gyflenwyr, ei gontractwyr a’i bartneriaid, a
- Bod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030.
Yn benodol, bydd Cyngor Caerdydd yn:
- Rheoli gweithgareddau i sicrhau bod risg llygredd yn cael ei reoli, ei ddileu neu mor fychan âphosibl;
- Pennu, a gweithio i gyflawni, amcanion amgylcheddol sy’n:
- Lleihau gwastraff a chynyddu cyfraddau ailgylchu,
- Defnyddio cyn lleied â phosibl o ddŵr ac ynni, a'u defnyddio mewn ffordd effeithiol, gan gynnwys defnyddio ynni carbon isel ac adnewyddadwy pan fo hynny’n briodol,
- Lleihau allyriadau carbon o'r cerbydau fflyd,
- Blaenoriaethu dulliau trafnidiaeth cynaliadwy drwy annog defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, beicio a cherdded,
- Integreiddio cynaliadwyedd ac egwyddorion economi gylchol mewn gweithdrefnau caffael,
- Hybu diogelwch gwydnwch bioamrywiaeth ac eco-systemau a’u gwella
- Adolygu perfformiad i sicrhau gwelliannau amgylcheddol parhaus; a
- Chodi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â datblygu cynaliadwy, yn benodol mynd i’r afael â’r
newid yn yr hinsawdd, o fewn y Cyngor, asiantaethau partner a'r cyhoedd.
Hydref 2020
Paul Orders, Prif Weithredwr
Cyngor Caerdydd