Mae Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai Caerdydd 2022—2026 yn nodi'r cyfeiriad strategol ar gyfer atal digartrefedd a gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai yng Nghaerdydd am y pedair blynedd nesaf.
Mae'r Strategaeth yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn digwydd i atal a mynd i'r afael â digartrefedd a bydd yn atgyfnerthu'r addewid "Dim Mynd yn Ôl" a wnaed yn dilyn y pandemig.
Rydym am sicrhau bod digartrefedd yn brin, yn fyr ac nad yw'n cael ei ailadrodd.
Prif nodau’r Strategaeth yw:
- Atal digartrefedd lle bynnag y bo modd
- Sicrhau bod pawb yn cael y cymorth a'r gefnogaeth gywir
- Mabwysiadu ymagwedd ailgartrefu gyflym tuag at ddigartrefedd
- Darparu llety â chymorth o ansawdd da i'r rhai sydd ei angen.
Mae’r wybodaeth a geir yn y dogfennau hyn wedi’u dylunio i’w hargraffu. Mae’n bosib na fydd modd gweld popeth ar-lein.
Cymerwch olwg ar y Strategaeth rhaglen cymorth tai Caerdydd 2022 i 2026 (3.7mb PDF)Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd